Neidio at y cynnwys

S4C

Gethin

*

Dyddiad Geni: 30.06.1976

Cyfeiriad: yn wreiddiol o Ynys Môn ond bellach yn byw yn Valencìa

Swydd: athro a chyfansoddwr

Disgrifio ei hun: anrhagweladwy, tal, chwit-chwat

Gwybodaeth Ychwanegol: mae Gethin yn gyn-aelod o'r band Gwacamole ond mae e bellach yn athro Saesneg mewn ysgol ger Valencìa, ble mae'n byw gyda'i wraig Ceri. Fe fydd dros y misoedd nesa'n symud i Barcelona i ddysgu, cyn symud yn ôl i Gaerdydd. Mae'n parhau i gyfansoddi ac yn ei amser sbâr yn hoffi chwarae ei gitâr a'i biano, coginio a thynnu lluniau. Ei hoff rysáit ydi Moules Marinières a'i hoff gogydd ydi Rick Stein. Yn naturiol felly, ei hoff fwyty ydi'r 'Seafood Restaurant' Rick Stein yn Padstow. Er ei fod yn hoff iawn o goginio, nid yw'n hyderus iawn y bydd yn ennill Casa Dudley.

Ffarwelio
Gethin ar y profiad

On i'n disgwyl bod y cyntaf allan a bod yn onest, gan fy mod yn limited fel cogydd. O'r dechrau oeddwn i'n gwybod fy mod allan o fy nyfnder.

Y profiad gorau i mi oedd cael mynd i'r bar tapas lleol Tragatapas, y tapas gora i mi flasu! O ran y profiad i gyd mae gen i archif o straeon ar gyfer nosweithiau lu a dwi wedi cael cadarnhad fy mod yn gallu coginio ond dwi ddim yn athrylith a dwi'n hapus efo huna a hefyd y ffyn brwyniaid wnaeth Llinos i ni yn rownd un.

Profiad hael ac addysgiadol.

Gethin yn sôn am y gweddill

Hefina rhaw di rhaw. "Dwi ddim yn cîn ar y croquettas yma ... debyg iawn i chwd gwylan" ... genius!

Aneira penderfynol ... gwrandawraig dda.

Daniel boi talentog yn ôl rhai, dwi heb weld y dystiolaeth o hyn eto ... ha ha! Da ni'n ffrindiau mawr erbyn hyn.

Llŷr i feddwl bod o mor ifanc, mae ganddo wybodaeth fantastic am goginio. Boi clên iawn.

Huw legend.

Sion erioed wedi dod ar draws boi mor focused yn fy mywyd. Cawr o foi.

Wendy ma' hi fel tywysoges o amgylch y gegin. Arbennig o gogyddes.

Rhaglen 3
Cwestiynau hwyl

Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd o fwyd hefo nhw, pwy fydda fo/hi a pham?

Walter Glyn Davies, fy hen athro piano, a life guru. 'Legend' o foi. Mae o'n haeddu medal neu OBE neu rwbath. Mae pawb angen person fela yn eu bywydau ar ryw adeg

Os bydda ti'n cael dy roi ar ynys bellennig a dim ond yn cael mynd ac un pryd bwyd hefo chdi, beth fysa fo a pam?

Pizza.

Argraffiadau cyntaf

Be oedd yn mynd trwy dy feddwl pan ddwedodd Dudley dy fod yn mynd i Sbaen?

Dau beth - Lle ma'n mhasbort i a well mi ddechrau practisho coginio!!

Beth oedd dy argraffiadau o'r gwesty, ysgol goginio a'r ardal?

Pan welais i'r ysgol goginio dyma oedd fy meddylia ... "sut ma' hwna'n gweithio?" ... "be ddiawl ma' hwna'n neud?"

Nefoedd o le. Er na ches i aros fawr yno! Faswn i wedi bod wrth fy modd yn reidio moped drwy'r dydd yn stopio yn y gwahanol fariau tapas a.y.y.b.

Rhaglen 2
Sarsuela

1 llwy fwrdd olew olewydd
1 kg gweddillion pysgod ffres (nid pysgod seimllyd),pen, cynffon ac esgyrn gydag ychydig o gig.
2 nionyn, wedi eu torri'n fras
1 kg tomatos, wedi eu torri'n fras
1 coes helogan, wedi ei dorri'n fras
4 moronen, wedi eu torri'n fras
1 bwlb garlleg, wedi ei dorri'n hanner
2 llwy fwrdd piwrî tomato
300ml sieri Manzanilla
200ml Pernod
Pinsiad o saffrwm
3 litr o ddŵr
Olew olewydd
6 corgimwch mawr amrwd, wedi eu trin
6 langwstîn mawr amrwd
6 ffiled hyrddyn coch
300g llyffant môr, wedi ei dorri'n 6-8 darn
250g ystifflog, wedi ei dorri'n gylchoedd 1cm
30g o gregyn gleision ffres, wedi eu glanhau
2 nionyn, wedi eu torri'n fân
2 fwlb ffenigl wedi eu torri'n fân
Sudd lemwn, at flas
Bwnsiad o bersli, wedi ei dorri.

Paratoi'r sylfaen:

  1. Cynhesu'r olew olewydd mewn powlen caserol drom a brownio gweddillion y pysgod am funud neu ddau. Rhoi'r nionod, tomatos, helogan a'r garlleg yn y bowlen a'i goginio dros wres cymedrol am 20 munud. Ychwanegu'r piwrî tomato a'i goginio am 10 munud yn rhagor.
  2. Ychwanegu'r sieri a'r Pernod â dod a'r gymysgedd i'r berw.
  3. Ychwanegu'r saffrwm a'r dŵr â dod a'r gymysgedd i'r berw unwaith yn rhagor.
  4. Gostwng y tymheredd a mud- ferwi'r cyfan am oddeutu 45 munud.
  5. Hidlo'r gymysgedd ddwywaith, gan waredu gweddillion y pysgod a'r llysiau sy'n yr hidlwr ond yn cadw'r hylif ar gyfer y Sarsuela.

Paratoi'r Sarsuela:

  1. Yn y cyfamser, llenwi powlen caserol fawr gyda thua ½cm o ddyfnder o olew olewydd.
  2. Coginio'r pysgod i gyd, un fesul un am 2 funud pob ochr, gan ychwanegu halen a phupur i'w flasu a rhagor o olew os oes angen. Rhoi'r pysgod i gyd i un ochr.
  3. Ffrio'r nionyn a'r ffenigl yn yr un badell am 5 munud.
  4. Ychwanegu'r cawl/hylif a dod a'r cyfan i'r berw. Gostwng y gwres a'i fud ferwi am 10 munud.
  5. Ychwanegu'r pysgod a'u coginio am 5 munud cyn ychwanegu'r cregyn gleision am y 5 munud olaf.
  6. Ychwanegu halen a phupur a digon o sudd lemwn, at flas. Ysgeintio gyda phersli a'i weini gyda thafelli trwchus o fara ffres.

Y Feirniadaeth

Dudley

Angen ychydig bach mwy o liw ar y langwstîn, ond roedd y blas yn lân a'r pryd yn ysgafn.

Llinos

Braf gweld pryd traddodiadol Sbaenaidd. Roedd y pysgod a'r stoc yn flasus iawn.

Bryn:

Blas hynod o dda ac edrychiad lliwgar.

Marc ar gyfartaledd: 7/10

Rhaglen 1
Garbanzos con Espinacas

Cynhwysion
2 lwy fwrdd olew olewydd
1 nionyn wedi ei dorri'n fân
1 ewyn garlleg wedi ei dorri'n fân
1 tomato wedi ei dorri'n fân, wedi gwaredu ei groen a'i hadau
1½ llwy de pimento (paprika)
½ llwy de powdr cwmin
1/8 llwy de pupur cayenne
3 chlôf
¼ llwy de saffrwm
8 grawn pupur du
600g ffacbys wedi eu socian a'u coginio am 45 munud - cadw' r hylif coginio
280g sbigoglys wedi ei goginio a'i falu
Halen

Dull:

  1. Ffrio'r nionyn yn ysgafn mewn olew olewydd hyd nes ei fod yn feddal.
  2. Ychwanegu'r garlleg, cwmin, pupur Cayenne, paprika, grawn pupur du, saffrwm a'r clofau a'u coginio am funud yn rhagor. Ychwanegu'r tomatos, sbigoglys a'r ffacbys yn eu hylif coginio i'r gymysgedd a'i droi'n dda.
  3. Coginio am 15 munud hyd nes fod y gymysgedd wedi cynhesu trwyddo. Ychwanegu'r halen a cwmin i'w flasu. Gweini gyda darn o fara trwchus.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales