Y dewin cerddorol Myrddin yn swyno Cymru
Fe brofodd athro ymarfer corff 24 oed y gallai gyflawni campau tu allan i'r gampfa trwy ennill gwobr fawr S4C, Cân i Gymru mewn cystadleuaeth gyffrous yn fyw ar nos Wener, 29 Chwefror.
Fe enillodd Aled Myrddin dlws y gystadleuaeth a'r brif wobr o £10,000 am y gân ‘Atgofion' gan ddenu'r nifer fwyaf o bleidleisiau gan y gwylwyr gartref a'r panel o arbenigwyr mewn noson drydanol yng Nghanolfan y Lido Afan, Port Talbot.
Yn y noson, a gyflwynwyd gan Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips, fe gurodd y gân wyth cynnig arall mewn rownd derfynol cystadleuaeth a oedd wedi denu 109 o gynigion yn wreiddiol.
Fe ddaeth Lowri Evans a Lee Mason o Drefdraeth, Sir Benfro, yn ail gan ennill gwobr o £4,000 am y gân 'Ti a Fi' a myfyriwr o Brifysgol Bangor, Ieuan Wyn, yn drydydd, gan ennill gwobr o £2,000 am ei gân 'Gwenllian Haf' a berfformiwyd ar y noson gan Gruff Rees.
Roedd Aled, sy'n wreiddiol o Borthaethwy ond bellach yn byw ym Machynlleth gyda'i wraig Erin, ar ben ei ddigon ar ôl cipio'r brif wobr a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd ymhen rhai wythnosau yn Donegal.
Meddai'r athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Dyfi. Machynlleth, "Wnes i erioed meddwl y byddwn i'n ennill - mae hyn yn freuddwyd wedi'i gwireddu. Yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r gan ydy fy nheulu a fy ngwraig, Erin. Maen nhw wedi bod yno ar hyd y daith, mae gan bawb atgofion, a dwi wedi penderfynu cofnodi fy rhai i ar ffurf cân!"
Yn gyfarwydd i lawer fel aelod o'r grŵp Cristnogol Manna, mae Aled yn hen law ar gystadlu ar lwyfannau cenedlaethol hefyd. Fe enillodd yr Unawd Cerdd Dant 19 -25 oed yn Eisteddfod yr Urdd 2003, gan gystadlu'r un flwyddyn am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Ychwanegodd, "Dwi'n bendant am brynu stwff recordio gyda'r £10,000 er mwyn fy ngalluogi i ganolbwyntio'n fwy ar gyfansoddi, caiff y gweddill fynd i'r banc!"
Cyflwynwyd y wobr gyntaf iddo gan enillwyr Cân i Gymru 2007, Einir Dafydd a Ceri Wyn Jones.
Cystadleuaeth 2008
Dewiswyd naw cân o blith y nifer fwyaf o geisiadau ddaeth i law ers blynyddoedd, gan y rheithgor; Dyl Mei, Geraint Griffiths, Einir Dafydd, Sioned Mair, Owen Powell, Ian Cottrell, Emyr Afan ac Aled Ellis, aelod o'r cyhoedd a dderbyniodd y gwahoddiad i fod yn rhan o'r panel am y tro cynta'.
Y Caneuon
Y naw cân sydd wedi cyrraedd y ffeinal eleni yw:
- Crwysau Gwyn
- Cyfansoddi: Alistair James
- Perfformio: Alistair James
- Ar Ôl i Fi Fynd
- Cyfansoddi: Dafydd Saer
- Perfformio: Tesni Jones
- Atgofion
- Cyfansoddi: Aled Myrddin
- Perfformio: Aled Myrddin
- Hawdd Cynne Tân ar Hen Aelwyd
- Cyfansoddi: Heather Jones a Gwenno Dafydd
- Perfformio: Heather Jones
- Curo ar dy Ddrws
- Cyfansoddi: Meilyr Wyn
- Perfformio: Roz Richards
- Fanna Fydda i Nawr
- Cyfansoddi: Dylan Davies
- Perfformio: Dylan Davies
- Ti a Fi
- Cyfansoddi: Lowri Evans a Lee Mason
- Perfformio: Lowri Evans a Lee Mason
- Dal yn Dynn
- Cyfansoddi: Eskimo
- Perfformio: Eskimo
- Gwenllian Haf
- Cyfansoddi: Ieuan Wyn
- Perfformio: Gruff Rees
Mae Alistair yn 23 mlwydd oed ac yn byw yn Llanrhos, ger Llandudno. Mae wedi bod yn perfformio ei sioe unigol ers dros saith mlynedd mewn tafarndai, gwestai a chlybiau o gwmpas Gogledd Cymru. Fe ryddhawyd ei albwm gyntaf yn 2006, ac mae’n gobeithio cyhoeddi ail albwm ym mis Mai. Ysbrydolwyd ef i gyfansoddi’r gân hon gan stori Hedd Wyn. Mae’n deyrnged i’r milwyr hynny sydd dros y blynyddoedd wedi aberthu popeth dros eu gwlad.
Mae Tesni wedi bod yn byw yn yr Iseldiroedd, ac mae’n aelod o grŵp pop hynod lwyddiannus yno sydd wedi bod ar frig y siartiau. Mae Dafydd wedi bod yn chwarae mewn amryw o fandiau ers pan yn 16 oed. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ym 1992. Er ei fod wedi bod yn cyfansoddi caneuon yn achlysurol ers 15 mlynedd dywed mai dim ond ers iddo astudio yn y Guitar Institute yn Llundain o 1999 - 2002 y mae wedi bod yn sgwennu caneuon o ddifri.
Athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth yw Aled. Yn 2003, roedd yn un o gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi iddo ennill yr Unawd Cerdd Dant 19 -25 oed yn Eisteddfod yr Urdd. Mae’n aelod o’r grŵp Manna. Y llynedd, bu’n fuddugol eto yn Eisteddfod yr Urdd, y tro hwn gyda chriw o ffrindiau yn cystadlu yn yr Ensemble Lleisiol dan 25 oed.
Er nad yw’n wyneb dieithr i Cân i Gymru, dyma’r tro cyntaf i Heather ganu un o’i chyfansoddiadau ei hun yn y gystadleuaeth. Mae Gwenno yn actores a chantores. Heather sy’n gyfrifol am yr alaw, a Gwenno a gyfansoddodd y geiriau. Cyfansoddwyd y gân mewn carafán yn Nhyddewi!
Mae Meilyr yn athro Mathemateg, Technoleg Gwybodaeth a Ffiseg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Myfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd yw Roz, a dyma’r tro cyntaf iddi ganu ar Cân i Gymru. Dyma’r pedwerydd tro i gân o eiddo Meilir gyrraedd ffeinal Cân i Gymru - y llynedd gyda’r gân Gwaed yn Dewach na Dŵr - ond nid yw erioed wedi ennill y gystadleuaeth.
Yn gyfansoddwr a chanwr profiadol, daw Dylan yn wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam. Erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd. Dywed Dylan fod pob math o gerddoriaeth yn dylanwadu ar ei steil cerddorol yntau, ond mae’r gân yn adlewyrchu cerddoriaeth soul y 70au.
Mae’r ddau yn byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro. Yn ystod ei gyrfa fel cantores a chyfansoddwraig mae Lowri wedi ennill nifer o wobrau mewn cystadlaethau eisoes, gan gynnwys cystadleuaeth Band Gorau o dan 18 oed ar Uned 5, a gwobr am y Sesiwn Acwstig Orau ar Radio Sir Benfro ym 2004. Mae Lowri a Lee wedi cyhoeddi dwy albwm, sef Cyw Sibrydion yn 2006, a Kick the Sand yn 2007. Mewn cyflwyniad acwstig o’r gân hon bydd Lee yn chwarae’r gitâr glasurol Sbaenaidd.
Wedi ei chyfansoddi gan Llew Davies o Salem, Llandeilo, gyda Gethin Roberts, Richard Vaughan, a Ross Coughlan, ill tri yn byw yng Nghaerdydd. Nhw sy’n perfformio’r gân, o dan yr enw Eskimo, yr unig fand sy’n canu yn y gystadleuaeth eleni.
Ymysg y dylanwadau cerddorol ar Ieuan mae’r Beatles, Geraint Griffiths (Eliffant), Huw Chiswell, Edward H, Tebot Piws, Delwyn Sion, John Mayer a Damien Rice. Mae’n aelod o Gôr Aelwyd yr Ynys. Mae’r gân yn sôn am blentyndod ei chwaer, Gwenllian, sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed.
Rheolau Pleidleisio
Pleidlais ffôn yn unig ydy hon, gan ei bod yn bosib cael problemau gyda negeseuon testun gyda phobl yn talu amdanyn nhw, ac o bosib ddim yn cael eu cyfrif.
Cost yr alwad ydy 25c. Os yn galw o ffôn symudol gall y costau amrywio yn ddibynnol ar ddarparwr y gwasanaeth.
Bydd y llinellau ffôn yn agor yn ystod rhan 4 rhaglen Cân i Gymru nos Wener 29 Chwefror 2008, ac yn cau yn fuan wedi dechrau rhaglen y canlyniadau. Wedi i'r llinellau gau, fydd eich pleidlais ddim yn cael ei chyfrif, ac ni fydd cost am yr alwad.
Gallwch bleidleisio mor aml ag y dymunwch.
Y gân fydd yn derbyn mwyaf o bleidleisiau fydd yr enillydd. Yn achos pleidlais gyfartal, bydd panel o arbenigwyr yn penderfynu ar enillydd. Mae penderfyniad y panel yn derfynol.
Cyhoeddir yr enillydd ar y noson, yn ogystal â'r caneuon sydd yn ail ac yn drydydd.
Cystadleuaeth 2008
Yn wahanol i’r llynedd, nid yw’r caneuon sydd wedi cyrraedd y ffeinal wedi’u rhannu yn dri chategori, er iddynt gael eu beirniadu felly yn y rownd gyntaf. Eleni, ar y noson, mae’n gystadleuaeth gwbl agored, gyda £10,000 yn brif wobr i’r enillydd ynghyd â’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni yn Donegal. Bydd yr ail a’r trydydd yn y gystadleuaeth hefyd yn derbyn gwobrau o £4,000 a £2,000.
Bydd hanner y pleidleisiau yn dod o’r panel beirniaid arbenigol yn y Lido, fydd yn cynnwys trawsdoriad o bobl sy’n ymwneud â cherddoriaeth a chyfansoddi yng Nghymru, gyda’r hanner arall yn cael eu bwrw gan y gwylwyr gartre’. Dim ond trwy ffonio y gallwch fwrw eich pleidlais eleni, ni fydd hi’n bosibl i chi bleidleisio trwy anfon neges destun.
Y Cyflwynwyr
Cyflwynwyr Cân i Gymru eleni yw Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips. Er iddo ganu sawl gwaith yn y gystadleuaeth, gan ennill yn 2005, dyma fydd y tro cyntaf i Rhydian gyflwyno’r sioe.
“Mae’n fraint cael cyfle i gyflwyno Cân i Gymru,” meddai Rhydian, sy’n dod yn wreiddiol o’r Porth yn y Rhondda, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. “Roedd Sarra a finnau yn y coleg gyda’n gilydd, ac rydym wedi cyd-gyflwyno ar Planed Plant a Bandit, felly bydd hi’n braf cydweithio â ffrind ar y noson fawr!
“Bydda i’n teimlo’n nerfus dros y perfformwyr a’r cyfansoddwyr. Mae 'na gyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r perfformwyr wrth iddyn nhw geisio ennill yr arian mawr, a’r clod a’r bri, i’r cyfansoddwyr!”