Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd S4C yn 30 oed, y gwylwyr fydd yn dewis pa raglenni fydd yn cael eu dangos ar y Sianel.
Ewch i wefan S4C30 i daro eich pleidlais er mwyn dewis pa rhaglen archif – o’r rhestr fer o 30 – fydd yn cael ei dangos yn ystod wythnos y pen-blwydd, sef 29 Hydref i 2 Tachwedd.
Dewiswch un rhaglen o bob categori – Plant, Comedi, Adloniant/Cerddoriaeth, Chwaraeon/Digwyddiadau a Drama.
Hefyd, fel rhan o’r cyffro, fe fydd un pleidleisiwr lwcus yn ennill teledu neu iPad bob nos yn ystod wythnos y dathlu yn fyw ar raglen Heno.
