Faint wyt ti’n ei gofio am raglenni S4C dros y 30 mlynedd ddiwethaf? Bydd y rhaglen S4C30 ar nos Iau 1 Tachwedd 8.25pm yn siŵr o ddiddanu a dod â llu o atgofion am rai o’r rhaglenni poblogaidd, ac ambell raglen lai cofiadwy sydd wedi eu darlledu ar hyd y blynyddoedd. 

Un sydd wedi ymddangos ar S4C ers y cychwyn cyntaf, ac a fydd yn cyflwyno S4C30, yw’r gyflwynwraig Siân Thomas. Fel un o’r cyflwynwyr cyntaf i groesawu’r gwylwyr i’r Sianel ar y noson honno ym 1982, tybed sut brofiad yw edrych yn ôl ar dri degawd o ddarlledu i Siân?

“Dyw e bendant ddim yn teimlo fel 30 o flynyddoedd,” meddai Siân. “Mae’n anodd credu a dweud y gwir, mae’n teimlo fel ddoe. Wrth wneud y rhaglen yma ac edrych yn ôl dwi wedi sylweddoli gymaint dwi wedi bod yn rhan ohono a pha mor freintiedig oeddwn i i gael bod yn rhan o’r noson gyntaf un. ‘Da ni’n genedl fechan ac mae’r Sianel yn un y dylen ni ymfalchïo ynddi. Mae wedi bod yn ddeg mlynedd ar hugain ffantastig.”

Mae gwylwyr S4C yn gwbl ganolog i holl waith y Sianel a diddorol fydd gweld pa raglenni sydd wedi taro deuddeg yn eu barn nhw, a pha rai sydd wedi mynd yn angof.

Mae Plant y Sianel ar nos Fercher 31 Hydref 8.25 yn edrych ar y 30 mlynedd drwy fywydau Cymry â aned yr un flwyddyn â’r Sianel. 

Bydd Beti George yn dychwelyd i ail-ymweld â chenhedlaeth o Gymry sydd nawr yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 30 oed. Cawn weld beth yw hanes yr unigolion heddiw – rhai bellach yn briod ac yn dechrau magu teulu, ambell un wedi wynebu trasiedïau ysgytwol a rhai wedi gwireddu eu breuddwydion.

Mae Gwynfor: Y Penderfyniad yn ddrama ddogfen arbennig i ddathlu’r pen-blwydd ac yn mynd â ni yn ôl i gyfnod cyn i’r Sianel fodoli – ond cyfnod oedd yn gwbl allweddol i’w sefydlu. 

Ysgrifennwyd y ddrama ddogfen gan y llenor, T. James Jones yn seiliedig ar flwyddyn dyngedfennol yn hanes Gwynfor Evans. Yn ôl cynhyrchydd Gwynfor, Lona Llewelyn Davies, gallwn ddisgwyl portread “cynnes a sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol.”

Yn ystod y cyfnod pen-blwydd gall y gwylwyr hefyd edrych ymlaen at bennod arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o Rosllannerchrugog, a bydd Sam ar y Sgrin a’r Byd ar Bedwar hefyd yn paratoi eitemau arbennig ar ein cyfer. 

Gwyliwch hefyd am ambell berl o’r archif yn ystod y cyfnod.

Amserlen S4C