Bydd sioe yng nghwmni Cyw a’i ffrindiau yn mynd ar daith o amgylch ysgolion y Nadolig hwn.
Seren Nadolig Cyw yw enw’r Sioe sy’n 40 munud o ddawns, cân a hwyl wrth i Cyw a’i ffrindiau baratoi ar gyfer y diwrnod mawr.
Fe fydd y sioe ar daith rhwng 26 Tachwedd a 7 Rhagfyr gan ymweld ag ysgolion uwchradd yn Y Drenewydd, Dolgellau, Caernarfon, Rhuthun, Llangollen, Caerdydd, Abertawe, Y Coed Duon, Caerfyrddin ac Aberteifi.
Bydd tripiau i weld y sioe yn cael eu trefnu drwy ysgol neu grŵp meithrin yn unig gyda’r plant yn mynd i’r sioe gyda’u hathrawon a’u cynorthwywyr dosbarth o’r ysgol.
Bydd S4C yn anfon e-bost at ysgolion a grwpiau meithrin i egluro’r drefn ar gyfer archebu tocynnau.
Y pris mynediad fydd £5 y plentyn, gydag athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn cael mynd yn rhad ac am ddim.
Os ydych chi’n gweithio i ysgol neu grŵp meithrin ac eisiau trefnu trip, cysylltwch ag Einir ar 029 20916667 neu e-bostio einir@mrproducer.co.uk
Os ydych chi’n awyddus i’ch plentyn chi weld Sioe Nadolig Cyw 2012, cysylltwch â’ch ysgol neu grŵp meithrin.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, mae croeso i chi gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C
Darllen mwy am y daith Gwefan Cyw fb.com/CywarS4C twitter.com/CriwCyw
Y Daith
Llun, 26 Tachwedd, Ysgol Uwchradd y Drenewydd – 9.45am, 11.15am
Mawrth, 27 Tachwedd, Ysgol y Gader, Dolgellau – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Mercher, 28 Tachwedd, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Iau, 29 Tachwedd, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Gwener, 30 Tachwedd, Ysgol Gyfun Dinas Brân, Llangollen – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Llun, 3 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Llanedeyrn, Caerdydd – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Mawrth, 4 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Mercher, 5 Rhagfyr, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Y Coed Duon – 09.45am, 11.15am
Iau, 6 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
Gwener 7 Rhagfyr, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Aberteifi – 10.00am, 11.30am, 1.45pm
