Neidio at y cynnwys

S4C

Villa Pambuffetti

tabarrini

Bu'r cystadleuwyr yn aros yma yn ystod eu cyfnod yn yr Eidal. Mae'n westy anhygoel a hyfryd a doedd dim byd yn drafferth i Alessandra, ei gŵr Mauro a'r staff.

Adeiladwyd yn 1800 yn gartref i'r teulu bonheddig, ac mae gan Villa Pambuffetti hanes difyr sy'n cynnwys un am Gabriele D'Annunzio, a ysgrifennodd am harddwch Umbria tra'n aros yn y villa. Agorodd y gwesty i'r cyhoedd yn 1992 ac mae'n werth dod draw i brofi'r gerddi taclus a'r pwll nofio godidog yn y cefn. Mae merch Mrs. Pambuffetti, Alessandra a'i gŵr Mauro yn gyfrifol am y bwyd arbennig a geir yn y gwesty ac mae'n bosib i bobl sy'n aros brofi'r 'cuisine' Umbraidd yma gyda gwersi coginio gan Alessandra. Mae'r dref ganoloesol Montefalco o fewn tafliad carreg o'r gwesty. Mae'n leoliad hyfryd, tawel a llonydd lle gewch chi fwynhau'r gofal a'r sylw twymgalon y teulu.

Am fwy o fanylion ewch i'r wefan: www.villapambuffetti.com


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales