Close
Flash is required to view this video

Cannoedd o ymgeiswyr,
deg o ddysgwyr,
un cyfle.

Mae enwau dysgwyr cariad@iaith 2013 wedi eu cyhoeddi. Wyt ti'n adnabod rhywun? Clicia ar Y Dysgwyr uchod i ddysgu mwy am y deg.

Ym mhle maen nhw'n byw? Beth yw eu diddordebau? Pam eu bod nhw eisiau dysgu Cymraeg?

Cei'r atebion i gyd nos Fercher 15 Mai am 8.25 a nos Wener 17 Mai am 8.25 ar cariad@iaith:love4language ar S4C wrth i ni gyfarfod y deg sy'n mentro i wersyll cariad@iaith ar gyfer y gwersi Cymraeg a llawer o sialensiau eraill wrth gwrs...

Yna, mae'r gyfres wythnos yn cychwyn nos Sul 19 Mai am 8.00 ar S4C, felly cofia ymuno i weld Nia, Matt ac Ioan yn rhoi trefn ar y dysgwyr! Bydd cariad@iaith ymlaen ar s4c bob noson yr wythnos honno.

Os byddi di wedi colli unrhyw bennod, cofia bod modd gweld y cyfan eto ar s4c.co.uk/clic.

I glywed y newyddion diweddaraf a'r clecs i gyd cofia hoffi cariad@iaith:love4language ar Facebook a dilyn @s4cariad ar Twitter!