CD o garolau'r enwogion
Mae CD Nadoligaidd y gyfres Carolau Gobaith ar werth nawr!
Prynwch hi o'ch siop Gymraeg leol am £8.99, neu lawr lwythwch y caneuon oddi ar safle iTunes.
Mae'r elw er budd tair elusen haeddianol - NSPCC, Cymorth Canser Macmillan ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae wyth cân Nadoligaidd ar y CD:
- SANCTAIDD NOS - Tri Tenor Cymru / Shân Cothi
- CYMER Y NADOLIG I DY GALON - Rhodri Gomer Davies / Alun Rhys Jenkins
- UN SEREN - Catrin Dafydd / Rhys Meirion
- DAW Y NADOLIG - Richard Elis / Aled Hall
- NOSON OER NADOLIG - Malcolm Allen / Rhys Meirion
- CHWEDL 'DOLIG EFROG NEWYDD - Myfanwy Alexander / Alun Rhys Jenkins
- CAROL CATRIN - Mari Lovgreen / Aled Hall
- IESU FABAN MAIR - Mari Lovgreen / Richard Elis / Aled Hall
Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi dilyn y sêr - Malcolm Allen, Catrin Dafydd, Mari Lovgreen, Richard Elis, Myfanwy Alexander a Rhodri Gomer Davies - wrth iddyn nhw gael eu tynnu'n llwyr o'u cynefin, gyda cymorth Tri Tenor Cymru, a chanu mewn cyngerdd mawr Nadoligaidd.
Roedd hi hefyd yn gystadleuaeth rhwng y tri tîm - dau seren i bob tenor - i berfformio'r fersiwn orau o'r garol Iesu Faban Mair.
Yn dyfarnu roedd panel o feirniaid profiadol - Caryl Parry Jones, Elin Fflur a Cefin Roberts - ac yn fuddugol roedd Aled Hall a'i dîm Mari Lovgreen a Richard Elis. Y nhw, felly, sydd wedi hawlio eu lle ar drac rhif wyth y CD.
Dywedodd Rhys Meirion, "Roeddem mor ffodus i gael gwesteion gwych ac fe lwyddom ni i gael cymeriadau a oedd yn fodlon mynd i'r pen dros eu timoedd. Diolch o galon i bob un ohonynt am daflu eu hunain at yr her a'i wneud yn brofiad bythgofiadwy i ni gyd, gan gynnwys, dwi'n siwr, y gwylwyr," meddai, mewn diolch i'r sêr wnaeth gymryd rhan.
"Gobeithio y byddwch yn cael mwynhad o wrando ar y CD. Mwynhewch, a diolch am eich cefnogaeth i'r dair elusen fydd yn elwa. O, a llongyfarchiadau i Aled Hall fel capten y tîm buddugol."
