Cystadleuwyr Chez Dudley 2006
Roedd Chez Dudley yn llwyddiant mawr y llynedd a'r wyth aeth draw i'r Ffrainc i gyd wedi cael profiadau anhygoel, profiadau a fu i roi hyder newydd iddynt a newid bywydau rhai ohonynt yn llwyr.
Owain Morris - Dinbych
Mae Owain yn parhau i goginio ond heb agor ei fwyty eto! Owain oedd yn gyfrifol am baratoi'r cinio Nadolig llynedd a bu iddo goginio i 8 o bobl! Mae o a'i chwaer dros y misoedd nesaf yn mynd i ddechrau cadw moch a chywion ieir i'w bwyta. "Ieir ydi'r prosiect pwysicaf ar y funud" meddai, "da ni'n mynd i gadw ieir i drio cael y mab i ymddiddori mwy mewn bwyd". Yn ogystal â'r prosiect moch a'r ieir mae Owain wedi bod yn darllen cylchgronau a llyfrau y bu i Michael John gynghori iddo ddarllen tra allan yn Ffrainc.
Michael John - Porthmadog
Mae Michael newydd gwblhau lefel 3 mewn arlwyo yng Ngholeg Menai, ac ym mis Medi eleni cychwynnodd yn Le Manoir! Anfonodd ei diwtor yng Ngholeg Menai ei CV i'r gwesty ac ysgol goginio yn Rhydychen ac mae o wedi cael ei dderbyn!
Eleanor Baker - Caerdydd
Mae Eleanor yn gweithio yn San Ffagan bellach ac mai wrth ei bodd yna. Mae hi'n dal i goginio ac ar ôl dod nôl o Ffrainc wedi cael lot mwy o 'dinner parties' a choginio mwy i'r teulu. Eleanor wnaeth y bwyd i'r parti flwyddyn newydd i gyd, ac fe gafodd hi anrheg arbennig Nadolig gan chwaer Sion ( ei chariad ) - sieff 'whites' hefo draig goch a baner Ffrainc â Chez Elinor fel brodwaith arno!
Nerys Kelly - Aberystwyth
Mae llawer o bobl wedi gofyn i Nerys fynd i'w cegin nhw i goginio, fel bwyty Harry's yn Aberystwyth er enghraifft. Mae nifer wedi gofyn iddi fynd i'w cartrefi nhw i baratoi bwyd ar gyfer pen-blwydd ag ati, ond dyw Nerys heb gael y cyfle i fynd eto gan ei bod nawr yn dysgu coginio T.G.A.U am y tro cyntaf eleni!
Aldwyn Jones - Caerfyrddin
Mae Aldwyn wrth ei fodd yn cael pobl yn dod ato mewn archfarchnadoedd yn canmol y rhaglen a dweud fod nhw wedi mwynhau ei wylio. Mae o wedi stopio mynd i'r gwersi coginio ym Mhibwrlwyd ond yn dal i goginio adra a thrio pethau gwahanol. Fe gafodd brofiad gwych yn y Ffair Aeaf yn Builth gydag Anna llyned. Mae o wedi prynu teledu newydd ac yn edrych mlaen i weld Casa Dudley arno eleni!
Nesta Treharne - Pontarddulais
Mae Nesta'n dal i feddwl am yr amseroedd da yn Provence. O ganlyniad i'w phrofiad, mae'n gwneud cwrs coginio yng Ngholeg Piwbrlwyd. Bu hi a Don, ei gwr, draw yn Provence haf diwethaf a chael pryd o fwyd hefo un o feirniaid llynedd, Max Caligary. Profiad bythgofiadwy! Fe wnaeth cyfnod Nesta yn Chez Dudley ymestyn ei gallu a rhoi hyder iddi tra'n coginio.
Anna Brown - Mynnyddygarreg
Wel, mae bywyd Anna wedi newid yn llwyr o ganlyniad i Chez Dudley! Fe ddaeth perchennog Y Fferiers ati a cynnig iddi hi a'i gwr gymryd drosodd y dafarn - a dyma'r ddau yn penderfynu gwneud! Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn ac mae lot o bobl leol yn eu cefnogi. Mae'r Fferiers yn dafarn fach hefo lle i tua 25-30 o bobl i fwyta. Bu Chez Dudley yn hwb mawr i Anna a rhoddodd y profiad gymaint o hyder yn ôl iddi - y peth gorau mae hi wedi ei wneud!
Jan Wilson Jones - Ruthun
Mae bywyd Jan yn brysur iawn ers ennill draw yn Provence. Mae hi'n rhan o elusen 'Continue', elusen sy'n darparu addysg y tu allan i oriau ysgol ac mae nhw wedi gofyn i Jan fod yn gyfrifol am y clybiau coginio.
Mae hi wedi cynnal noson elusennol yng nghastell Rhuthun gan ddangos i'r gynulleidfa sut i baratoi bwydlen. Mae wedi bod am sgwrs a pharatoi pwdin sydyn ar gyfer Santes Dwynwen ar Wedi 7 hefyd.