Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Eidal

Arwynebedd: 116, 303 milltir sgwâr
Poblogaeth: 58,883,958
Prif Ddinas: Rhufain (2,775,000 odrigolion)

Mae'r Eidal wedi cael ei rhannu yn 20 rhanbarth. Mae'r rhanbarthau wedyn yn cael eu rhannu'n 109 talaith ac yna 8,101 bwrdeistref.

Yr 20 rhanbarth yw: (Rhanbarth - Prif Ddinas)

Map of Italy
  1. Region - L'Aquila
  2. Abruzzo - L'Aquila
  3. Basilicata - Potenza
  4. Calabria - Catanzaro
  5. Campania - Naples
  6. Emilia-Romagna - Bologna
  7. Friuli-Venezia Giulia - Trieste
  8. Lazio - Rome
  9. Liguria - Genoa
  10. Lombardy - Milan
  11. Marches - Ancona
  12. Molise - Campobasso
  13. Piedmont - Turin
  14. Apulia - Bari
  15. Sardinia - Caligari
  16. Aosta Valley - Ansta
  17. Tuscany - Florence
  18. Trentino-Alto Adige/Sudtriol - Trento Bolzano
  19. Umbria - Perugia
  20. Sicily - Palermo
  21. Veneto - Venice

Mae cystadleuaeth Casa Dudley yn cael ei chynnal yn rhanbarth Umbria sydd wedi ei leoli yng nghanolbarth yr Eidal ac yn ffinio â Twsgani i'r gorllewin, Marche i'r dwyrain a Lazio i'r de.

Ardal fynyddig sydd yn cael ei alw yn 'Galon Werdd yr Eidal' ydi Umbria ac yn ddiweddar mae llawer yn ei hystyried i fod y Twsgani newydd.

Mae Umbria wedi ei rhannu'n ddwy dalaith; Perugia a Terni. Perugia yw'r mwyaf o'r ddwy dalaith yn cymryd dwy ran o dair o'r ardal ar boblogaeth, a'i phrif ddinas yw Perugia.Roedd talaith Perugia yn gorchuddio Umbria i gyd hyd 1927 pan gafodd y dalaith Terni ei chreu.

Mae 59 bwrdeistref yn nhalaith Perugia, a 33 yn nhalaith Terni ac yn nhalaith Perugia ym mwrdeistref Foligno a thref Montefalco y gwelir ysgol goginio Casa Dudley!

Map of Italy

Perugia

Perugia ydi prif ddinas Umbria ac mae yng nghanol yr Eidal ger yr afon Tiber. Mae'n cael ei adnabod yn fwy na dim am leoliad y ffatri siocled fyd enwog Perugina sy'n gwneud y siocled Baci (cusanau), cnau wedi eu gorchuddio â siocled sy'n boblogaidd led led y byd. Yn Perugia hefyd ceir y coleg 'Universita per Stranieri', un o'r goreuon yn yr Eidal. Mae Perugia hefyd yn ganolfan gelfyddydol nodedig yr Eidal.

Foligno

Foligno ydi trydedd tref Umbria ac yn ôl y sôn mae bwrdd billiards wedi ei leoli yn union yng nghanol bar, sydd yng nghanol y dref sydd yng nghanol Umbria sydd yng nghanol yr Eidal sydd yng nghanol ardal Môr Canoldir sy'n golygu canol y byd!! Mae'n cael ei adnabod fel 'Rhosyn Umbria' oherwydd harddwch y wlad a hefyd am fod arogl hyfryd y blodau banadl a phalalwyfen yn yr aer.

Spello

Mae'r dref hynafol Spello yn un hudolus ac yn bleser i'r rhai sy'n hoffi cerdded, gyda'r bwâu cerrig Rhufeinig sy'n arwain i mewn i'r dref; Porta Venere, gyda'i dyrrau, Porta Urbica a Porta Consolare. Unwaith da chi mewn yn y dref mae'r strydoedd bychain yn plethu mewn i gilydd ac yn arwain at dai cerrig bychain sy'n gartrefi i'r 6,000 o drigolion.

I'r carwr celf mae Spello yn enwog am ei 'frescoes' hyfryd gan Pinturicchio- yn darlunio golygfeydd o'r Testament Newydd sydd i'w darganfod yn yr eglwys o'r 12fed ganrif S. Maria Maggiore.

Y cyfnod gorau i ymweld â Spello yw yn ystod y gwanwyn ar haf, mae'r potiau mynawyd y bugail yn blodeuo a'r waliau diffrwyth yn troi'n fôr o goch. Mae hefyd yn gyfnod yr wyl enwog L'Infiorata. Gŵyl grefyddol sy'n digwydd ar y 'Corpus Christi' ym mis Mehefin. Pob blwyddyn mae strydoedd Spello yn garped o gelf flodeuog yn dangos delweddau o ffigyrau crefyddol. Defnyddir miloedd o betalau gwahanol liw a pherlysiau persawrus i greu'r celf stryd yma. Yn wir, mae'n un o wyliau mwyaf ysblennydd a welwch chi'n yr Eidal. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r safle we http://www.infioratespello.it


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales