Alaw Jones
Byw: Porthmadog
Swydd: Cynorthwydd meithrinfa
Mae Alaw yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel hwylio ac mae hi'n gallu siarad iaith arwyddion. Mae hi'n mwynhau coginio yn fawr iawn yn enwedig i bobl eraill. Mae ganddi "ddiddordeb mawr a gallu arbennig i fwyta!" meddai. Yn bennaf mae hi'n mwynhau coginio pwdinau, ond eto yn mwynhau pob math o fwydydd! Ei hoff gogydd ydi Dudley wrth gwrs ac Ainsley Harriott a'i hoff fwyty ydi'r Sgwâr yn Nhremadog. Yr unig alergedd sydd ganddi ydi golchi llestri!!
Hoff rysáit: Tagliatelle Alfredo cyw iár gyda bara garlleg.
Disgrifio ei hun mewn 3 gair: hapus, hwyliog a llwglyd!
Rhaglen 3
Hwyl
Os buaset ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Un o fy ffrindiau gorau sef Helen, sy'n cael ei hadnabod fel 'Helen Brenhines Plant y Dyfodol'! Mae hi mor ddoniol ac yn gwneud i mi chwerthin cyn gymaint mi fasa hi'n gwmni da i gael pryd o fwyd.
Os buaset ti'n cael dy roi ar Ynys Bell ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Unai cinio dydd Sul mam neu unrhyw bryd yn cynnwys pasta. Y rheswm fasa i atgoffa o mam oherwydd ma' hin gogyddes mor dda ac mae pasta yn un o fy hoff fwyd.
Umbria, gwesty a'r ysgol goginio
Mi oeddwn i wedi gwirioni efo'r ardal mi oedd o mor hyfryd ges i lot o hwyl tra yn y gwesty ac mi oedd pawb mor barod i helpu yna. O ran yr ysgol mi fuaswn wrth fy modd yn byw yno, roedd yr adeilad ei hun yn anhygoel a na'i byth anghofio'r olygfa o'r ffrynt.
Profiad
Heblaw'r holl flasu gwin a bwyd, mae'r profiad o fod yn Umbria a chyfarfod pobl sy'n rhannu'r un diddordeb â mi yn amhrisiadwy. Dwi'n sicr wedi magu mwy o hyder a dwi'n canolbwyntio ar beidio bod yn nerfus wrth drio rhywbeth newydd, ac yn sylweddoli os yw rhywbeth ddim yn gweithio dio ddim yn ddiwedd y byd. Mi allai drio eto a dysgu o'm camgymeriadau. Profiad bythgofiadwy.
Cyntaf allan
Siomedig ofnadwy, siomedig iawn ynof i fy hun gan fy mod i mor nerfus, na'th hynny ddim helpu yn y sialens gyntaf, mi oeddwn i'n gwybod y buaswn i wedi gallu gneud lot gwell.
Alaw am...
Aled: Lot mwy hyderus nag oedd o'n ei ddangos - nes i ddysgu lot wrth wylio Aled yn coginio.
Neil: Lot o wybodaeth ganddo am goginio, cystadleuol ofnadwy a digon o hyder yn y gegin.
Kevin: Rhyw fath o dark horse! Mi oedd Kevin mor glyfar yn ei goginio a'i wybodaeth am fwyd ac yn sicr nes i ddysgu lot ganddo ac mae gen i barch mawr tuag ato.
Kelly: Dim digon o hyder yn ei hun! Roedd ei sgiliau coginio hi'n anhygoel. Allai gweld hi'n gwneud swydd Dudley rhyw ddydd! Casa Kelly?
Rolant: Person annwyl, mor ffeind ac yn barod i helpu.
Alwen: Creadigol iawn o be welis i o'i choginio.
Huw: Tawel, annwyl a chogydd da.
Rhaglen 2
Porc Parciau
Porc wedi ei goginio gyda bricyll a madarch mewn brandi a crème fraiche, wedi ei weini gyda stwnsh afal a phannas, a 'stir fry' llysiau gwyrdd tymhorol.
1 golwythen porc
Menyn
Olew olewydd pur
Olew cneuen Ffrenig
Winwnsyn coch
Madarch
Bricyll tun
Garlleg
Finegr balsamic
Stock porc
Siwgr tywyll - muscavadao
Crème fraiche
Brandi (Cognac)
Halen a phupur d
Dull - Y Pork
- Torri'r porc i mewn i ddarnau crwn a'u rhoi i socian yn y brandi a'r sudd bricyll.
- Rhoi ychydig o fenyn mewn padell i doddi gydag olew'r olewydd ac olew cneuen Ffrenig.
- Ffrio'r winwnsyn a madarch yn ysgafn nes eu bod yn feddal ond heb droi'n lliw euraidd.
- Ychwanegu'r cig gan sicrhau eich bod yn cadw'r sudd yr oedd yn socian ynddo.
- Ychwanegu ychydig o halen a phupur.
- Ychwanegu ychydig o finegr balsamic i'r badell ac yna ychwanegu'r stoc porc. Troi'r porc.
- Ychwanegu llond llwy de o'r siwgr a'i gymysgu i mewn i'r badell.
- Ychwanegu'r bricyll, garlleg a gweddill y sudd sydd wedi ei gadw. Troi'r porc eto.
- Wedi i'r porc goginio trwyddo a'i fod yn eithaf brau, ychwanegu'r crême fraiche, llwyed ar y tro, tan fod y saws o amgylch y porc yn eithaf trwchus ond eto ddim rhy drwchus.
2 dysen maint canolig
1 panasen
½ afal
1 llwy de o fél
1 melynwy ŵy
Dull - Y Stwnsh
- Berwi'r tatws, panasen a'r afal ar wahân - mae hyn yn bwysig.
- Wedi iddynt goginio, eu stwnshio gyda'i gilydd ac ychwanegu'r melynwy ŵy a'r mêl.
- Hidlo'r stwnsh tan fod y cyfan yn llyfn.
Courgettes
Mange tout
Ffa gwyrdd
Asbaragws
Brocoli
Olew cneuen Ffrenig
Dull - Stir-fry llysiau
- Rhoi'r olew mewn woc i gynhesu.
- Torri'r llysiau i ddarnau sy'n hawdd eu bwyta, a'u hychwanegu at yr olew.
- Eu ffrio tan eu bod wedi coginio ond ddim yn feddal.
Mynd i'r Eidal!
"Ges i ffasiwn sioc achos doeddwn i ddim yn meddwl y fyswn i'n mynd drwadd ond ar ôl dod dros y sioc yr unig beth oeddwn in gallu meddwl am oedd siopa a cael dillad a sgidau newydd i fynd ir Eidal"
Rhaglen 1
Pwdin siocled melfedaidd gyda thriog ffrwythau, sorbet a bisgedi brau
Barn Y Beirniaid
Blas - Sorbet arbennig a saws gwych
Edrychiad - lliwgar