Cân i Gymru
Telerau ac Amodau
Gwasanaeth lawrlwytho Ffonau Symudol Cân i Gymru 2009
- Cost y gwasanaeth yw 50 ceiniog a fydd yn daladwy wedi i chi dderbyn neges destun o gadarnhâd ei fod wedi cyrraedd.
- Mae'r neges destun a dderbynir yn ôl yn cynnig cysylltiad i wefan lawrlwytho Cân i Gymru.
- Ar dderbyn y neges destun hon, bydd y prynwr yn rhydd i ddefnyddio'r cysylltiad i'r gwasanaeth wefan ar unrhyw adeg am hyd y gwasanaeth.
- Nid oes cyfyngder ar maint y deunydd gellir ei lawrlwytho.
- Ar y wefan ceir recordiadau MP3 o holl ganeuon y gystadleuaeth.
- Bydd y gwasanaeth yn gweithredu rhwng 17:00 ddydd Gwener 27 Chwefror i ddydd Gwener 27 Mawrth 2009 oni nodir yn wahanol.
- Mae gan Teledu Avanti a'i asiant Content Guru yr hawl i dynnu allan ac/neu newid natur y gwasanaeth unrhywbryd.
- Bydd unrhyw newidiadau i'r cyfnod neu delerau'r gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi ar www.myspace.com/canigymru2009 ac mae'r wybodaeth yn rhad ac am ddim.
- Dylir cysylltu gyda Gwifren Gwylwyr S4C am unrhyw gwynion ynglŷn â'r gwasanaeth yma ar 0870 600 4141.
- Trwy ddefnyddio'r gwasanaeth ar y ffôn symudol, mae'r prynwr yn derbyn
mai hi/fe ydy perchennog cofrestredig y ffôn symudol neu bod y caniatâd
perthnasol i ddefnyddio'r gwasanaeth yma wedi ei dderbyn.
- Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn oddi ar wefan heb ddefnyddio ffôn symudol cyn belled bod y cyfeiriad gwefan wedi cael ei dderbyn a'i gadarnhau drwy neges destun a'r swm o 50 ceiniog wedi ei dalu.