Neidio at y cynnwys

S4C

Aled Davies

*

Byw: Nant Peris

Swydd: Rheolwr bar

Mae Aled wrth ei fodd yn dringo a cherdded mynyddoedd, nofio a choginio, ac wrth i fodd yn y gegin. Ei freuddwyd yw agor ty bwyta ei hun. Mae'n chwarae gitâr ond dyw e ddim yn canu!! Mae'n mwynhau paratoi prydau gyda bwyd y môr, bwyd thai a chinio rhost dydd Sul. Ei hoff gogydd ydi Huw Fearnly Whitenstall a'i hoff fwyty ydi'r Faenol Arms, Nant Peris.

Hoff rysáit: unrhyw beth gyda bwyd y môr fel cregyn gleision mewn saws hufen a gwin gwyn

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: ffit, hapus a hyderus

Rhaglen 5

Y profiad

Profiad da oedd gweld Mama yn gwneud ei phasta ei hun a'r chef Marco yn coginio'r golomen. Mae'r holl brofiad wedi rhoi llawer iawn mwy o hyder a sgiliau fedrai ddefnyddio yn rhywle. Wir yn brofiad fythgofiadwy!

Rhaglen 3

Hwyl

Os buaset ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Kathernie Jenkins am ddau reswm...!!!!

Os buaset ti'n cael dy roi ar Ynys Bell ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Sirloin stêc ar wely o basta cartref.

Umbria, gwesty a'r ysgol goginio

Fy argraff i o'r gwesty oedd un o bobl dda i gyd yn gweithio yno a hefyd a Mauro oedd yn gwneud ni gyd teimlo'n hapus. Roedd yr ysgol goginio yn dda iawn. Roedd pawb yn gweld fod yna llawer o oriau gwaith wedi mynd i mewn i'r sefydliad, roedd yr offer coginio i gyd ar gael yn hawdd a'r cynhwysion mor ffres hefyd.Wel roedd yr ardal yn fythgofiadwy, hardd ac wedi gwneud i mi feddwl a byw yno!

Sialens orau

Y sialens orau i mi oedd yr un cyntaf achos dwi'n dda yn coginio hefo beth sydd gen i wrth law.

Aled am...

Neil: Dyn hyderus iawn, siarad ei feddwl ac yn gogydd da iawn.

Huw: Roeddwn i'n hoff iawn o Huw geni llawer o barch iddo bechod naethom ni nabod o yn iawn yn yr Eidal

Kevin: Dyn hyderus ond yn cymryd pethau yn ddifrifol iawn

Kelly: Merch hyfryd iawn a chogyddes dda iawn

Rolant: Roedd Rolant yn ffrind da iawn cogydd arbennig ac roeddwn ni yn gwneud yn grêt gyda fo.

Alwen: Merch ffeind ofnadwy a gesi lot o sbort hefo hi cogydd da o be oni'n clwad.

Alaw: Merch emosiynol iawn ac roeddwn i'n teimlo ei bod hi wir eisiau ennill ond doedd hi methu ymdopi â phwysau'r gystadleuaeth.

Rhaglen 2
Porc gyda llysiau'r tymor a thatws melys.

Y rysáit
2lb lwyn porc
Halen y môr
1 winwnsyn cochv
1 afal melys
1 bresych coch
1g o fenyn lleol
7 asparagus
50ml port
4 darn o pancetta
350ml seidr o Normandy
Hadau cwmin
2 gewyn o garlleg
Pupur du
Oregano
2 dysen felys - tynnwch y croen a'u torri'n giwbiau bach

Dull:

  1. Rhoi'r pupur du, cwmin, oregano a'r halen mewn pestl a mortar a'i falu yn fân.
  2. Rhwbio'r porc gyda'r gymysgedd a'i roi i un ochr.
  3. Rhoi'r tatws mewn dŵ r berw a'u coginio tan eu bod yn feddal.
  4. Ar yr un pryd, sleisio'r winwnsyn a'r bresych a gratio'r afal. Rhoi'r cyfan mewn woc gyda 1g o'r menyn a'r seidr a'i goginio tan fod y winwnsyn yn feddal a'r bresych yn "al dente".
  5. Rowlio'r porc mewn olew olewydd a'i ffrio'r am 3 munud pob ochr tan iddo droi'n lliw euraidd cyn ei rhoi yn y popty ar wres canolig am 5 i 6 munud.
  6. Rhowch yr asbaragws mewn dŵ r berw am 5 munud, yna eu tynnu a'i lapio yn y pancetta.
  7. Stwnshio'r tatws ac ychwanegu'r garlleg. Ei roi ar ganol plât a gwneud yr un peth gyda'r gymysgedd winwnsyn a bresych, gan adael y sudd ar ôl. Ychwanegu'r port i'r sudd.
  8. Tynnu'r porc o'r popty a'i dorri'n sleisys trwchus, a'i osod ar ben y tatws. Dylai'r sudd port fod wedi tewhau erbyn hyn, yna'i arllwys dros ben y porc cyn ei weini.

Mynd i'r Eidal!

"Pan ddywedodd Dudley oni trwadd oni just yn hollol shocked oni'n meddwl fod pawb arall wedi gwneud prydau arbennig o dda a doeddwn ni ddim efo siawns"

Rhaglen 1
Cregyn gleision gyda garlleg a phersli

Barn Y Beirniaid

Blas - da ac ysgafn, y cregyn gleision wedi coginio yn berffaith
Edrychiad - lliwgar


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales