Neidio at y cynnwys

S4C

Cân i Gymru

Cystadleuaeth 2008

Dewiswyd naw cân o blith y nifer fwyaf o geisiadau ddaeth i law ers blynyddoedd, gan y rheithgor; Dyl Mei, Geraint Griffiths, Einir Dafydd, Sioned Mair, Owen Powell, Ian Cottrell, Emyr Afan ac Aled Ellis, aelod o'r cyhoedd a dderbyniodd y gwahoddiad i fod yn rhan o'r panel am y tro cynta'.

Y Caneuon

Y naw cân sydd wedi cyrraedd y ffeinal eleni yw:

  • Crwysau Gwyn
  • Cyfansoddi: Alistair James
  • Perfformio: Alistair James
  • Mae Alistair yn 23 mlwydd oed ac yn byw yn Llanrhos, ger Llandudno. Mae wedi bod yn perfformio ei sioe unigol ers dros saith mlynedd mewn tafarndai, gwestai a chlybiau o gwmpas Gogledd Cymru. Fe ryddhawyd ei albwm gyntaf yn 2006, ac mae’n gobeithio cyhoeddi ail albwm ym mis Mai. Ysbrydolwyd ef i gyfansoddi’r gân hon gan stori Hedd Wyn. Mae’n deyrnged i’r milwyr hynny sydd dros y blynyddoedd wedi aberthu popeth dros eu gwlad.

  • Ar Ôl i Fi Fynd
  • Cyfansoddi: Dafydd Saer
  • Perfformio: Tesni Jones
  • Mae Tesni wedi bod yn byw yn yr Iseldiroedd, ac mae’n aelod o grŵp pop hynod lwyddiannus yno sydd wedi bod ar frig y siartiau. Mae Dafydd wedi bod yn chwarae mewn amryw o fandiau ers pan yn 16 oed. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ym 1992. Er ei fod wedi bod yn cyfansoddi caneuon yn achlysurol ers 15 mlynedd dywed mai dim ond ers iddo astudio yn y Guitar Institute yn Llundain o 1999 - 2002 y mae wedi bod yn sgwennu caneuon o ddifri.

  • Atgofion
  • Cyfansoddi: Aled Myrddin
  • Perfformio: Aled Myrddin
  • Athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth yw Aled. Yn 2003, roedd yn un o gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi iddo ennill yr Unawd Cerdd Dant 19 -25 oed yn Eisteddfod yr Urdd. Mae’n aelod o’r grŵp Manna. Y llynedd, bu’n fuddugol eto yn Eisteddfod yr Urdd, y tro hwn gyda chriw o ffrindiau yn cystadlu yn yr Ensemble Lleisiol dan 25 oed.

  • Hawdd Cynne Tân ar Hen Aelwyd
  • Cyfansoddi: Heather Jones a Gwenno Dafydd
  • Perfformio: Heather Jones
  • Er nad yw’n wyneb dieithr i Cân i Gymru, dyma’r tro cyntaf i Heather ganu un o’i chyfansoddiadau ei hun yn y gystadleuaeth. Mae Gwenno yn actores a chantores. Heather sy’n gyfrifol am yr alaw, a Gwenno a gyfansoddodd y geiriau. Cyfansoddwyd y gân mewn carafán yn Nhyddewi!

  • Curo ar dy Ddrws
  • Cyfansoddi: Meilyr Wyn
  • Perfformio: Roz Richards
  • Mae Meilyr yn athro Mathemateg, Technoleg Gwybodaeth a Ffiseg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Myfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd yw Roz, a dyma’r tro cyntaf iddi ganu ar Cân i Gymru. Dyma’r pedwerydd tro i gân o eiddo Meilir gyrraedd ffeinal Cân i Gymru - y llynedd gyda’r gân Gwaed yn Dewach na Dŵr - ond nid yw erioed wedi ennill y gystadleuaeth.

  • Fanna Fydda i Nawr
  • Cyfansoddi: Dylan Davies
  • Perfformio: Dylan Davies
  • Yn gyfansoddwr a chanwr profiadol, daw Dylan yn wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam. Erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd. Dywed Dylan fod pob math o gerddoriaeth yn dylanwadu ar ei steil cerddorol yntau, ond mae’r gân yn adlewyrchu cerddoriaeth soul y 70au.

  • Ti a Fi
  • Cyfansoddi: Lowri Evans a Lee Mason
  • Perfformio: Lowri Evans a Lee Mason
  • Mae’r ddau yn byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro. Yn ystod ei gyrfa fel cantores a chyfansoddwraig mae Lowri wedi ennill nifer o wobrau mewn cystadlaethau eisoes, gan gynnwys cystadleuaeth Band Gorau o dan 18 oed ar Uned 5, a gwobr am y Sesiwn Acwstig Orau ar Radio Sir Benfro ym 2004. Mae Lowri a Lee wedi cyhoeddi dwy albwm, sef Cyw Sibrydion yn 2006, a Kick the Sand yn 2007. Mewn cyflwyniad acwstig o’r gân hon bydd Lee yn chwarae’r gitâr glasurol Sbaenaidd.

  • Dal yn Dynn
  • Cyfansoddi: Eskimo
  • Perfformio: Eskimo
  • Wedi ei chyfansoddi gan Llew Davies o Salem, Llandeilo, gyda Gethin Roberts, Richard Vaughan, a Ross Coughlan, ill tri yn byw yng Nghaerdydd. Nhw sy’n perfformio’r gân, o dan yr enw Eskimo, yr unig fand sy’n canu yn y gystadleuaeth eleni.

  • Gwenllian Haf
  • Cyfansoddi: Ieuan Wyn
  • Perfformio: Gruff Rees
  • Ymysg y dylanwadau cerddorol ar Ieuan mae’r Beatles, Geraint Griffiths (Eliffant), Huw Chiswell, Edward H, Tebot Piws, Delwyn Sion, John Mayer a Damien Rice. Mae’n aelod o Gôr Aelwyd yr Ynys. Mae’r gân yn sôn am blentyndod ei chwaer, Gwenllian, sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed.

Rheolau Pleidleisio

Pleidlais ffôn yn unig ydy hon, gan ei bod yn bosib cael problemau gyda negeseuon testun gyda phobl yn talu amdanyn nhw, ac o bosib ddim yn cael eu cyfrif.

Cost yr alwad ydy 25c. Os yn galw o ffôn symudol gall y costau amrywio yn ddibynnol ar ddarparwr y gwasanaeth.

Bydd y llinellau ffôn yn agor yn ystod rhan 4 rhaglen Cân i Gymru nos Wener 29 Chwefror 2008, ac yn cau yn fuan wedi dechrau rhaglen y canlyniadau. Wedi i'r llinellau gau, fydd eich pleidlais ddim yn cael ei chyfrif, ac ni fydd cost am yr alwad.

Gallwch bleidleisio mor aml ag y dymunwch.

Y gân fydd yn derbyn mwyaf o bleidleisiau fydd yr enillydd. Yn achos pleidlais gyfartal, bydd panel o arbenigwyr yn penderfynu ar enillydd. Mae penderfyniad y panel yn derfynol.

Cyhoeddir yr enillydd ar y noson, yn ogystal â'r caneuon sydd yn ail ac yn drydydd.

Cystadleuaeth 2008

Yn wahanol i’r llynedd, nid yw’r caneuon sydd wedi cyrraedd y ffeinal wedi’u rhannu yn dri chategori, er iddynt gael eu beirniadu felly yn y rownd gyntaf. Eleni, ar y noson, mae’n gystadleuaeth gwbl agored, gyda £10,000 yn brif wobr i’r enillydd ynghyd â’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni yn Donegal. Bydd yr ail a’r trydydd yn y gystadleuaeth hefyd yn derbyn gwobrau o £4,000 a £2,000.

Bydd hanner y pleidleisiau yn dod o’r panel beirniaid arbenigol yn y Lido, fydd yn cynnwys trawsdoriad o bobl sy’n ymwneud â cherddoriaeth a chyfansoddi yng Nghymru, gyda’r hanner arall yn cael eu bwrw gan y gwylwyr gartre’. Dim ond trwy ffonio y gallwch fwrw eich pleidlais eleni, ni fydd hi’n bosibl i chi bleidleisio trwy anfon neges destun.

Y Cyflwynwyr

Cyflwynwyr Cân i Gymru eleni yw Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips. Er iddo ganu sawl gwaith yn y gystadleuaeth, gan ennill yn 2005, dyma fydd y tro cyntaf i Rhydian gyflwyno’r sioe.

“Mae’n fraint cael cyfle i gyflwyno Cân i Gymru,” meddai Rhydian, sy’n dod yn wreiddiol o’r Porth yn y Rhondda, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. “Roedd Sarra a finnau yn y coleg gyda’n gilydd, ac rydym wedi cyd-gyflwyno ar Planed Plant a Bandit, felly bydd hi’n braf cydweithio â ffrind ar y noson fawr!

“Bydda i’n teimlo’n nerfus dros y perfformwyr a’r cyfansoddwyr. Mae 'na gyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r perfformwyr wrth iddyn nhw geisio ennill yr arian mawr, a’r clod a’r bri, i’r cyfansoddwyr!”

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales