Y canwr Huw Ynyr Evans o Rydymain ger Dolgellau yw enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2012.
Daeth i’r brig yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog ar nos Sul 14 Hydref. Darlledwyd y gystadleuaeth yn fyw ar S4C, a gallwch wylio’r cyfan eto unrhyw bryd ar Clic.
Mae Huw yn ei drydedd flwyddyn yn gwneud gradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau’r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant ac wedi perfformio yn gyson gyda Chwmni Theatr Meirion a Chôr Idris. Mae hefyd yn ddiweddar wedi dechrau canu gyda Chôr Godre’r Aran.
Dywedodd Huw ar ôl derbyn y wobr, “Tri chynnig i Gymro maen nhw yn ei ddweud, ond mi wnes i lwyddo i’w gwneud hi mewn dau gan mai dyma oedd yr ail waith i mi gystadlu!
“Mi oedd yn brofiad ffantastig perfformio, ac mi oeddpawb yn fwy na theilwng o’r wobr, felly mi ges i dipyn o siocpan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i. Mi ydw i am gadw’r arian, a disgwyl i weld sut mae’r llais yn datblygu ac yna mewn blynyddoedd i ddod ar ôl iddo setlo, gobeithio y gallaf i fynd i astudio’r llais ymhellach.”
