Neidio at y cynnwys

S4C

Cân i Gymru

Cystadleuaeth 2009

Fy Enaid Gyda Ti

Cyfansoddwyr: Merfyn Hughes a Steve 'Pablo' Jones

Merfyn Hughes

Merfyn Hughes

Ers pum mlynedd yn unig mae Merfyn wedi bod yn cyfansoddi. O achos salwch ar yr arennau, bu'n rhaid iddo dderbyn triniaeth dialysis am bedair awr a hanner bob yn ail ddydd. Roedd e'n teimlo'r amser yma'n hir a diflas, felly er mwyn cadw ei feddwl yn brysur mi aeth ati i ddechrau cyfansoddi caneuon. Ers hynny mae Merfyn wedi derbyn trawsblaniad, ond mae'n parhau i gyfansoddi yn ei amser hamdden. Ers ei wellhad mae Merfyn wedi ymddiddori mewn ralïo, ac erbyn hyn mae'n rhedeg cwmni sydd yn hyfforddi ac yn cynnig cymorth i bobl anabl.

Steve 'Pablo' Jones

Steve 'Pablo' Jones

Cyfansoddodd Pablo y gerddoriaeth ar gyfer y gân yn ei stiwdio yng Nghaernarfon, sydd ag ail bwrpas fel stiwdio gelf gan ei fod yn arlunydd hefyd. Yn ogystal â jamio gyda gitâr yn stiwdio Pablo, maent hefyd yn cyfansoddi o amgylch y piano yn nhŷ Merfyn. Deg diwrnod yn unig cyn y dyddiad cau penderfynodd Merfyn a Pablo fynd ati i ysgrifennu'r gân.

Merfyn a Steve yn sôn am hanes y gân 'Fy Enaid Gyda Ti' a hefyd eu dylanwadau amrywiol (51 eiliad).