Neidio at y cynnwys

S4C

Tabarrini

tabarrini

Giampaolo Tabarrini a'i deulu, Frederica ei wraig a'i fab bach ciwt Filippo, yw'r bumed genhedlaeth i redeg gwinllan Cantina Tabarrini vineyard. Mae Giampaolo yn gweithio'r un tir a wnaeth ei hen hen dad-cu ond Giampaolo yw'r gwinwr cyntaf i botelu'r gwin. Cyn hynny, roedd o dim ond cael ei werthu'n lleol mewn piseri. Newidodd traddodiadau ac arferion gwin yn y 1990au. Yn hytrach na gormodedd o win rhad yn cael ei gynhyrchu i'w yfed yn syth, dechreuwyd cynhyrchu llai o winoedd o ansawdd gwell wedi eu haeddfedu a'i fwynhau. Cynhyrchwyd y poteli gwin cyntaf Cantina Tabarrini yn 1996 a dechrau'r broses aeddfedu. Adeiladodd Giampaolo dŵ yn 2003-4 a gorffen y ffordd sy'n arwain i'w ddrws yn 2006. Bu i'w egni diderfyn a'i natur hawddgar brofi'n amhrisiadwy.

Umbria yw'r unig le yn y byd lle mae gwinwydd Sagrantino yn tyfu, mae'r grawnwin yn parhau i gael eu pigo â llaw ar ddiwedd Medi i mewn i Hydref. Mae'r amseru yn hanfodol, yr hira y gadewch chi nhw y gorau bydd y cnwd. Mae hyn hefyd yn gallu cynyddu'r risg o dywydd drwg a dinistrio'r cynhaeaf. Y gwynt sy'n chwythu drwy'r dyffryn yw ffrind Giampaolo, yn diogelu bod y grawnwin yn aros yn sych ac yn rhydd o lwydni o dan eu dail.

Mae'r carton lle maen nhw'n cael eu gosod yn fach yn nhermau diwydiant - dim ond 60kg yr un. Mae'r grawnwin yn cyrraedd y stafell brosesu o fewn 10 munud o gael eu pigo yn sicrhau ansawdd gorau o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r winllan yn cynhyrchu 6 math gwahanol o win ar un coch wedi bod yn llwyddiant masnachol ysgubol, er o holiadur anffurfiol o'r criw cynhyrchu roedd hoffter mawr i'r rose!

Gan ei bod yn cymryd 7 mlynedd o waith i gynhyrchu 4 'vintage', Mae'r gwaith yn galed. Mae'r gwin yn cael ei gadw am 40-45 diwrnod yn hytrach na'r 15 diwrnod arferol cyn cael ei botelu, sy'n rhoi dyfnder ac ansawdd iddo. Mae Giampaolo yn argymell yfed y coch saith mlynedd ar ôl ei botelu!


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales