Neidio at y cynnwys

S4C

Cân i Gymru

Cystadleuaeth 2007

Dewiswyd naw cân y noson, o blith y nifer fwyaf o geisiadau ddaeth i law ers blynyddoedd, gan y rheithgor; Ryland Teifi, Lleuwen Steffan, Owen Powell, Gwenda Owen, Ian Cottrell, Emyr Afan a Mared Lenny.

Gwobr 'Gwaed yn Dewach na Dŵr' gan Meilyr Wyn am ennill categori'r Cyhoedd oedd £3,000 a gwobr 'Llosgi' gan Al Lewis ac Arwel Lloyd am ennill categori'r Cyfansoddwyr oedd £3,000. Cân o blith categori'r perfformwyr aeth â hi sef 'Blwyddyn Mas' gan Einir Dafydd a Ceri Wyn Jones. Y wobr oedd £10,000 yn ogystal â'r teitl mawreddog 'Cân i Gymru 2007'.

Enillydd 2007

Gwyliwch y perfformiad buddugol – Blwyddyn Mas

Caneuon 2007

Categori'r cyhoedd

Cân 1
Cân 1 – Dawnsio Yn Yr Heulwen

Cyfansoddwyd gan Michael Phillips
Perfformiwyd gan Iestyn Thomas

Cân 2
Cân 2 - Gwaed Yn Dewach Na Dŵr - enillydd y categori

Cyfansoddwyd gan Meilyr Wyn
Perfformiwyd gan Pumed Person

Cân 3
Cân 3 - Y Glaw

Cyfansoddwyd gan Gareth Wyn
Perfformiwyd gan Non Parry

Categori'r cyfansoddwyr

Cân 4
Cân 4 - Modrwy Werdd

Cyfansoddwyd a pherfformiwyd gan Ynyr Robers Steve Balsamo a Karl Morgan

Cân 5
Cân 5 - Llosgi - enillydd y categori

Cyfansoddwyd gan Al Lewis ac Arwel Lloyd
Perfformiwyd gan Al Lewis

Cân 6
Cân 6 - Ti Yw Fy Haul

Cyfansoddwyd gan Howl Griff Perfformiwyd gan Howl Griff

Categori'r perfformwyr:

Cân 7
Cân 7 - Ennill Y Dydd

Cyfansoddwyd gan Barry Jones a Nathan Williams
Perfformiwyd gan Nathan Williams a'r Band

Cân 8
Cân 8 - Blwyddyn Mas - enillydd y categori ac enillydd Can i Gymru

Cyfansoddwyd gan Einir Dafydd a Ceri Wyn Jones
Perfformiwyd gan Einir Dafydd

Cân 9
Cân 9 - Arfau Byw

Cyfansoddwyd a pherfformiwyd gan Elin Fflur a Sion Llwyd