Roedd chwech o sêr Cymru wedi gwirfoddoli i roi eu pennau ar y bloc - a darlledu eu lleisiau canu - i berfformio mewn cyngerdd Nadoligaidd er budd elusennau.
Y dasg i Tri Tenor Cymru oedd eu paratoi nhw ar gyfer y gyngerdd a recordio CD fydd ar werth ar ddiwedd y gyfres. Mae'r CD ar werth nawr yn eich siop Gymraeg leol am £8.99, neu lawr lwythwch y caneuon oddi ar safle iTunes.
Mewn tair rhaglen arbennig, buon ni'n dilyn eu taith o'r dechrau i'r diwedd, gydag ambell syrpreis i brofi'r nerfau ar hyd y ffordd.
Roedd y tri tîm yn cystadlu i berfformio y fersiwn orau o'r garol Iesu Faban Mair - ac yn fuddugol roedd tîm Aled Hall gyda Mari Lovgreen a Richard Elis.
Y timoedd
Bydd eich cyfraniadau yn ddarostyngedig i delerau ac amodau gwefan Just Giving. Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol.



