Deg ffermwr, un wobr – mae her Fferm Ffactor ar ddechrau! Nos Fercher 3 Hydref 8.25pm.
Beth sydd gan gyfres 2012 i’w gynnig?
Mae’r gyfres yn bendant yn mynd o nerth i nerth. Mae’r tasgau yn hynod o heriol ac rydyn ni’n profi’r cystadleuwyr mewn pob math o feysydd, sy’n dangos yr amrywiaeth yn y byd amaeth yng Nghymru. Yn sicr, dydy hi ddim yn gystadleuaeth hawdd, a dwi’n dweud ym mhob cyfres fod pwy bynnag fydd yn ennill yn llwyr haeddu’r wobr.
Mae hi’n gyfres adloniannol ond hefyd yn llawn gwybodaeth. Rydym yn dysgu rhywbeth ym mhob un o’r tasgau ac mae’r cyffro yn cadw’r gwylwyr ar flaenau eu cadeiriau achos ar ddiwedd pob rhaglen bydd rhywun yn gorfod gadael.
Beth wyt ti’n feddwl o’r cystadleuwyr eleni?
Mae’r cystadleuwyr wedi bod yn gwmni da o’r cychwyn cyntaf. Maen nhw’n griw hawdd i yrru ‘mlaen gyda nhw, a dwi’n teimlo eu bod nhw wir yn gwerthfawrogi’r cyfle ac yn falch o fod yn rhan o’r gyfres. Mae hynny’n gwneud fy ngwaith i gymaint yn haws.
Ydi’n anodd gorfod ffarwelio ag un ffermwr bob wythnos?
Dwi’n licio bod yn gysur iddyn nhw, ond mi wyt ti’n teimlo’n ofnadwypan maen nhw’n gorfod gadael. Dwi bob tro yn pwysleisio mai’r beirniaid sy’n penderfynu pwy sy’n gadael, nid fi!
Maen nhw’n teimlo dros ei gilydd hefydpan mae un yn cael ei ddiarddel. Yn eu calonnau dydi’r un ohonyn nhw eisiau mynd allan a dydyn nhw ddim isho i’r lleill fynd allan chwaith.
Dwi’n gweld y grŵp yn closio wrth fynd drwy’r tasgau. Mae o’n brofiad hynod o stressful iddyn nhw a ti’n eu gweld nhw’n chwysu ac yn melltithio weithia’! Dwi’n tynnu fy nghap iddyn nhw achos dydy o ddim yn hawdd, ond mae pawb yn gwybod mai dim ond un enillydd sydd yna ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Pa fath o dasgau wyt ti’n credu yw’r anoddaf?
Dwi’n credu bydd y cystadleuwyr yn serennu mewn ffyrdd gwahanol. Bydd y rhai academaidd yn llwyddo wrth wynebu’r cwestiynau yn nhasg y gadair tra bydd eraill yn credu mai dyna’r dasg anoddaf.
Bydd ambell un yn deud bod y tasgau ymarferol yn waeth ond dwi’n gwybod bod tasgau sy’n cyfuno’r ymarferol a’r pen yn gallu bod yn galed i ambell un. Mae’r gyfres yn gyfle i ddysgu wrth gwrs – dwi’n dysgu fy hun!
Mae’n daith bersonol fawr iddyn nhw. Mae pawb sy’n cystadlu ar Fferm Ffactor yn elwa, rhyw ffordd neu’i gilydd. Maen nhw’n adeiladu cyfeillgarwch efo’u cyd-gystadleuwyr ac yn cael cyfle i sgwrsio a thrafod gwaith rhwng y tasgau.
Oes gen ti deimlad o gwbl pwy fydd yn hawlio’r wobr ar ddiwedd y gyfres?
Mae’n ffantastig bod Rhodri wedi ennill y beic yn y sialens fu ar faes Y Sioe Frenhinol ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n arwydd bod o am ennill y gyfres.
Does gen i ddim syniad pwy fydd yn ennill. Maen nhw i gyd yn gystadleuwyr hynod o dalentog ac mae gan bawb ei gryfder, a phob un ei arbenigedd. Ond ar Fferm Ffactor mae’n rhaid i ti gael ymwybyddiaeth dda o bob math o ffermio. Yn bwysicaf oll, rhaid bod yn ymwybodol mai bwyd rwyt ti’n ei gynhyrchu. Dyna ydy diben pob un ffarmwr ar ddiwedd y dydd.
Fferm Ffactor, bob nos Fercher 8.25pm
Gwefan fb.com/ffermffactor @FfermFfactor
