Neidio at y cynnwys

S4C

Tapas

Ffordd o fwyta yw Tapas, yn hytrach nag unrhyw fath o fwyd penodol, a gall gynnwys unrhyw beth - paella, ham, olewydd cymysg, caws ar dost, bwyd môr wedi ei ffrio - unrhyw beth, dim ond ei fod yn fach, ac yn cael ei weini gyda'ch diod.

Nid yw Tapas chwaith yn gwrs cyntaf neu'n brif gwrs, ac os cewch wahoddiad i "fynd am tapas", mae'n debygol y byddwch yn ymweld â sawl bar gan gymryd tapas neu ddau ym mhob un. Er hyn, mae tapas yn yr Unol Daleithiau a Phrydain wedi datblygu i fod yn cuisine cyfan, ac mae pobl yn tueddu i ofyn am sawl math o dapas a'u cyfuno i wneud un pryd mawr.

Mae sawl eglurhad am wreiddiau tapas. Yn ôl un, fe gychwynnodd y traddodiad yn y drydedd ganrif ar ddeg, wedi i'r Brenin Alfonso y Doeth wella o afiechyd drwy yfed digonedd o win a bwyta byrbrydau rhwng pob pryd. Unwaith roedd yn holliach, fe basiodd y Brenin ddeddf a oedd yn datganu na chaniateid i'r tafarndai werthu gwin os nad oedd rhywbeth i'w fwyta ar gael. Roedd hyn hefyd yn atal yr effeithiau niweidiol ar bobl oedd yn yfed alcohol ar stumog wag, gan eu bod nhw'n rhy dlawd i brynu bwyd maethlon.

Yn ôl ffynonellau eraill, sleisys o fara oedd y tapas (o'r ferf tapar - i orchuddio) gwreiddiol, a oedd yn cael eu defnyddio i orchuddio'r gwydrau sieri a gwarchod yr hylif melys rhag pryfed ffrwythau. Cyn bo hir, roedd darnau bach o fwyd yn cael eu rhoi ar y bara, ac fe ddaeth y tapas mor bwysig â'r sieri ei hun.

Credai rhai bod y traddodiad yn tarddu o'r 16eg ganrif, pan fu perchnogion tafarndai Castilla - La Mancha yn cuddio blas gwin rhad drwy gynnig caws cryf, aeddfed am ddim gyda'r ddiod!

Fel arfer, nid yw swper yn Sbaen yn cael ei weini tan o leiaf 9 o'r gloch, a gall fod mor hwyr â hanner nos. Mae hyn yn golygu fod bwlch rhwng yr amser mae pobl yn gorffen gwaith ac amser swper, ac felly mae llawer yn mynd i'r bar am dapas. Gan fod cinio fel arfer yn cael ei weini rhwng 2 a 4 o'r gloch, mae hefyd yn arferiad bwyta tapas am oddeutu hanner dydd yn ystod y penwythnos, fel modd o gymdeithasu cyn cael cinio iawn.

Mae'n gyffredin iawn gweld amrywiaeth o ryw 8 - 12 tapas gwahanol mewn bwyty neu far lleol, ac maent fel arfer yn cynnwys digonedd o arlleg, chillis, paprika, cwmin, halen, pupur, saffrwm a digonedd o olew olewydd. Fel arfer, mae dewis bwyd môr ar gael (mariscos) sy'n cynnwys brwyniaid, sardinau, mecryll ac ystifflog, i gyd mewn olew olewydd neu ryw fath o saws tomato. Prin iawn y gwelir dewis o dapas sydd ddim yn cynnwys gwahanol fathau o olewydd, megis manzanilla neu arbequina. Mae bara hefyd yn gyffredin gyda thapas sawslyd.

Mewn rhai ardaloedd o Sbaen, megis Madrid, León, Extremadura ac mewn rhai rhannau o Andalucía, ceir tapas yn rhad ac am ddim gyda diod.

Weithiau, yn enwedig yng ngogledd Sbaen yng ngwlad y Basg, Cantabria a Salamanca, maent yn cael eu galw'n pinchos gan fod gan lawer ohonynt pincho, neu toothpick, drwyddynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw'r bwyd yn disgyn oddi ar y bara, a hefyd yn helpu cadw cyfrif o faint o dapas mae'r cwsmer wedi ei fwyta.

Enw arall ar eu cyfer yw bandarillas, gan eu bod yn debyg i'r gwaywffyn lliwgar a ddefnyddir gan y matadors.

Yn Andalucía, gall 'uwchraddio' tapas i fod yn hanner pryd o fwyd (media racion) neu'n bryd llawn (racion), yn debyg iawn i'r mezze o'r Dwyrain Canol, neu'r dim sum Tsieineaidd.

Tapas Cyffredin

Aceitunas: olewydd

Albôndigas: peli cig.

Allioli: mae'n golygu "garlleg ac olew" mewn Catalan. Yn draddodiadol, dim ond garlleg, olew a halen mae'n ei gynnwys. Blas cryf iawn. Caiff ei weini gyda thatws, pysgod, llysiau neu gig, neu ar fara.

Boquerones: brwyniaid gwyn mewn finegr (boquerones ên vinagre) neu wedi eu ffrio.

Calamares neu rabas: cylchoedd ystifflog wedi eu ffrio.

Carne mechada: cig eidion wedi ei goginio'n araf.

Chopitos: ystifflog ifanc mewn cytew wedi ei ffrio. Gair arall amdanynt ydi puntillitas.

Cojonuda (dynas wych!): math o pincho. Mae'n cynnwys sleisys o forcilla Sbaeanaidd, gydag wy sofliar (quail) wedi ei ffrio dros ddarn o fara.

Cojonudo (dyn gwych!): math o pincho. Mae'n cynnwys sleisys o chorizo, gydag wy sofliar wedi ei ffrio dros ddarn o fara.

Chorizo al vino: selsig chorizo wedi ei goginio mewn gwin.

Ensaladilla rusa: llysiau cymysg gyda thiwna, olewydd a mayonnaise.

Gambas: gorgimychiaid wedi eu ffrio mewn salsa negra (saws peppercorn), al ajillo (gyda garlleg), neu pil-pil (gyda phupur chilli).

Pimientos de Padrôn: pupur gwyrdd bychan o Padron, sydd wedi eu ffrio mewn olew olewydd.

Patatas bravas: sleisys o datws wedi eu ffrio neu eu berwi mewn salsa brava, saws tomato syml. Caiff ei weini weithiau gydag alioli.

Queso côn anchoas: caws Castilla neu Manchego gyda brwyniaid arno.

Rajo: cig moch gyda phersli a garlleg.

Solomillo a la castellana: porc wedi ei ffrio, gyda saws nionyn neu gaws Cabralles (gafr).

Tortilla de patatas, neu Tortilla española: math o omled sy'n cynnwys darnau o datws a nionod wedi eu ffrio. Mae math sy'n cynnwys llysiau a chorizo ar gael, o'r enw Tortilla paisana


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales