Diwylliant bwyd
Cartref y salami gorau, y siocled byd enwog ac wrth gwrs y gwin!
Fel mae nhw'n gwisgo'n dda mae'r Eidalwyr yn bwyta'n dda, mae nhw'n bwyta gydag awch, ac ym mhob man fe welwch chi fod pantri'r trigolion yn llawn cynnyrch; caws, selsig, ham,bara,gwin ayyb.
Fodd bynnag tydi cucina (cuisine) Eidalaidd ddim yn bodoli. Fe fyddwch yn sicr o glywed am cucina Umbriaidd neu cucina Pugliese ond dim un Eidalaidd.
Mae daearyddiaeth yr Eidal wedi creu 'cucina' sy'n hynod o amrywiol. Mae'r gwahaniaethau dramatig mewn daearyddiaeth; y bryniau tonnog, mynyddoedd serth a gwastadoedd ffrwythlon a'r uno gwleidyddol diweddar o'r Eidal i gyd yn effeithio'r ffordd mae'r Eidalwyr yn bwyta.
Mae'r tirwedd yn dod i'ch plât gyda blasau cryf syml fel cloron (truffles) o'r fforestydd derw a'r gwin Montefalco, ac mae'r pridd coch o lethrau'r Apennine gydag enw da am gynhyrchu olew olewydd gorau'r Eidal. Ceir caws Pecorino gwych o Valnerina, ffacbys (lentils) o Castelluccio a salami a chigoedd cartref o'r moch o amgylch Norcia. Mae'r llysiau o safon uchel ac mae'r Eidalwyr yn gwerthfawrogi blasau naturiol. Mae sawsiau hefyd yn rhan hanfodol o rysetiau'r Eidal.
Mae 'cucina ' traddodiadol Eidalaidd yn rhywbeth rhanbarthol a dyw ddim yn dilyn patrwm caeth o'r De-Gogledd. I ran fwyaf o ogleddwyr a deheuwyr mae 'cucina ' Eidalaidd yn cael ei wahaniaethu yn bennaf gyda'r gogledd yn defnyddio mwy o fenyn a hufen a'r de yn fwy o domatos ac olew olewydd.
Gogledd ar gogledd ddwyrain - tueddu i ffafrio mwy o fenyn, hufen, polenta, mascarpone, 'grana padano' a chawsiau parmigiano, risotto, lasagna, a phasta wy ffres. Ardaloedd - Venice, Milan, talaith Piedmont a Lombardi. Coginio cadarn, helaeth a blasus, ac yn adlewyrchiad uniongyrchol o ansawdd y cynnyrch. Mae'r prydau yn fawr oherwydd digonedd o gig oen, cig lloi a gêm. Madarch gwyllt a chloron (truffles) gwyn yn cael eu defnyddio o ardaloedd cyfagos. Prydau yn cynnwys 'cosolette alla Milanese' neu 'osso buco'. Prif gynhwysion yr ardal polenta a risotto.
Ardaloedd arfordirol y gogledd ar rhanbarthau canolig - yn rhyw fath o bontio'r de ar gogledd ac yn aml yn defnyddio tortellini, ravioli ac yn enwog am eu prosciutto. Llawer iawn ysgafnach nâr prydau o'r gogledd gyda llai o gig a mwy o lysiau a chaws ffres fel ricotta. Mae Twsgani yn ardal enwog ynghanol yr Eidal ac yn cael ei barchu a'i gydnabod fel calon coginio'r Eidal. Yn wahanol i'r gogledd mae bwyd yr ardal yn ysgafnach ac yn nodweddiadol o wir fwyd Eidalaidd.
Rhanbarthau deheuol - yn draddodiadol yn defnyddio mozzarella, caciocavallo a chawsiau pecorino, olew olewydd a phasta sych a thomatos. Ardaloedd - Sicili, Abruzzi, Molise, Campinia, Basilicata a Calibria. Gyda steil unigryw ei hunain ac yn wahanol i'r gred, tydi nhw ddim yn defnyddio past tomato, garlleg na oregano yn ormodol. Mae'r bwyd yn gydbwysedd ysgafn o flasau sy'n creu prydau lliwgar a blasus.
Mae'r bwyd Eidalaidd yn medru cael ei allforio ond all y 'cucina' ddim ond cael ei brofi yn yr Eidal ei hun.
Umbria
Yn Umbria mae llawer o bwyslais ar dyfu cynnyrch yn yr ardd, oherwydd hyn mae digonedd o ddewis i gael drwy gydol y flwyddyn. Mae llawer o gogyddion tai bwyta Umbria yn tyfu eu cynnyrch eu hunain ac yn eu defnyddio yn y tai bwyta. Mae'r bwyd a chysylltiad cryf â blasau'r tir, a'r blasau hynny a'r cynhwysion yn amrywio o ardal i ardal. Dyma i chi enghreifftiau o fwydydd Umbriaidd :
- Pasta Umbricelli gyda saws tomato.
- Stringozzi ( neu strangozzi) gyda saws gwydd neu gydag asbaragws gwyllt.
- Tagliatelle cartref.
- Imbrecciata sef cawl ffa a grawn.
- Risotto gydag asbaragws.
Mae'r cigoedd yn dod yn gyfan gwbl o anifeiliaid wedi magu'n lleol a cheir hefyd rysetiau yn cynnwys colomennod, baedd gwyllt, gwydd a chwyiaid. Fel arfer cael eu barbiciwio mae'r cigoedd a'u blasu â pherlysiau a sbeisys. Mae bîff Umbria yn enwog iawn - y bîff o'r gwartheg chianina. Mae'r brîd Chianina wedi eu magu yn Umbria ers mwy na 2 filenia, mae'n gig arbennig ac yn isel mewn braster. Ond y gwir frenin yw'r porc. Defnyddir bron iawn pob rhan o'r porc ar pryd enwocaf o'r ardal yw porchetta. Ceir pysgod hefyd fel prif gwrs o lyn Trasimeno.
Y cynnyrch dosbarth cyntaf yn yr ardal gyfoethog yma yw gwin, olew olewydd gwyryf pur, dwr mwynol, cloron (truffle), madarch , asbaragws, cnau castan, pysgod, cig, cynnyrch porc, caws, pasta traddodiadol a bwydydd organig.
Y fwydlen Eidalaidd
- L'antipasto / Antipasti - yn golygu cyn y pryd. Gallu bod yn boeth neu'n oer. Enghreifftiau o fwydydd - Mozzarella in carozza. Bruschetta, a crostini.
- Ill Primo / Primi - ail ran o'r bwyd ond yn cael ei ystyried fel y cwrs cyntaf, cynnwys pryd pasta ysgafn, cawl, minestrone, risotto.
- Ill secondo / Secondi - yr ail gwrs, y prif gwrs cynnwys cig, dofednod , gêm a physgod
- Oll Contorno / Contori - Y pryd ochr yn cael ei fwyta gyda'r prif gwrs fel arfer, cynnwys llysiau, wylys (aubergine), sbigoglys, salad cymysg
- Dolce - y pwdin - cynnwys ffrwythau, tiramisu, torta della nonna ( pei bara byr gyda cwstard) a zabaglione.
- Caffe - Coffi - Rhai llaethog fel cappuccino a caffe latte yn cael eu hyfed i frecwast yn unig.
- Espresso - Coffi Eidalaidd - coffi cryf. Un peth i chi gofio mai espresso ydi'r term cywir nid express0 - trên cyflym di hwnnw!
- Macchiato - espresso gyd ychydig bach o lefrith wedi stemio neu ewyn llefrith.
- Ristretto - espresso gyda llai o ddŵr
- Latte - espresso gyda llefrith wedi stemio
- Cappuccino - espresso gyda llefrith ewynnog wedi stemio
- Digestivo - gwirod - grappa, amaro, limoncello
Colazione - Brecwast
Yn ysgafn iawn, fel arfer paned o goffi - cappuccino neu caffe latte neu espresso a brioche (crwst melys)
Pranzo - Cinio
Fel arfer pryd bwyd sydd yn cynnwys antipasti (cychwynnydd) sydd yn cynnwys bwyd y môr, cig moch, amrywiaeth o salami, llysiau, olifau a phate ; primo piatto (pasta, reis, cawl neu pizza) secondo piatto (cig neu bysgod) gyda contorno (llysiau neu salad) a frutta (frwythau ffres). Gorffen gyda espresso a falle grappa neu amaro (gwirod).
Cena - Te
Yn debyg i ginio ond yn bryd ysgafnach heb basta. Mae pizza a chwrw yn boblogaidd ac wyau a physgod.