Cystadleuaeth 2010
Pob Siawns
Cyfansoddwr: Lowri Evans a Lee Mason
Treuliodd Lowri chwech mlynedd yn byw, astudio a pherfformio yn Newcastle upon Tyne. Yn ystod y cyfnod yma, recordiodd dau albwm gyda'i band Stella.
Mae cerddoriaeth Lowri wedi cael ei dylanwadu gan nifer o artistiaid, o ddylanwad y blues gydag Eric Bibb a John Mayer i'r gantores jazz Nina Simone a'r artist gwlad Sheryl Crow. Erbyn hyn mae Lowri wedi ennill proffil adnabyddus yn perfformio led led Cymru. Mae Lowri hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar radio a theledu.
Yn 2005 dechreuodd Lowri a'r gitarydd/peiriannydd stiwdio Lee Mason gyd-gynhyrchu a rhyddhau eu EP cyntaf. Ers hynny mae'r bartneriaeth wedi datblygu eu brand unigryw nhw o gerddoriaeth. Mae Lowri wedi rhyddhau 5 albwm ers hynny.
Fel mae'r teitl yn ei awgrymu, mae'r gân Pob Siawns yn annog pobl i ddal ar bob cyfle mae bywyd yn ei gynnig iddyn nhw Mae Lowri'n cyfaddef mae prosiect munud olaf oedd Pob Siawns, ond hefyd yn dweud bod cyfansoddi o dan bwysau'n medru rhoi mwy o fywyd i gân.
Mi fyddai ennill Cân i Gymru yn golygu popeth i'r ddau yma, yn enwedig gan iddyn nhw ddod yn ail yn y gystadleuaeth yn 2008 gyda'r gân Ti a Fi.