Neidio at y cynnwys

S4C

Dylan Wyn Owens

*

Byw: Porthmadog

Swydd: Myfyriwr arlwyo

Mae Dylan wrth ei fodd yn chwarae rygbi, pêl droed, 'kick boxing', coginio ac arbrofi yn y gegin a chreu rysetiau newydd a chyffrous. Mae paratoi bwyd hefo cynnyrch ffres yn bwysig iawn iddo. Ei hoff gogydd ydi Raymond Blanc a gwesty'r Grovenor yng Nghaer yw ei hoff fwyty.

Hoff rysáit: Hwyaden mewn saws oren.

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: cydwybodol, dibynadwy a talentog.

Rhaglen 2
Tŵr o Borc

Y rysáit
Porc
100g o borc
50g pwdin du
20g afalau bwyta ffres
5g siwgr man
100g salami
1 can o seidr
Blawd
ŵy
Briwsion brioche


Saws
100 ml calvados
50ml hufen sengl
10g menyn
200ml jus


Llysiau
Moron a chennin ifanc

Dull

  1. Sleisio'r porc yn denau, a'u gorchuddio gyda'r seidr
  2. Sleisio'r salami yn denau, a'r pwdin du a rhowch dwll yng nghanol y pwdin du,
  3. Plicio'r afal a'i dorri yn fân, rhoi mewn sosban ac ychwanegu dwr a siwgr caster a'i goginio tan ei fod yn feddal
  4. Rhoi darn o borc ar y gwaelod yna salami a'r pwdin du ar ei ben a llenwi twll y pwdin du gyda'r saws afal. Ail adrodd hyn gan greu tŵr bychan.
  5. Rholio'r tŵr mewn blawd ac yna mewn ŵy wedi ei chwipio, ac yna mewn briwsion brioche
  6. Rhoi yn y popty am 20 munud ar 187C
  7. Coginio'r moron ar cennin tan eu bod yn 'al dente' a'u gorchuddio mewn menyn cyn eu gweini
  8. Y saws - rhoi'r calvados mewn sosban ac ychwanegu'r jus ac ar y funud olaf ychwanegu'r hufen a'r menyn. Gweini'r cyfan yn boeth.

Rhaglen 1
Mousse siocled gyda jeli ffrwyth pasiwn â hufen ia fanila

Barn Y Beirniaid

Blas - Blasus a blasau'n cyfuno'n dda
Edrychiad - creadigol


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales