Neidio at y cynnwys

S4C

Kelly Thomas

*

Byw: Llanbedr pont Steffan

Swydd: Myfyrwraig arlwyo

Mae Kelly wrth ei bodd yn nofio, canu a choginio wrth gwrs! Mae'n hoffi arbrofi gyda bwyd ac yn un sy'n dysgu'n gyflym. Mae'n mwynhau coginio gyda chig yn fawr iawn. Ei hoff gogydd yw'r pishyn John Christoph Noveli a'i hoff fwyty ydi'r Stradey Park Hotel.

Hoff rysáit: Eog gyda saws lemwn a leim ar wely o gennin a sbigoglys.

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Ifanc, brwdfrydig a chariadus.

Rhaglen 7

Y profiad

Does dim un peth yn aros yn fy nghof fwyaf, mae'r holl brofiad wedi bod yn anhygoel er dydw i methu anghofio blasu'r holl siocled yn y ffactori...yummy! Mae'r cyfan wedi bod yn brofiad arbennig, cwrdd â ffrindiau newydd, dysgu llawer o bethau newydd ac wedi dangos i bobl bod gan unrhyw un y gallu i neud unrhyw beth dim ots pa mor ifanc ydyn nhw. Bythgofiadwy!

Rhaglen 5

Fe gafodd Alwen a Kelly bnawn blasus yng nghanol siocled ym mhell o brysurdeb y gegin!

Rhaglen 3

Hwyl

Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Erm...galed iawn...dyn golygus

Os bydda ti'n cael dy roi ar Ynys Bellennig ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Un pryd o fwyd...hhhmmm...rhaid e fod spaghetti bolognaise, dwli arno fe!

Umbria, gwesty a'r ysgol goginio

Roedd y gwesty yn anhygoel yn enwedig fy stafell i, Y Tŵr. Roedd yr ysgol goginio yn anhygoel hefyd.

Sialens waethaf

Fy sialens waethaf oedd y sialens gyntaf, y risotto! Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl a wnes i weld hon yn anodd iawn gan fy mod ddim wedi coginio risotto o'r blaen!

Kelly am...

Aled: Ifanc a doniol.

Neil: Gwybod llawer.

Huw: Edrych yn ddiniwed ac yn dawel ond dyn lyfli ac yn ddoniol - cadw'r ffydd!!

Kevin: Boi ffantastig...hoffi hwyl

Rolant: Cino bens.

Alwen: Alwen yn lot o sbort merch neis iawn.

Alaw: Merch neis iawn.

Rhaglen 2
Porc wedi'i bobi gydag afalau wedi carameleiddio wedi weini ar wely o fresych coch, tatws newydd ac asbaragws wedi rwymo mewn ham Parma.

Y rysáit
1 winwnsyn canolig coch wedi ei dorri'n chwarteri
1 llwy fwrdd olew olewydd
750g llwyn o borc, heb fraster
½ cwpan mwstard Œhoney dijion wholegrain'
½ cwpan sudd afal
80ml stoc llysiau
½ cwpan perllys / persli deilen wastad ffres
60g menyn
4 afal mawr (800g) wedi'u pilio, tynnu calon yr afal a'u sleisio'n denau
2 llwy fwrdd o siwgr brown

Dull

  1. Cynhesu'r popty i wres uchel 240/220c
  2. Cymysgu'r winwns a'r olew mewn dysgl addas ar gyfer y popty. Brwsio'r porc gyda'r mwstard a gosod y winwns yng ngwaelod y ddysgl yna'r porc ar ei ben a gorchuddio'r cyfan am 5 munud.
  3. Ychwanegu'r sudd a'r stoc mewn sospan cyn dod a'r cyfan i'r berw. Gostwng y gwres a'i adael i fudferwi heb gaead am tua 3 munud neu tan fod y saws wedi tewhau. Cymysgu'r persli i'r saws
  4. Toddwch y menyn mewn ffreipan ac ychwanegu'r afalau ar siwgr gan ei droi'n rheoliad am ryw ddeg munud hyd fod wedi carameleiddio. Ei orchuddio ai gadw'n gynnes
  5. Sleisio'r porc yn drwchus a'i weini gyda'r saws winwns ac afal

Mynd i'r Eidal!

"Pan wnaeth Dudley gweud fy mod yn mynd i'r Eidal roeddwn i mewn dipyn o sioc a methu coelio'r peth! Roeddwn i'n meddwl fy mod yn breuddwydio!˛"

Rhaglen 1
Terrine llysiau ar wely o letys a bara

Barn Y Beirniaid

Blas - Arbennig o dda ac yn ysgafn
Edrychiad - lliwgar iawn ar y plât


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales