Neidio at y cynnwys

S4C

Alwen Carys McConochie

*

Byw: Llanbedr Pont Steffan

Swydd: Nyrs Macmillan

Nyrs Macmillan ydi Alwen ac mai'n briod â Huw ac mae ganddyn nhw ddau o blant bach. Mae Alwen wrth ei bodd yn gwneud cardiau, mynd i gerdded hefo'r teulu, mynd allan gyda ffrindiau a blasu bwydydd a gwinoedd gwahanol. Mae'n mwynhau arbrofi gyda rysetiau newydd ar gyfer ei theulu a'i ffrindiau a choginio pob math o fwyd - traddodiadol, Siapaneaidd a pasta. Ei hoff gogyddion ydi Nigella Lawson a Jamie Oliver. Ei hunig alergedd ydi golchi llestri!! Ei moto ydi gweithio'n galed a joio!

Hoff rysáit: Tiramisu

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Mentrus, creadigol a bywiog

Rhaglen 7

Sialens orau

Y sialens orau oedd yr un olaf yn amlwg gan fy mod i wedi ennill ond hefyd cael y cyfle i weini pryd tri chwrs. Pe bawn i'n gorfod ei wneud eto, baswn i'n gwella'r prif gwrs ond hefyd gwneud yn siwr fod yr hufen iâ yn barod ac nid fel llyn o hufen ar y plât!

Y profiad

Profiad mwyaf sydd yn aros yn y cof yw'r diwedd pan oedd Dudley wedi cyhoeddi mae fi oedd yn fuddugol, ond teimlad braf, eisiau credu ond 'not registered immediately'! O'r dechrau mae'r profiad wedi bod yn 'fantastic' a dwi wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae coginio a gweini bywyd i bobl sy'n arbenigo yn y maes, yn deimlad grêt. Mae'r profiad hefyd wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi yn y gegin i arbrofi efo bwydydd gwahanol yn enwedig bwydydd o'r Eidal, Pe bai chi eisiau dod am swper byddai'n siwr o weini rhyw beth heblaw y wedi'i ferwi nawr ar ôl y profiad!

Mae'n anodd credu nawr o hyd mae fi sydd wedi ennill. O'r dechrau oedden wedi mynd i bob rownd yn edrych ymlaen at y profiad ac yn digon bodlon fy mod wedi gwneud fy nghorau ond byth wedi meddwl ennill. Pan wnes i ennill, wnaeth Dudley weud wrthaf 'Edrycha fel bo ti wedi ennill rhywbyth ti moen!' ond oedden i'n teimlo sioc, a methu coelio'r peth! Profiad bythgofiadwy!!

Rhaglen 5

Fe gafodd Alwen a Kelly bnawn blasus yng nghanol siocled ym mhell o brysurdeb y gegin!

Rhaglen 3

Hwyl

Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Nelson Mandela - Rwyf wedi dewis Nelson Mandela am fy mod yn ei edmygu yn fawr. Credaf fod y gwaith mae e wedi gwneud dros ei bobl ar hyd y blynyddoedd yn ofnadwy o bwysig. Er ei fod e wedi dioddef yn y carchar oedd ên medri maddau. Credaf y bydder noson yn un diddorol yn clywed ei hanes a straeon ei fywyd.

Os bydda ti'n cael dy roi ar Ynys Bell ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Pasta Mamma Maria.

Umbria, gwesty a'r ysgol goginio

Argraff arbennig am y profiad i gyd. Gwesty moethus, lle neis i ymlacio gyda ffrindiau a phawb yno yn gyfeillgar. Ysgol goginio mewn lleoliad bendigedig, golygfa wych a chegin neis ond fasa wedi bod yn neis cael ychydig bach mwy o le i goginio. Umbria yn ardal brydferth iawn 'Calon gwyrdd yr Eidal'. Rwy'n bendant eisiau mynd a'r teulu yn nôl yno.

Alwen am...

Neil: Person oedd yn gwybod llawer am bopeth a wastad yn rhannu ei wybodaeth, diddorol fod yn ei gwmni yn cadw balans o fewn y cystadleuwyr.

Huw: Cymeriad tawel ar y dechrau person neis cyfeillgar. Erbyn dod i nabod Huw cafon lot o hwyl ar cymeriad tawel.

Kevin: Lle i ddechrau?! Cafon lot o sbort yn ei gwmni, Wastad yn hapus yn barod i rannu jôc a drygioni.

Kelly: Merch neis a chyfeillgar iawn, dangos lot o dalent ac yn frwdfrydig iawn yn y gegin. Teimlais yn ifancach yn ei chwmni ac wedi cael ambell tips fasiwn!

Rolant: Person cyfeillgar, Wastad yn meddwl am bobl eraill , hoffi arbrofi yn y gegin, pleser oedd bod yn ei gwmni.

Aled: Young, free and single. Bachgen grêt llond bywyd a hwyl. Mwynhau cael y cyfle i ddod i nabod e.

Alaw: Merch grêt, mwynhau bywyd, cyfeillgar a hawdd siarad efo hi.

Rhaglen 2
Llwyn o borc wedi ei lapio â sbigoglys a proscuitto ac yn cael ei weini â rholiau wylys a thatws rhosmari.

Y rysáit
300g canol lwyn (tenderloin) porc
150g sbigoglys
1 gewyn garlleg - wedi malu'n fân
1 llwy fwrdd cnau pîn
1 llwy fwrdd o groen lemwn wedi gratio'n fân
½ sudd lemwn
1 llwy fwrdd olew olewydd
3 sleisen o ham Parma ( proscuitto)
50ml gwin gwyn
1 llwy fwrdd mêl clir
60ml hufen dwbl
1 llwy de siwgr

Dull - Pork

  1. Troi'r ffwrn ymlaen i wres 220 gradd C
  2. Golchi'r sbigoglys yn dda a chynhesu padell ffrio dros wres uchel. Pan yn boeth ychwanegu'r sbigoglys ai goginio hyd ei fod yn gwywo. Ei roi mewn colandr a gwasgu'r hylif ohono.
  3. tostio'r cnau pîn yn sydyn yn y badell boeth
  4. Rhoi'r olew olewydd mewn sosban ac ychwanegu'r garlleg ai goginio hyd ei fod yn troi'n lliw euraidd. Ychwanegu'r sbigoglys ar cnau pîn.
  5. Tynnu'r croen ar braster o'r llwyn porc
  6. Rhoi'r sleisys ham Parma ar fwrdd fel eu bod yn gorgyffwrdd eu gilydd.
  7. Gorchuddio'r ham gyda'r gymysgedd spigoglys
  8. Rhoi llwyn porc yn y canol a'i lapio gyda'r ham a'i glymu'n ofalus gyda llinyn.
  9. Rhoi yn y popty am oddeutu 15 munud yna gostwng y gwres i 190C a'i rostio am 35 munud pellach.
  10. Cymysgu'r mêl, sudd lemon a gwin gwyn ai arllwys dros y porc 10 munud cyn ei fod yn barod.
  11. Tynnu'r porc o'r popty ai adael i orffwys.
  12. Rhoi'r sudd a braster y porc o'r tun rhostio mewn sosban ai gynhesu a'i adael i leihau am 2/3 munud.
  13. Ychwanegu 60ml o hufen dwbl a'r siwgr a'i gynhesu. Ychwanegwch bupur a halen fel bo'r galw.
  14. Gweini'r saws dros y cig wedi ei sleisio.

Dull - Rholiau wylys (digon i 3 person )

Y rysáit
1 Wylys (wedi ei dorri ar eu hyd i stribedi 4.5mm o drwch - gwaredwch bob pen y wylys. Bydd angen 3 darn o wylys i bob person)
Olew olewydd gwyryf pur (ar gyfer brwsio ac ysgeintio)
1 moronen fach (wedi ei dorri'n ffyn)
½ pupur coch (wedi gwaredu'r hadau ac wedi sleisio)
6 asbaragws (wedi gwaredu'r pennau)
  1. Sesno a brwsio'r wylys gyda'r olew a'u gadael am 5 munud. Yna eu coginio ar ridyll poeth am 1-2 munud pob ochr.
  2. Gwynnu'r llysiau eraill mewn dŵr poeth un ar y tro, moron am 3 munud, pupur am 2 funud a'r asbaragws am 1 munud. Mae nhw angen bod yn dynner ond ddim yn llipa. Eu rhoi mewn dŵr ia ac yna eu sychu â phapur cegin.
  3. Cynhesu'r ffwrn i 180 gradd C. Gosod rhai o'r llysiau ar ben pob haenen wylys. Rholio'r wylys a'u rhoi ar ddysgl addas i'r popty. Ysgeintio gydag olew olewydd a'u pobi am 6 munud neu hyd nes yn boeth.
Y rysáit
100g tatws desseree / Pentland Crown / King Edward ( wedi torri'n giwbiau bach)
Halen môr a phupur grawn ffres.
1 ciwb bach o fenyn halen
1 llwy fwrdd olew olewydd
½ llwy de rhosmari ffres (wedi falu'n fân)

Dull - Tatws rhost rhosmari.

  1. Cynhesu'r ffwrn i 200 gradd C
  2. Rhoi'r tatws mewn sosban fawr gyda dŵr ai ddod i'r brew ychwnegu ychydig o halen a'u berwi am ryw ddau funud yna eu draenio
  3. Cyfuno'r menyn, olew olewydd ar rhosmari mewn sosban fawr digon mawr i gael un haenen o'r tatws ar y gwaelod. Rhoi'r gwres ar canolig
  4. Wedi i'r menyn doddi ychwanegu'r tatws a'u 'sauté' gan eu troi'n rheoliad hyd eu bod yn troi'n lliw euraidd. Sesno â halen a phupur i'w blasu.
  5. Eu rhoi mewn dysgl addas i'r popty a'u coginio yn y popty am 30-40 munud gan eu troi bob hyn a hyn a'u gweini pan fydda nhw'n greisionllyd ar y tu allan a hufennog ar y tu mewn

Mynd i'r Eidal!

"Pan dwedodd Dudley fy mod wedi cael ei dewis i fynd i'r Eidal oedden yn methu credu ac yn teimlo'n falch iawn."

Rhaglen 1
Triawd o bwdin yn cynnwys sorbet mafon, crème brulee a gellygen fach di botsio

Barn Y Beirniaid

Blas - da iawn
Edrychiad - arbennig o dda, yn amlwg yn ferch greadigol a hyn yn dangos ar y plât.


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales