Neidio at y cynnwys

S4C

Huw Gwyn Davies

*

Byw: Nant y Caws, Caerfyrddin

Swydd: Heddwas gyda'r uned hofrennydd yng Nghaerfyrddin.

Mae gan Huw ddiddordeb mawr mewn chwaraeon yn enwedig rygbi, a mae'n mwynhau cadw'n ffit a rhedeg tipyn. Yn ei amser sbâr mae'n hoffi treulio ei amser gyda'r teulu ac ymarfer crefftau adeiladu. Mae o wrth i fodd yn coginio hefo cynnyrch Cymreig a physgod. Ainsley Harriot yw ei hoff gogydd a'r 'Hen Dafarn' yn Llansteffan yw ei hoff fwyty.

Hoff rysáit: Bron o gyw iâr wedi ei stwffio â chennin a leim mewn saws gwin gwyn

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Doniol, deallus a gweithgar.

Rhaglen 3

Hwyl

Os buaset ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Yr actores Julia Roberts oherwydd ei bod yn berson prydferth, doniol efo personoliaeth dyner a gwen i doddi calon unrhyw ddyn

Os buaset ti'n cael dy roi ar Ynys Bell ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Cawl Cymreig gyda bara ffres a twlpyn o gaws Cymraeg. Pryd sy'n llawn daioni ac yn agos i'r galon am ei fod yn atgof o Gymru fach.

Umbria, gwesty a'r ysgol goginio

Roeddwn i'n meddwl fod lleoliad a safon y gwesty yn wych. Roedd y staff i gyd yn gwrtais, y bwyd o safon uchel a'r ystafell yn dderbyniol iawn. Y gwesty yn gyfleus iawn i'r dref leol.

Yn fy marn i, lleolwyd yr ysgol goginio mewn man rhagorol a chartrefol yn enwedig efo'r bobl leol o gwmpas. Er bod digon o le yn y gegin a'r offer o safon da nid oeddwn yn meddwl fod digon o le i weithio ar y byrddau.

Huw am...

Aled: Mae'n mwynhau jôc fach, dangos doniau rhagorol yn y gegin ac i weld ei fod yn mwynhau gweithio gyda bwyd. Ymddygiad da i fywyd, rwyf wedi chwerthin sawl gwaith wrth atgofio am Aled yn torri ei fys yn y sialens tîm - gwaed y mhob man!

Neil: Rhoi'r argraff ei fod hoff o gystadlu ac yn mwynhau sialens yn fawr. Tipyn o 'gonnoiseur' efo'r gwinoedd lleol.

Kevin: Cymeriad mawr a phoblogaidd yn y grŵp. Braint oedd nabod Kevin, llawn sbri ac yn gymdeithasol. Diddordeb mawr mewn bwyd

Kelly: Wastad yn hoffi sbri a bob tro'n hapus ei hagwedd. Am berson ifanc roedd Kelly yn rhoi'r argraff a dangos ei bod hi'n ddawnus yn y gegin roedd e'n fraint cael bod yn ei chwmni

Rolant: Cymeriad hoffus a tawel, ond er hyn roedd Rolant yn barod i weld ochr ddigri ym mhob sefyllfa. Yn anffodus ches i ddim llawer o gyfle i weithio efo fo yn y gegin. Roedd Rolant y rhoir argraff ei fod yn gwybod mwy am fwyd a choginio na ddangosodd ef.

Alwen: Person hoffus arall gyda hiwmor da. Dangosodd Alwen fod ganddi doniau o safon da ac uchel yn y gegin, person heb ffwdan oedd yn mwynhau pob sialens o'i blaen.

Alaw: Dangosodd Alaw ei bod wedi paratoi yn drylwyr iawn am y rhaglen, ac rwy'n meddwl ei bod wedi siomi yn fawr ar gael ei bwrw allan gyntaf. Person addfwyn iawn ei hymddygiad a phersonoliaeth dirion.

Rhaglen 2
Llwyn o borc wedi ei lenwi â: madarch a pherlysiau a'i lapio mewn croen o ham prosciutto

Y rysáit - Porc
Llwyn o borc - tua ½ Kg mewn pwys
5 darn o ham 'prosciutto' neu 10 darn o gig moch (heb y grawen - heb ei ysmygu)
1 winwnsyn maint canol, wedi ei dorri'n fân
Chwarter llwy de o deim
Chwarter llwy de o saets
3 owns madarch wedi eu malu'n fân
3 owns briwsion bara gwyn
4 llwy fwrdd perllys / persli
2 lwy de sudd lemwn
Croen un lemwn wedi ei gratio'n fân
1 wy, wedi ei guro gyda 2 lwy fwrdd o hufen neu ben y llaeth
Hanner afal coginio wedi ei gratio

Dull - Pork

  1. Cynhesu'r ffwrn i farc nwy pedwar / 350F
  2. Gadael y braster ar y cig er mwyn ei gadw'n llaith. Gyda chyllell miniog, torrwch y cig bron yn ei hanner, ar ei hyd a gan ddefnyddio rholbren a curo naill ochor y cig ai gwneud yn fwy gwastad a llydan (dim ond ychydig yn fwy gwastad a llydan sydd angen)
  3. Ychwanegu halen a phupur du newydd ei falu
  4. Llenwad y cig - toddi menyn mewn padell a ffrio'r winwns, teim a saets yn ysgafn am tua deg munud, yna ychwanegu'r madarch a chodi'r gwres ychydig. Coginio'r rhain am dair neu bedair munud arall nes bydd sudd y madarch bron a diflannu, yna arllwys cynnwys y badell i mewn i ddysgl ac ychwanegu gweddill cynhwysion y llenwad. Defnyddio fforc i droi'r gymysgedd a'i gilydd yn ysgafn, rhowch halen a phupur fel bod angen.
  5. Rhoi'r llenwad i mewn i ganol y darn cig, esmwythwch y llenwad i lawr cyn cau'r ddau hanner gyda'i gilydd.
  6. Gwasgaru menyn ar ben y cig, ac ychwanegu pupur du newydd ei falu. Gorchuddio'r cig gyda'r darnau ham 'proscuttio' neu'r cig moch, yna ei glymu gyda darn o linyn bob dwy fodfedd ar hyd y cig, i'w gadw'n daclus cyn ei godi yn ofalus a'i roi mewn padell rhostio.
  7. Pobi'r cig yn rhan ucha'r ffwrn am tua 40 munud. Yna gosod y cig a'r blât yn barod i'w dorri.
  8. Cadw'r cig yn dwym tra bod y saws (sudd y cig) yn cael ei wneud.
Y rysáit - Y saws
Blawd brown
Hanner peint o win gwyn neu seidr sych
Halen a phupur du newydd ei falu

Dull - Y saws

  1. Ar ôl tynnu'r cig o'r tun rhostio, ychwanegu'r gwin gwyn at sudd y cig. Twymo'r saws yn y tun ar wres cymedrol.
  2. Cymysgu'r blawd i mewn i'r sudd i'w dewhau.
  3. Ychwanegu halen a phupur a'i adael i ferwi tan iddo droi'n fwy trwchus.
Y rysáit - Llysiau
5 x darn o asparagus (merllys)
Tua deg o domatos coch bach
Finegr Balsamic
Siwgr Brown

Dull - Llysiau Efo'r pryd

  1. Rhowch yr asbaragws (wedi eu golchi a'u paratoi) mewn sosban o ddŵr poeth wedi halltu a'u berwi am tua pedwar munud yn unig (Gwnewch hyn ar y diwedd pam fydd y cig yn barod)
  2. Golchi'r tomatos o dan ddwr oer glan, yna ei rhoi mewn dysgl sy'n addas ar gyfer y ffwrn a rhoi siwgr brown ar eu pen. Rhoi tua chwarter peint o'r finegr balsamic ar waelod y ddysgl, yna dychwelyd y tomatos i'r ffwrn ar dymheredd cymedrol, a'u coginio nes eu bod yn feddal.
Y rysáit - Tatws
14 owns o datws wedi eu crafu au haneru
Halen mor a phupur du newydd ei falu
Olew' olewydd
Llond dwrn bach o gaws 'Parmesan' wedi ei gratio
Darn bach o fenyn
2-3 llwy fwrdd o olifau gwyrdd wedi eu torri'n fan.

Dull - Tatws wedi eu malu gydag olew olewydd

  1. Gosod y tatws mewn padell fawr o ddwr gydag ychydig o halen.
  2. Berwi'r tatws nes iddynt feddalu yn dyner
  3. Defnyddio colandr i gael gwared o'r dwr. Yna gadael y tatws am bedair munud i adael yr ager fynd, au gwneud yn llai gwlyb
  4. Rhoi'r tatws yn ôl yn y badell i'w malu, yna ychwanegu olew olewydd, caws ŒParmesan', y menyn a'r olifau gwyrdd nes bod y gymysgedd yn hufennog.
  5. Blasu'r tatws. Rhoi halen a phupur fel bod angen, yna rhoi'r tatws mewn dysgl, ei orchuddio â: 'cling film' a'i osod dros badell o ddwr sy'n berwi'n araf, i'w gadw'n dwym.

Gweini

Pan ddywedodd Dudley fy mod yn mynd i'r Eidal yn gyntaf doeddwn i methu credu'r peth. Hyd y pwynt yna dim ond cystadlu fel mater o sbri wnes i. Wedi cael y gwahoddiad i'r Eidal roeddwn yn disgwyl i bethau fod yn fwy cystadleuol a dyna pryd oedd y gwaith wir yn dechrau.

Mynd i'r Eidal!

"When Dudley told me I was going to Italy I could not believe it. Until that moment I was only competing for a bit of fun. After my invitation to Italy I thought things were going to be more competitive and that's when the hard work would really be starting."

Rhaglen 1
Tarten lemwn gyda gellyg wedi bochio gyda crème fraiche.

Barn Y Beirniaid

Blas - Da, tarten siarp gyda digon o flas lemwn cyfuniadau'n gweithio'n dda.
Edrychiad - edrych yn ddeniadol a lliwgar


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales