Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cynnal Cymanfa Ganu i ddathlu pen-blwydd S4C yn 30 oed yng nghapel Penuel Rhosllannerchrugog, ar nos Lun 15 Hydref.
Mae croeso i bawb ddod i ymuno yn y canu a’r dathlu gyda’r noson yn dechrau am 7.00. Ffoniwch 02920 838144 i archebu eich sedd. Does dim angen talu am docyn.
Bydd y gymanfa yn cael ei darlledu yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y Sianel, sy’n nodi 30 mlynedd o S4C.
