Mae ffresh, Gŵyl Delwedd Symudol Cymru, yn cydweithio gyda S4C i ddod o hyd i 5 o wneuthurwyr ffilm ifanc i greu ffilmiau byrion fydd yn cael eu dangos ar raglen Y Lle

Ar y thema Cariad Cyntaf, gall y ffilmiau byrion fod yn ffuglen neu ddogfen, yn arbrofol neu’n gerddi gweledol ond rhaid iddyn nhw fod union 3 munud o hyd ac yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd y 5 ffilm fer yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn ystod gŵyl ffresh 2013, ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam rhwng 20-23 Chwefror, yna byddan nhw’n cael eu dangos ar Y Lle.  

Bydd y pum ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyngor ac arweiniad gan ffresh trwy gydol y broses gynhyrchu ynghyd â gwobr ariannol o £400. 

Rhaid i chi fod rhwng 16 a 25 oed, yn byw yng Nghymru, ac yn gallu cael gafael ar gamera HD ac offer golygu. Bydd angen i chi gyflwyno triniaeth un dudalen, amlinelliad o’ch syniad, i Gyfarwyddwr Gŵyl ffresh, James Nee – james@ffresh.com – a chynnwys unrhyw enghreifftiau perthnasol o ffilmiau neu waith ffotograffig blaenorol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd dydd Mercher, 31 Hydref. 

Ewch i wefan ffresh i weld holl fanylion y gystadleuaeth neu cysylltwch â James Nee ar 02920 232 746 neu e-bost: james@thefestivalscompany.co.uk

Gwefan ffresh