Neidio at y cynnwys

S4C

Sieri

Mae gwin wedi cael ei gynhyrchu yng ngorllewin Andalucía ers dros dair mil o flynyddoedd, ond dim ond yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg neu'r bedwaredd ganrif ar ddeg y cafodd sieri ei ddarganfod. Crewyd y ddiod pan oedd morwyr yr ardal yn chwilio am ffordd o gadw eu gwinoedd am gyfnodau hir, a darganfuwyd bod hyn yn bosib wrth ychwanegu gwirodydd.

Yn ôl y son, daeth y ddiod yn boblogaidd ym Mhrydain wedi i Syr Francis Drake gipio 3000 casgen ohono o Cadiz. O hynny ymlaen cafodd y gwin cadarn o dref Jerez de la Fronteria - neu 'Sherry' fel yr oedd yn cael ei adnabod gan y Saeson - ei hwylio'n ôl i Brydain, lle daeth yn boblogaidd dros ben.

Heddiw, dim ond gwin o "Driongl Aur" Jerez de la Fronteria, Sanlúcar de Barrameda ac El Puerto de Santa María yn nhalaith Cadiz caiff gario'r enw 'sherry'.

Mae'r grawnwin yn tyfu ar briddoedd gwyn, llawn calch, sy'n storio pob diferyn o ddŵr yn yr ardal sych yma.

Un math cyffredin o rawnwin sy'n cael ei dyfu er mwyn cynhyrchu sieri yw Palomino Fino, sy'n tyfu ar 94% o'r tiroedd hynny sy'n cynhyrchu sieri, ac mae'r grawnwin Pedro Ximénez a Moscatel yn ychwanegu melyster i'r gwin.

I wneud sieri, mae angen i'r Palomino eplesu (ferment) i gynhyrchu gwin gwyn sych, cyn bod gwirodydd yn cael eu hychwanegu i gryfhau'r gwin fyny at ryw 15° neu 16°.

Mae'r gymysgedd yma wedyn yn cael ei storio mewn casgenni derw, sydd ddwy ran o dair yn llawn er mwyn gadael i aer Môr Iwerydd eu treiddio. Mae'r gwin yn treulio'i flwyddyn gyntaf yn y bodegas llaith, ble mae matiau o wair esparto'n gorchuddio'r ffenestri, gan adael rhywfaint bach o olau haul a gwyntoedd yr Iwerydd i mewn.

Wedi ychydig o wythnosau dan yr amodau yma, mae haen o furum gwyn yn ffurfio (y flor) ar y gwin ifanc.

Mae'r gwneuthurwr yn blasu'r gwin am y tro cyntaf wedi 6 i 10 mis er mwyn cadw golwg ar ei ddatblygiad. Mae'n cymryd ychydig o win o bob casgen gyda'i venencia, sef gwydr hir, cul ar wialen, ac yn gwirio lliw, gloywder, arogl a blas y gwin.

Yr amser lleiaf a ganiateir ar gyfer aeddfedu sieri yw tair blynedd, ond mae sieri ar gael sydd wedi bod yn aeddfedu am hyd at 150 o flynyddoedd.

Fino

mae arogl y sieri golau, ysgafn yma'n cael ei greu pan fod flor y burum yn ffurfio ar wyneb y gwin yn y gasgen ac yn gwarchod y gwin rhag ocsideiddio. Mae'n gyffredin iawni arogli almwn. Mae'r cynnwys alcohol fel arfer rhywle rhwng 15.5° a 17°. Caiff fino ei ystyried yn win aperitif, ac mae fersiwn ysgafnach hefyd ar gael, gyda chynnwys alcohol o 15°. Caiff fino ei yfed gyda'r prif bryd yn Andalucía.

Manzanilla

fino golau, ysgafn a sych iawn, a ddaw o Sanlúcar de Barrameda yn unig. Mae'r microhinsawdd sydd i'w ganfod yn yr ardal hon, ger Môr Iwerydd, yn sicrhau fod y flor yn blodeuo trwy gydol y flwyddyn - sy'n golygu bod y gwin yn cael ei amddiffyn rhag y broses ocsideiddio (yn Jerez, dim ond yn ystod y gwanwyn a'r hydref y mae'r flor yn blodeuo). Sych a phersawrus felly yw cymeriad y Manzanilla, gydag elfennau hallt o Fôr Iwerydd.

Amontillado

os gadewir i fino i aeddfedu am ddigon hir yn y soleras clear, llaith, mae'r flor yn marw. Mae'r gwin yna yn ocsideiddio, gan dyfu'n dywyllach ac yn fwy aromatig. Mae gan Amontillado gynnwys alcohol o rhwng 16° a 18°, a gall fod yn sych neu'n "sych-ganolig". Mae ganddo arogl cnau pwerus, fel arfer gyda blas sych sydd bron yn chwerw. Er mwyn cael sieri melys, mae gwinoedd o rawnwin Pedro Ximénez neu Moscatel yn cael eu hychwanegu at Oloroso neu Amontillado.

Oloroso

sieri tywyll, llawn sydd wedi ei ocsideiddio ac aeddfedu oherwydd dirywiad y flor. Mae arogl swmpus, cneuog ganddo gydag elfennau melys. Gall fod yn sych neu'n 'sych-ganolig', ac mae gan y sieri gynnwys alcohol o rhwng 18 a 20 gradd. Mae'n tyfu'n dywyllach gydag oedran.

Hufen Golau (Pale Cream)

fino o rawnwin Palomino, gyda sudd grawnwin cryno wedi ei ychwanegu i sicrhau melyster.

Hufen

caiff y math yma o sieri ei gynhyrchu pan fod grawnwin Pedro Ximénez yn cael eu hychwanegu at Oloroso. Mae'n dywyll ac yn arogli'n felys, gyda lliw mahogani disglair.

Palo Cortado

dim ond mewn niferoedd bach iawn caiff y sieri yma ei gynhyrchu, a gorwedd rhywle rhwng amontillado ac oloroso. Caiff ei heneiddio heb flor, ac mae cynnwys alcohol o rhwng 18° a 20° ganddo. Mae ganddo liw tywyll.

Pedro Ximénez

mae gan y gwin esmwyth melys yma o rawnwin Pedro Ximénez gynnwys alcohol o 17°. Mae ganddo liw tywyll mahogani, a blas cryf o resins.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales