Neidio at y cynnwys

S4C

Andalucía

I Sbaen ac ardal Andalucía y mae'r wyth ffodus yn cael mynd, ac o'r 17 cymuned ymreolaethol sydd yn Sbaen, Andalucía yw'r fwyaf poblog, yr ail fwyaf o ran maint a'i phrif ddinas yw Seville.

Bydd coginio, blasu, gwledda ac yn saff chwysu wrth i'r wyth gystadlu yn erbyn ei gilydd i fod yn enillydd Casa Dudley eleni.

Y tri cynhwysyn cynhenid pwysicaf yng nghoginio Andalucía yw olew olewydd, garlleg, a gwin.

Y perlysiau sy'n cael eu defnyddio amlaf yw teim, rhosmari, ffenigl, oregano, dail llawryf (bay), persli, ac, yn y llefydd gyda dylanwad Mwslemaidd, mintys.

Mae bwyd môr yn chwarae rhan fawr yn cuisine Andalucía, gyda physgod wedi eu ffrio neu wedi eu marineiddio yn arbenigedd. Mae'r marinâd traddodiadol, yr adobo, yn gymysgedd o ddŵr, finegr, halen, garlleg, paprika, mintys y graig (marjoram) a chwmin.

Mae arbenigeddau eraill yn cynnwys ham o Jabugo a Trevélez; y cawl gazpacho enwog, sy'n amrywio o'r 'pora' o Antequera gyda phupur coch, i'r fersiwn drwchus, hufennog o Córdoba, sef y 'salmorejo', sydd weithiau'n cael ei weini gyda ham wedi ei dorri'n denau, ac wy wedi'i ferwi ar ei ben.

Mae olewyddau ar gael ym mhob man, gyda'r manzanilla tewion gwyrdd o Sevilla yn boblogaidd dros ben.

Mae Andalucía wedi ei rhanu'n wyth rhanbarth gweinyddol a phob rhanbarth â'u prydau bwyd a chynhwysion unigryw.

Almeria

mae sawl pryd yn y rhanbarth yma wedi ei seilio ar domatos, garlleg a phupur. Mae ryseitiau yn cynnwys Olla de Trigo (Potiau Gwenith), Ajo Colorao (Garlleg Coch), Crempogau Gacha, Morgas a Potes Paprika.

Cadiz

mae gan dalaith Cádiz lawer i'w gynnig o ran bwyd Andalucía, o stiw bresych, prydau bwyd môr sy'n cynnwys wystrys, ystifflog, canaillas (malwod môr), corgimwch a chocos. Prydau fel Caldillo de Perro (winwns, cegddu a sudd oren), sgwid mewn inc, cigoedd mewn sieri, pastel de pichón (pâté colomen), calamares côn habas (sgwid gyda ffa llydan) a bocas (crancod).

Cordoba

yn draddodiadol, mae Côrdoba'n cynnig prydau gyda dylanwad Arabaidd ac Iddewig cryf, megis calderetas - stiw cig oen gydag almwn. Mae'r ardal hefyd yn gartref i un o brydau enwocaf Andalucía - robo de toro, cymysgedd sbeislyd o gynffon ychen, nionod a thomatos. Maent yn hoff iawn o brydau sy'n cynnwys cig fel Chafaina Cordobesa (Traed Moch wedi eu rhostio), Colomen gydag olewydd a Cochilfrito de Cabrito (stiw cig oen).

Granada

gwelir arddull Arabaidd o goginio yn y rhanbarth yma gyda thipyn o sbeisys, prydau yn cynnwys Omlèt Sacromonte, Ffa Grenadine, Jamòn Trevelez, Gafr mewn garlleg, Brithyll Lájuar a Chawl Moruna.

Huelva

choco (môr-gyllell neu cuttlefish) a thiwna, stiwiau sardinau, a phryd o diwna, cocos a ffa, snapper a winwns a mor-gath mewn paprika a welir yma.

Jaen

mae llawer o'r prydau wedi eu seilio ar olew olewydd, e.e. Espinacas Jinenses (Spigoglys Jaén), Ajilimojili (tatws, pupur coch, olew a finegr), Alboroinia (stiw gwrd melyn, nionod a wylys).

Malaga

mae tipyn o amrywiaeth i'w gael yn y rhanbarth yma o rawnwin Moscatel, gazpacho, pysgod, cig llo, treip, ffa llydan Ronda, asparagws chwerw, cawl pysgod, mae'r dewis yn ddiddiwedd. Er bod bwyd talaith Málaga yn cael ei ddominyddu gan bysgod a bwyd môr mae digonedd o fathau o gazpacho ar gael, gan gynnwys ajo blanco con uvas - cawl hufennog o almwn a grawnwin.

Mae prydau yn cynnwys Papanduas (cacennau penfras) ac Espetones de Sardinas (sardinau ar fambŵ), prydau syml o gorgimychiaid a chregyn gleision tewion â mymryn o sudd lemwn, tra bod y Costa del Sol yn lle gwych am sardinau wedi eu coginio'n draddodiadol dros dân pren. Mae Boquerones (math o frwyniad neu ansiofi) i'w canfod mewn sawl bwyty a bar tapas, ynghyd a pijotas - cegddu wedi ei ffrio gyda'i gynffon yn ei geg!

Seville

cartref tapas. Huevos a la Flamenco (Wyau flamenco), Cola de Toro (Cynffon Tarw), Hwyaden gydag olewydd, Menudo (Treip) a Soladitos de Pavia (ffyn pysgod).

Er nad yw'r Sbaenwyr yn arbenigo mewn pwdinau, mae gan bron i bob pentref yn Andalucía ei bwdin ei hun. Mae'r rhan fwyaf o'r pwdinau yma wedi cael eu dylanwadu gan goginio'r Mwriaid a gyrhaeddodd Sbaen yn 711. Cyflwynodd y Mwriaid reis, datys, almwnau, siwgr, orennau, artisiogau, sinamon, ynghyd â sawl math arall o fwyd, yn berlysiau a sbeisys, i'r ardal yn ystod y cyfnod yma.

Mae'r pwdinau'n cynnwys tartenni almwn sydd i'w canfod yn Ardales, cymysgedd o surop rhosod gwyn, olew ac wyau (tocino de cielo) o Vélez, a gwin pwdin melys o Málaga, sy'n mynd yn berffaith gyda bisgedi sych.

O'r eiliad y 'darganfuwyd' America gan Christopher Columbus yn 1492, fe welwyd cynnydd enfawr yn y nifer o gynhwysion a oedd ar gael, gyda phob mathau o fwydydd egsotig yn cyrraedd glannau Sbaen o bedwar ban byd - gyda siocled, tomatos, tatws, pupur, chilli, fanila, mefus, gwrd, India corn, pinafalau, ac afocado yn eu plith.


© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales