Neidio at y cynnwys

S4C

Cynnyrch Wmbria

Asbaragws

Yn llysieuyn rhagorol yn enwedig y rhai gwyllt. Un o brif gyfoeth Wmbria yw madarch ac asbaragws ac mae nhw'n helpu yn erbyn afiechydon y galon, lot o ffolig a fitamin A, E a C. Yn cynnwys potasiwm hefyd sy'n helpu cadw pwysau gwaed i lawr ac efallai colesterol.

Bara

Elfen bwysig o goginio Eidalaidd ydi briwsion bara ar gyfer sawsiau a stwffin yn ogystal â gorchuddio cigoedd gwahanol fel cig lloi. Mae pob pryd yn cael ei weini â bara yn Wmbria mae'n cael ei goginio mewn ffwrn enfawr ac yn dod mewn gwahanol siapiau a mathau:

  • ruota umbra - bara gwenith cyflawn mewn siâp crwn
  • brustengo - bara wedi ffrio, gyda bacwn a rhosmari,
  • Y bara di halen o Terni
  • pan caciato - gyda chaws pecorino a walnuts
  • pan nociato.

Caws

3 caws hanfodol i goginio Eidalaidd ydi:

  • Ricotta
  • Mozzarella
  • Grana - parmesan / pecorino

Caws ricotta

Daw o'r maidd (whey) sydd yn weddill ar ôl gwneud caws pecerino. Maen gyfoethog ac ychydig yn raenog ond yn fwy llyfn na chaws bwthyn (cottage cheese). Mae gwir gaws ricotta wedi ei neud o lefrith dafad ond bellach mae ricotta llefrith buwch ar gael yn rhwydd. Mae'n flasus wedi ei gymysgu gyda sbigoglys ( spinach) fel llenwad i ravioli ac mae hefyd i'w weld mewn ambell i rysáit pwdin.

Caws mozzarella

Wedi ei wneud â llefrith o byfflo dwr, ond mae modd defnyddio llefrith buwch hefyd. Maen gaws ffres maethlon ac yn mynd yn dda gyda thomato a phasta. Mae'n cael ei gynhyrchu yng nghanol a de'r Eidal. Daw tarddiad y gair 'mozza' o'r ferf Eidalaidd 'mozzare' sy'n golygu 'i dorri ffwrdd.' Wneud o lefrith wedi ceulo (curdled) sy'n wedyn yn cael ei dorri ddarnau bach ac yn cael ei falu mewn melin arbennig. Yna'n cael ei roi mewn dwr poeth a'i gymysgu hyd nes bod iddo deimlad rwber. Yna mae'r gwneuthurwyr caws yn tylino'r (knead) caws gydai ddwylo nes ei fod yn llyfn a meddal ac yn ei dorri'n ddarnau a'u rhoi mewn dwr oer ac yna mewn heli (brine) am ychydig oriau.

Caws parmesan

Caws wedi ei wneud o lefrith buwch ac wedi ei wneud yn yr un dull ers cannoedd o flynyddoedd yn ardal Emilia - Romagna o'r Eidal. Mae'n hanfodol mewn coginio Eidalaidd ac yn ychwanegu blas i'r prydau. Peidiwch â byth prynu caws parmesan wedi ei gratio yn barod fe fydd wedi colli ei flas ac yn troi'n sur yn sydyn.

Caws Pecorino

Pecorino - yn enw ar deulu o gawsiau caled o'r Eidal wedi ei wneud â llefrith dafad. Mae tarddiad y gair 'pecora' yn golygu dafad. Mae'n cael ei ddefnyddio gan amlaf ar brydau pasta, ac mae ganddo flas cryf hallt.

Caws A Gwin

Gwin gwyn yn well gyda cawsiau meddal â blasau cryf. Gwin coch yn well gyda caws caled â blas mwy ysgafn. Gwinoedd llawn ffrwythau a gwinoedd gwyn melys a gwinoedd pwdin yn well gydag amrywiaeth o gawsiau. Cryfaf yn byd yw'r caws melysa'n byd dylai'r gwin fod.

Cnau Pîn

The nuts that come from the cones of the 'stone pine', they are an important ingredient in pesto.

Emmer wheat

Gwenith sydd hefyd yn cael ei adnabod fel sbelt ac yn un o'r gwenith hynaf i oresgyn i'n hoes ni. Mae nifer o ffermydd organic ar lwybr gwin Sagrantino yn tyfu'r gwenith yma, ac ohono ceir blawd lliw euraidd yn hytrach na gwyn. Roedd yn cael ei ddefnyddio ers talwm mewn cawl yn lle cig pan oedd arian yn brin, mae'n llawn protein a maethion eraill. Diddordeb diweddar yn y gwenith yma oherwydd bod pobl yn magu mwy o ddiddordeb am fwydydd iachus ac felly'n ail ddarganfod y gwenith emmer.

Ffacbys

Ffacbys (Lentils) Castelluccio yn enwog iawn yn Wmbria. Ffacbys (lentils) bach sy'n coginio'n dda ac yn dal eu siâp wrth goginio yn hytrach na mynd yn slwtsh. Cael eu defnyddio mewn cawliau ac weithiau i stwffio llysiau.

Garlleg

Yn bwysig iawn i'r Rhufeiniaid ac roedd yn cael ei ystyried yn fwyd a oedd yn rhoi cryfder i'r milwyr. Tymor y garlleg yw rhwng Ebrill a Mehefin. Mae'n anghywir meddwl fod bwyd yr Eidalwyr yn llawn garlleg dim ond rhyw un neu ddau ewyn sy'n cael ei ddefnyddio mewn cawliau a stwffin a sawsiau.

Pesto

Mae pesto yn bodoli ers cyfnod y Rhufeiniad mewn amryw o ffurfiau ac yn debyg fe gafodd i fewnforio o ogledd Affrica. Y fersiwn clasurol sylfaenol ydi pesto alla Genovese yn cynnwys basil, halen, garlleg, olew olewydd gwyryf pur a chaws Pecorino sardo. Bellach llawer o ychwanegiadau eraill fel cnau pin, caws parmesan neu gaws pecorino Romano.

Yn ôl chwedl y pesto gorau un ydi gyda basil wedi cael ei dyfu mewn cwt gwydr yn Genoa yn ardal Pra. Pesto'n cael ei ddefnyddio'n aml ar basta, cawliau, craceri a bara er dyw e ddim yn gyfyngedig i rhain mae'n saws hyblyg iawn.

Rysáit Pesto

Llond llaw o fasil. Llond llaw o gnau pin. 5-6 llwy fwrdd o olew olewydd. Halen. Pupur. Rhoi'r cynhwysion i gyd mewn prosesydd bwyd bach - hei presto!!

Madarch

Mae madarch i'w gweld mewn amryw o rysetiau. Credir mai'r Groegwyr ar Rhufeiniaid cynnar a dyfodd madarch gyntaf. Roedd y Rhufeiniaid yn hoff iawn o'r teulu ffwng ond ar ôl cwymp yr ymerodraeth Rufeinig roedd madarch yn cael eu hosgoi am fod ganddyn nhw ofn cael eu gwenwyno! Mae'r 'Boletus edulis' neu 'porcino umbro' yn 'em o fadarch, ac yn cael ei ddarganfod yn fwy na heb mewn coedwigoedd pîn. Dylai madarch fod yn gadarn ac yn wastad mewn lliw. Cofiwch osgoi madarch sydd wedi eu malu, briwio â gyda darnau meddal ac sy'n edrych fel bod llwydni arnynt. Peidiwch â'u gorchuddio mewn plastig ond yn hytrach eu rhoi mewn un haenan ar hambwrdd wedi eu gorchuddio â phapur cegin llaith. I'w bwyta eu rinsio gyda dwr oer a'u sychu gyda phapur cegin neu rhwbiwch nhw â phapur cegin damp. Eu defnyddio yn syth neu mi fydd y cnawd yn tywyllu. Mae nhw'n cynnwys dau fitamin pwysig B niacin a riboflavin.

Mêl

Cynhyrchu mêl yn ddibynnol ar bresenoldeb, dosbarthiad a chyflwr iechyd y gwenyn a hefyd mae ansawdd y mêl yn ddibynnol ar ansawdd y blodau'r lle mae'r gwenyn yn cael eu neithdar ohonynt. Yn Wmbria sydd hefo llygredd aer lleiaf oherwydd prinder diwydiannau a phoblogaeth isel mae'r mêl o ansawdd hynod o uchel. Mae llawer yn credu fod i'r mêl rinweddau therapiwtig, helpu gyda phlant yn cael dannedd, ac yn gymorth gyda'r system dreulio. Y math mwyaf cyffredin o fêl sy'n cael ei gynhyrchu yw mêl 'millefiori' - mil o flodau.

Olifau

Credir bod olifau yn un o'r bwydydd cyntaf yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif C.C. Daw'r olifau yn wreiddiol o Asia Leiaf lle bu iddynt ymledu ar draws y byd. Credir hefyd bod duwiau Groegaidd wedi eu geni o dan goed olifau, ac yn ôl chwedlau bu i'r dduwies Athena roi dwy anrheg i'r Groegwyr hynafol : doethineb ac olifau.

Mae olifau'r Eidal yn amrywio o ran maint, lliwiau siapiau ac ansawdd.

  1. tywyll - olifau du - o Gaeta
  2. bach sy'n ddu fel glo - Rufain
  3. llygad bach gloyw du, brown, piws a melyn - Sardinia
  4. rhai du mewn olew - Sicily
  5. myglyd, crychiog du - Castellamare
  6. gwyrdd amrywiol, llachar, llyfn, rhai melyn a rhai anferth gwyrdd - Puglie

Olew olewydd

Ar hyd y llwybr Sagrantino fe welwch chi lwyni ar ôl llwyni o goed olifau. Mae cannoedd o ffermydd yn cynhyrchu olew olewydd yn yr ardal ac adeg cynhaeaf yr olifau fe welwch chi nifer iawn o'r cynhyrchwyr yn dringo coed gyda rhwyd!

Mae olew olewydd yn cael ei ddefnyddio yng ngwledydd Mediteranaidd ers miloedd o flynyddoedd ond dim ond yn ddiweddar mae o wedi dod yn boblogaidd y tu allan i'r gwledydd yma. Llawn fitaminau sy'n slofi'r broses o heneiddio'r croen ar esgyrn ac yn ein harbed rhag clefyd y galon ar rhydweli. Hefo bara a gwin mae olew olewydd ac olifau yn rhan annatod o fywyd Eidalaidd ac mae'r amrywiaeth o goed olifau, hinsawdd a chariad at y cynnyrch gan y ffermwyr yn creu olew olewydd heb ei ail.

Olew olewydd gwyryf pur ( extra virgin olive oil)

Dynodi olew syn dod o ffrwyth y goeden olif heb unrhyw newid na ddirywio drwy wres neu gemegyn.

Mathau o olew olewydd

Mwyn / ysgafn - yn ysgafn,menynaidd (buttery) a melys ac yn berffaith gyda chigoedd amrwd a carpaccio, llysiau wedi stemio, cawliau a sawsiau pasta a cawsiau.

Ffrwythus (Fruity) - cryfach a fwy ffrwythus yn dda gyda chigoedd wedi grilio, bruschetta, a sawsiau garlleg.

Ffrwythus sbeislyd (Fruity-spicy) - blas ymosodol addas ar gyfer prydau traddodiadol gwladaidd.

Blasu olew olewydd

  1. Rhoi dim mwy na 15ml o olew mewn cwpan a'i orchuddio â darn o bapur
  2. Dal y gwpan yn eich llaw i gynhesu'r olew a rhyddhau'r arogl - tua 1-2 munud. Edrych ar ei liw
  3. Anadlu allan ac yna anadlu'r arogl i mewn - gorchuddio'r gwpan eto yna ail adrodd
  4. Llymaid bach o'r olew yn eich ceg - a phenderfynu - mwyn, ffrwythus neu ffrwythus sbeislyd.
  5. Blasu'r olew ddwywaith - rhwng pob blas glanhau'r geg gyda dwr, darn o fara neu sleisen o afal
  6. Penderfynu os da chi'n ei hoffi neu beidio!

Prawf i weld os yw olew olewydd yn wyryf pur

Rhoi ychydig mewn powlen wydr ai oeri am ychydig ddiwrnodau, os yw'n grisialog mae'n arwydd tebygol iawn o wir olew olewydd pur. Yn Liguria a Llyn Garda, ardal Veneto - mae'r olew olewydd yn olau ar un ysgafna o holl olew olewydd Eidal. Mae olew olewydd Twsgani a Wmbria mwy ffrwythus a cryf a gydag olew Sicili, Sardinia a Calabria yn fwy mwyn er yn 'full bodied'

Paru olew gyda bwydydd

Prydau ysgafn a sawsiau heb arlleg - olew olewydd mwyn. Sawsiau pasta gyda garlleg, perlysiau,sbeisus a saladau - olew olewydd ffrwythus. Cigoedd wedi grilio a rhostio, cawsiau hyn neu brydau gyda lot o arlleg a sbeisys - olew olewydd ffrwythus. Tip: Cofio blasu'r olew olewydd cyn coginio a fo.

Perlysiau'r Eidal

Mae perlysiau yn gynhwysion hanfodol yng nghwpwrdd bwyd yr Eidalwyr.

Brenhinllys (Basil)

- persawr sbeisi ac aromatic. Caei ei ddefnyddio'n aml i flasu sawsiau tomato, mewn saladau a cawliau. Yn ogystal ar brenhinllys melys cyffredin mae'r Eidalwyr yn tyfu fersiwn anferth o'r enw 'basilica a foglie di lattughe' - 'lettuce leaved basil'

Mintys y graig gwyllt (Wild Marjoram)

y perlysieuyn yma'n blasu nifer o brydau'r Eidal yn enwedig y Pizza Napoletana.Yn flasus gyda porc, cig lloi a llysiau

Mintys y graig melys (Marjoram melys)

Cael ei ddefnyddio yn lle oregano ac i'w weld mewn cawliau, stiwiau a phrydau pysgod, porc a llysiau.

Teim

Y perlysieuyn syn cael ei ddefnyddio amlaf. Yn rhoi blas blodeuog priddlyd (earthy) i fwyd. Mynd yn dda hefo cigoedd a cyw iâr a llysiau, sawsiau a stwffin. Popeth!

Saets

Mynd yn dda hefo cig lloi, afu lloi, cyw iâr a sawsiau pasta gyda menyn.

Mint

I'w weld tipyn mewn saladau a cawliau a gyda prydau pysgod a llysiau a dofednod (poultry)

Rhosmari

Mae'r Eidalwyr yn hoff iawn o'r perlysieuyn yma ac yn flas hanfodol i 'abbacchio' - cig oen bach a hefyd i weld yn y rysáit 'porcetta' sef y mochyn rhost

Ffenigl (fennel)

Blas anesid ac yn gallu cael ei fwyta'n amrwd neu wedi ei goginio ai rostio. Mae hefyd yn cael ei fwyta ar ddiwedd pryd yn lle ffrwythau. Mae'n gynhwysyn pwysig yn y stwffin ar gyfer 'porcetta.'

Persli

Mae nhw'n dweud fod persli yn tarddu o Sardinia ar gwelir yr Eidalwyr yn defnyddio tipyn ohono mewn cawliau a saladau.

Oregano

Yn aml yn cael ei ysgeintio dros bruschetta ac mewn marinâd i gyw iâr.

Dail llawryf

Yn ôl traddodiad mae coeden llawryf yn gwywo yn arwydd o argoel ddrwg. Mae'n rhoi blas i gawliau a stiwiau Cofiwch eu tynnu allan cyn bwyta!

Capryn

Rhai bach yw'r gorau ac i'w gweld ar ben pizzas ac mewn rhai sawsiau tomato. Byth yn cael eu coginio mewn pryd dim ond eu taflu mewn i'r pryd ar y funud olaf i'w cynhesu am ychydig.

Merywen

cael eu rhoi mewn stwffin ar gyfer gêm ac yn ardderchog gyda porc a chig dafad

Dil

edrych fel ffenigl. Cael ei ychwanegu i'r pryd at y diwedd gan ei fod yn berlysieuyn syn colli ei flas wrth gael ei goginio.

Taragon

Yn hanfodol i goginio Eidalaidd. Blas anesid cryf ac yn blasu prydau cyw iâr, sawsiau saladau a llysiau wedi coginio. Blas cryf felly angen bod yn ofalus hefo fo.

Sbeisys

Mae'r defnydd o sbeisys mewn bwydydd Eidalaidd yn tarddu'n ôl i oes y Rhufeiniaid.

Nytmeg

I'w weld bron iawn ym mhob rysáit sy'n cynnwys spigoglys ( spinach) a bron iawn ym mhob pryd boed yn felys neu sawrus sy'n cynnwys ricotta

Saffrwm

cael ei dyfu yn yr Abruzzi ac yn Sardinia ac yn rhoi lliw golau i risotto Milanese. Mae o'n un o'r sbeisys drytaf ac mewn coginio Eidalaidd does dim byd all gymryd ei le. Cael ei weld mewn risottos, cawliau pysgod, prydau pasta ac mewn ambell i bwdin

Porc

Yn Umbria defnyddir bron iawn pob rhan o'r porc! Brechdan draddodiadol Twsgani ac Umbria ydy bara caled wedi ei lenwi gyda porchetta (mochyn cyflawn wedi ei stwffio gyda ffenigl a garlleg yn cynnwys y saim!). Mae magu moch a bwyta porc yn draddodiad cryf yn yr ardal. Y rysáit - Angen mochyn tua 40 kilo a thynnu ei berfedd allan a'i flasu â pherlysiau, halen, pupur du, garlleg a ffenigl gwyllt ac yna ei stwffio yn ôl i mewn i ganol y mochyn a'i rostio ar 'spit'.

Lwyn ( loin) porc hefo lafant

Cynhwysion:
4 darn o lwyn porc (loin)
1 llwy de o halen
1 llwy de o bupur du
1/2 llwy de o lafant wedi sychu
2 llwy de o dail teim ffres
1 llwy de o dail 'rhosmari'
1 llwy fwrdd o olew olewydd gwyryf pur
  1. Mewn powlen fach, cyfuno'r halen, pupur, lafant, teim, 'rhosmari', ac olew a rhwbio'r gymysgedd ar y porc. Gorchuddio'r porc gyda 'cling film' a gadael i eistedd am 1 i 2 awr mewn tymheredd ystafell.
  2. Cynhesu'r gril a rhoi'r porc o dan y grill, ei goginio pob ochr am oleia 5 munud.

Salami a chynnyrch porc

Dyma enghreifftiau o gynnyrch porc ardal Umbria:

  • Guanciale neu barbozzo - bochau mochyn wedi ei halltu mewn gwin coch.
  • Pancetta - wedi ei wneud o fol y porc. I'w weld yn eithaf aml fel cynhwysyn mewn pasta carbonarra.
  • Copa di testa - cig o ben y mochyn wedi ei flasu a garlleg pupur du a halen. Yn flasus gyda caws pecorino a gwydriad o win coch cadarn.

Yn ychwanegol i 'proscuitto di Norcia' un o'r 'proscuitto' gorau'r Eidal corallina - y gwreiddiol ar enwocaf o salami Umbria, yn cael ei weini fel starter gyda llysiau wedi grilio, tomatos wedi sychu yn yr haul ac olifau.

Mathau eraill yn cynnwys:

  • mazzafegati
  • mortadella
  • capollo - brechdan gig wedi ei flasu â ffenigl, garlleg, halen pupur ac wedi ei hallti mewn gwin coch
  • selsig ciauscolo sy'n hynod o flasus gyda sleisys o afalau, grawniwn a mêl a bara.
  • Fiaschetta - selsig bach siâp gellyg sbeisi gwych gyda bara lleol neu fel ychwanegiad i risotto.

Risotto

Yn glasur Eidalaidd. Tip ar goginio risotto

  1. Reis cywir - arborio ( yr un mwyaf poblogaidd), carnaroli a Vialone nano. Ac un peth pwysig i gofio does dim angen golchi'r reis angen y starts i wneud risotto.
  2. Tua 3-4 owns o reis i bob person
  3. Stoc poeth ai ychwanegu fesul tipyn fel bod y reis yn mynd tewhau a mynd yn dynner.

Risotto madarch hawdd

Amser Paratoi: Llai na 30 munud
Amser Coginio:10-30 munud
Digon i: 4

Cynhwysion:
1 x llond llwy fwrdd o fadarch Porcini sych
2 x llond llwy fwrdd o olew olewydd
1 x winwnsyn wedi torri'n fân
2 x gewyn o 'arlleg wedi torri'n fan
8owns / 225g o fadarch gwyllt wedi sleisio
12owns / 350g o reis Arborio
_ peint / 150ml o 'win gwyn sych
2 beint / 1.2 litr o stoc llysiau poeth
2 x llond llwy fwrdd o bersli ffres wedi ei falu
1owns / 25g o fenyn
Pupur a halen
Caws Parmesan ffres wedi gratio
  1. Socian y madarch Porcini mewn dwr poeth am 10 munud a'u draenio'n dda.
  2. Cynhesu'r olew mewn sosban fawr ac ychwanegu'r winwns a'r garlleg.
  3. Ffrio'r cyfan dros wres ysgafn am tua 2-3 munud hyd nes bod y winwns/garlleg yn feddal. Ychwanegu'r madarch gwyllt a'u ffrio am 2-3 munud hyd fod y cynhwysion wedi troi'n lliw euraidd.
  4. Ychwanegu'r reis a'i droi yn dda. Tywallt y gwin a'i fudferwi gan barhau i'w droi hyd fod y reis wedi amsugno'r hylif. Ychwanegu'r stoc yn raddol nes bo'r hylif wedi cael ei amsugno a'r reis yn dyner.
  5. Torri'r madarch Porcini a'u hychwanegu i'r risotto gyda'r persli, menyn, pupur a halen. Gweini gyda Parmesan ffres.
Amser Paratoi: Llai na 30 munud Amser Coginio: 10-30 munud Digon i: 4

Cynhwysion
2 x llond llwy fwrdd o olew olewydd
2owns / 50g o fenyn
1 x winwnsyn wedi torri'n fan
2 x gewyn o 'arlleg wedi torri'n fan
14owns / 400g o reis risotto
5owns / 150ml o 'win gwyn
2_ peint / 1.5 litr o stoc cyw-iar poeth
1pwys / 25g o bys ffres
1owns / 25g o gaws Pecorino wedi gratio
Llond llaw o mint ffresh wedi torri'n fan
Pupur a halen

Risotto Pys A Pecorino

  1. Cynhesu'r olew a hanner y menyn mewn sosban fawr. Ychwanegu'r winwns a'i goginio am tua 5 munud tan fod y winwns yn feddal. Ychwanegu'r garlleg a'i goginio am rai munudau pellach. Ychwanegu'r reis a'i goginio'n dda hyd fod y reis yn sgleiniog.
  2. Tywallt y gwin i'r sosban a'i ferwi am 1 munud gan adael i'r alcohol anweddu gan ei droi yn rheolaidd. Troi'r gwres i wres-canolig ac yn raddol ychwanegu'r stoc hyd bo'r reis wedi amsugno'r hylif i gyd cyn ychwanegu gweddill y stoc.
  3. Wedi 15 munud o goginio, ychwanegu'r pys ai goginio am 5-7 munud pellach.
  4. Pan fydd y reis yn feddal a'r ansawdd yn hufennog, mae'r risotto yn barod.
  5. Diffodd y gwres ac ychwanegu gweddill y menyn, caws, pupur a halen.
  6. Gadewch i'r risotto 'orffwys am rai munudau cyn gweini.

Gnoci

Dwmplenni bach ac yn un o'r bwydydd hynaf ar gofnod, ar gael mewn llyfrau coginio cyn belled ar 13th ganrif. Fe all gnoci gael ei wneud â bara, blawd semolina a'u blasu gyda sbigoglys, saffrwm a hyd yn oed cloron (truffles). Eu berwi fel pasta mewn dwr a'u gweini a saws tomato, pesto, menyn neu gaws. Heddiw mae llawer o gnoci'n cael ei wneud â thatws ac mae nhw'n hawdd i'w gwneud ac yn arbennig o dda gyda pesto neu gyda saws menyn a saets.

Gnoci gyda hwyaden a llys

300 gram tatws
100 gram blawd
1 Wy
Nytmeg
1 Helogan wedi torri'n fan
1 Moron wedi torri'n fan
1 Nionyn wedi torri'n fan
Dail llawryf ('Bayleaf')
1 gewyn garlleg
_ gwydr o win coch
Halen a phupur
25 gram Llys
250 gram Hwyaden
Stoc cig
Perlysiau
Caws parmesan
  1. Berwi'r tatws, yna eu stwnshio nes eu bod yn llyfn.
  2. Cymysgu gyda'r blawd, wy, halen, pupur a nytmeg ac ychydig o'r caws parmesan
  3. Creu peli bach allan o'r gymysgedd gnoci yma.
  4. Torri'r hwyaden yn giwbiau bach.
  5. Coginio'r halogen, moron a'r nionyn gyda'i gilydd mewn padell gyda'r olew a pherlysiau
  6. Ychwanegu'r hwyaden a'r gwin coch a pharhau i'w goginio nes bod y gwin wedi lleihau ac wedi treiddio i mewn i'r cig.
  7. Coginio'r cyfan yn araf am 35 / 40 munud cyn ychwanegu'r stoc bob hyn a hyn - I gadw'r cymysgedd yn wlyb.
  8. Ychwanegu halen a pherlysiau i'ch tast eich hunain.
  9. Cychwyn coginio y gnoci mewn dwr berwedig â halen; unwaith maent wedi coginio eu hychwanegu at yr hwyaden.
  10. Ychwanegu'r llys at y gymysgedd at ddiwedd y cyfnod coginio am ychydig eiliadau ac yna ei weini gydag ychydig o gaws parmesan

Siocled

Mae gan siocled hanes hir yn yr Eidal ac mae'n debygol y gwelwch chi siopau siocled ar bob cornel o bob stryd yn yr Eidal. Canolfan pwysica' yr Eidal o ran siocled yw Perugia. Yma fe welwn ni gynhyrchu baci - sy'n golygu cusan; cnau wedi eu gorchuddio â siocled sy'n boblogaidd led led y byd.

Tomato

Mae stori fach ddifyr o Romagna am offeiriad oedd wastad yn busnesu ym mywydau pobl, nid yn faleisus dim ond o ran chwilfrydedd. Roedd ei blwyfolion fodd bynnag yn hoff iawn ohono a bu iddyn nhw ei alw'n don pomodoro ( don tomato) gan ei fod fel y tomato ym mhopeth! Mae'r tomato yn perthyn i deulu'r tatws, pupur a wylys ( aubergine). Fe ddaeth i Ewrop or Americas yn y 16 G. drwy fotanegwr o'r enw Andrea Mattiolo o Sienna, fo oedd yr Eidalwr cyntaf i ysgrifennu am y tomato ai alw'n pomo d'oro - afal gwyrdd. Mae un o'r rysáit cynharaf am saws tomato yn dod o lyfr neopolotan o'r enw Lo Scalo alla moderna gan Antonia Latini 1692 - 94

Olew gwyryf pur
450g ( 1lb) tomatos ( torri'n giwbiau bach)
Tua 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
Halen a phupur

Rysáit saws tomato - passata

Pwysigrwydd y rysáit ydi defnyddio'r cynhwysion gorau ar olew olewydd gwyryf pur gorau.

  1. Rhoi digon o olew olewydd mewn padell ffrio - digon i roi haenen denau dros waelod y badell ai gynhesu hyd nes ei fod yn boeth iawn - dylai fod tes yn codi ohono.
  2. Rhoi'r tomatos yn y badell a'u gadael i hisian am ychydig funudau yna eu ffrio yn ysgafn neu eu bod yn meddalu.
  3. Ychwanegu'r piwrî tomato ai sesno gyda'r pupur a halen yna ei basio drwy ridyll.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales