Beirniaid Cân i Gymru 2009
Dyma'r bobl bwysig yn y gystadleuaeth eleni! Mae ffawd y cyfansoddwyr yn eu dwylo nhw - pwy fydd eu dewis tybed?
Owen Powell
Mae Owen Powell yn adnabyddus fel gitarydd y grŵp Catatonia, ond fe ddechreuodd ei yrfa gerddorol yn ystod ei arddegau pan oedd yn y grŵp Crumblowers. Mae Owen yn cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Hefyd, mae wedi cyfansoddi ar gyfer y gantores Duffy. Owen ydy Cydlynydd Cerdd Cân i Gymru.
Margaret Williams
Yn dilyn blynyddoedd o gystadlu ar lwyfannau bach a mawr Cymru, fe enillodd Margaret Williams Ruban Glas Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964. Dyna oedd cychwyn gyrfa lwyddiannus y gantores o Frynsiencyn yn Sir Fôn sydd yn un o sêr disgleiriaf Cymru, yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, a bellach yn dipyn o 'drysor cenedlaethol'.
Yn ystod ei gyrfa mae Margaret wedi gweithio gyda rhai o dalentau mawrion y byd adloniant, gan gynnwys y diweddar Ryan a Ronnie, a'r cyfarwyddwr cerdd enwog Ronnie Hazlehurst, fu farw llynedd. Mae Cân i Gymru yn agos at galon Margaret gan mai hi oedd enillydd cyntaf y gystadleuaeth ddeugain mlynedd yn ôl yn 1969.
Dyl Mei
Mae Dyl Roberts, neu Dyl Mei fel y mae'n cael ei nabod, yn gynhyrchydd o Borthmadog sydd wedi gweithio gyda bandiau fel Texas Radio Band a Pep Le Pew. Mae'n gweithio o stiwdio Blaen-y-Cae yng Ngarndolbenmaen ac roedd yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp Genod Droog. Mae e hefyd yn rhedeg label Slacyr. Mae Dyl yn wyneb cyfarwydd ar S4C gan ei fod yn ymddangos yn aml ar Uned 5 a Bandit. Mae Dyl hefyd yn gyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Cymru gan ei fod wedi cyflwyno Hen Bethe Crwn gyda Huw Evans, rhaglen gafodd ei hargymell gan Brifysgol Harvard.
Gwyneth Glyn
Ganwyd y gantores a'r gyfansoddwraig canu gwlad a gwerin, Gwyneth Glyn, ym Mangor, ac fe addysgwyd hi ym Mhwllheli a Rhydychen. Mae wedi rhyddhau dwy albym, Wyneb dros dro (2005) ar label Slacyr a Tonau (2007) ar ei label ei hun, Recordiau Gwinllan. Mae Gwyneth hefyd yn adnabyddus fel bardd, a hi oedd Bardd Plant Cymru 2006-7.
Kelly-Marie Angell
Mae Kelly-Marie wedi dilyn Cân i Gymru ers blynyddoedd lawer, ac felly roedd hi'n awyddus iawn i fod yn rhan o gystadleuaeth oedd yn golygu gymaint iddi hi. Mae Kelly yn gantores frwd; mae'n aelod o gôr CF1 ac yn dysgu canu i blant yn ysgol theatr 'Performers' yn y Rhath yng Nghaerdydd. Daw Kelly o Nelson yn wreiddiol, mynychodd Ysgol Rhyd-y-Grug, yna Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae gan Kelly radd mewn Cerddoriaeth a Thechnoleg Sain o Brifysgol Portsmouth, sydd wedi arwain at yrfa fel golygydd sain. Yn sgil hynny mae hi wedi gweithio ar raglenni fel Torchwood a Dr Who.
Aled Myrddin
Athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Ddyfi yw Aled Myrddin o Fachynlleth. Addysgwyd Aled yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. Enillodd cân Aled, 'Atgofion', gystadleuaeth Cân i Gymru 2008. Dywedodd Aled am y ei gân ei bod yn fyfyrdod "ar y modd y mae atgofion am bobl neu ddigwyddiadau penodol yn pylu gydag amser, a phwysigrwydd cofnodi'r atgofion hyn mewn rhyw ffordd er mwyn sicrhau eu parhâd."
Rhydian Roberts
Dechreuodd Rhydian Roberts ganu fel soprano ifanc pan oedd ond yn dair oed. Yn ddiweddarach fe dderbyniodd addysg gerddorol glasurol yn y Conservatoire yn Birmingham. Yn dilyn ei lwyddiant ar X Factor cafodd Rhydian gynnig cytundeb recordio gan Simon Cowell. Rhyddhaodd ei albwm cyntaf ar 22 Tachwedd 2008; aeth yr albwm yn platinum ddechrau mis Ionawr 2009.