Bydd y gyfres 999: Ambiwlans Awyr Cymru – sy’n dechrau nos Iau 11 Hydref am 9.00yh – yn dilyn gwaith peilotiaid a pharafeddygon yr Ambiwlans Awyr o ddydd i ddydd. 

Byddwn yn ymuno â nhw ar alwadau brys, yn dod i adnabod y timau ac yn sgwrsio â phobl sy’n fyw heddiw oherwydd eu cymorth. 

Stori Nick Richards-Ozzati 

Pan roedd yn 12 oed, cafodd Nick Richards-Ozzati, o Langennech ger Llanelli, ei daro oddi ar ei feic. Roedd ei anafiadau mor ddifrifol, doedd y parafeddygon ddim yn credu y byddai’r bachgen yn goroesi. 

“Ro’n i mewn coma ac wedi torri’r fertebra C1 a C2 yn fy ngwddf,” meddai Nick, sydd nawr yn 21 oed.

“‘Ro’n i wedi torri pont yr ysgwydd a’r ên a ro’n i hefyd wedi cael haemorrhage ar yr ymennydd a’r asgwrn cefn. Ges i sawl CT scan ac mae gen i screws a phlatiau metel yn dal fy mhen i’r corff. Fi moyn diolch i’r nyrsys ac i’r Ambiwlans Awyr am fy helpu i.” 

Oherwydd ei brofiad y diwrnod hwnnw, mae Nick wedi hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac yn un o Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn ardal Llangennech. Mae hefyd yn gweithio yn swyddfa alwadau brys y Gwasanaeth Ambiwlans, yn cydweithio â’r tîm wnaeth achub ei fywyd. 

“Pan glywais i fod e wedi byw ro’n i mor falch,” meddai’r parafeddyg Mel Thomas. “Mae e’n ein bwrw ni gymaint gwaeth pan maen nhw’n blant. Ond, i’w weld e nawr a meddwl sut roedd e pan gafodd e’r ddamwain, mae e’n brilliant. Ni’n siarad nawr fel dau gyd-weithiwr.” 

Stori Malcome Hoyle 

Rhuthrodd yr hofrennydd i helpu Malcome Hoyle, 65 o Wrecsam, yn dilyn damwain ar ei feic modur ym Metws y Coed. 

Wrth i’r parafeddygon gyrraedd y ddamwain, roedd Malcome wedi bod yn anymwybodol am rai munudau ac roedd pryder ei fod wedi anafu ei gefn. 

“Roeddwn i wedi cael fy nharo’n galed nes mod i’n anymwybodol. Roedd fy meddwl i dros y lle i gyd ond yn dilyn y ddamwain mae gen i ambell atgof clir o beth ddigwyddodd i mi. Un o’r pethau mwyaf gwirion dwi’n ei gofio ydi’r sgwrs ynghylch tynnu fy siaced ledr,” meddai Malcome. Bu rhaid i’r parafeddyg ddwyn perswâd arnoi ganiatáu iddynt dorri ei siaced ledr er mwyn trin ei anafiadau.

“Dwi wir yn credu na fuaswn i yma heddiw heb eu help nhw,” ychwanega Malcome, sydd bellach gartref o’r ysbyty ac yn gwella o’i anafiadau. 

 

Yn y rhaglen hefyd, mae’r criw yn helpu i gludo Jackie Lewis, 32 oed, o bentref Caergeiliog, Sir Fôn, i’r ysbyty wedi iddi gwympo lawr y grisiau yn ei chartref. A chawn ddod i adnabod Alwyn Roberts, parafeddyg o Ynys Môn a oedd ymhlith y criw cynta’ i weithio gyda’r Ambiwlans Awyr yn y gogledd. 

999: Ambiwlans Awyr Cymru, Nos Iau 11 Hydref 9.00