Kevin Lane
Byw: Garndolbenmaen
Swydd: Saer Coed
Mae ddiddordebau Kevin yn cynnwys gwylio rygbi, diddordeb a ddechreuodd ar ôl iddo chwarae tipyn o'r gêm ers talwm. Mae'n hoff o deithio a blasu bwydydd gwahanol ac yn mwynhau cerdded hefo'r teulu i gadw'n heini. Mae'n cadw moch ac yn cynhyrchu ei ham a'i selsig ei hun.
Hoff rysáit: Caldine Gorgimychiaid gan Rick Stein.
Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Uchelgeisiol, bywiog a hapus.
Rhaglen 7
Sialens orau
Sialens orau - y ffeinal, wedi mwynhau cael digon o amser i baratoi ac hefyd cael paratoi 3 chwrs ar yr un pryd.
Y profiad
Dwi'n falch o gyrraedd yr Eidal heb son and y ffeinal! Mae wedi bod yn brofiad cyffrous iawn ond yn siomedig hefyd. Nes i fwynhau'r profiad o weithio mewn cegin broffesiynol yn Llandrillo, gwneud criw newydd o ffrindiau a dwi'n llawer iawn mwy hyderus gyda fy nghoginio. Dwi'n falch colli i rywun oedd yn haeddu ennill, dwi ddim yn teimlo fy mod i wedi colli. Profiad anhygoel a rhywbeth na anghofiai fyth.
Rhaglen 6
Rhaglen 5
Sialens waethaf
Y sialens pasta - cael ein beirniadu gan Mama!
Rhaglen 3
Hwyl
Os buaset ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Y wraig!
Os buaset ti'n cael dy roi ar Ynys Bell ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Tandoori king prawns, chicken jalfresi, cacen gaws lot o gwrw!
Umbria, gwesty a'r ysgol goginio
Ardal fendigedig, golygfeydd anhygoel, y gwesty a'r ysgol goginio'n ffantastig. Cynllunio yn barod i fynd a'r teulu yn ôl yno.
Kevin am...
Aled: Coblyn o ges.
Neil: Uchelgeisiol a hyderus.
Huw: Andros o sbort.
Kelly: Siriol a thalentog.
Rolant: Gwybodus a chwmni da.
Alwen: Dawnus, hyderus a hwyliog.
Alaw: Distaw ac annwyl.
Rhaglen 2
Ffiled o borc wedi ei farineiddio a'i rostio ar wely o riwbob gyda tatws.
1 ffiled 300g o borc
Dyrned o saets
1 gewyn garlleg
5 llwy fwrdd olew olewydd
Siwgr
Sinsir
Pupur du a halen
5 sleisen o ham parma
12 coesyn riwbob ifanc
Dull
- Cynhesu'r popty i 220 C/425 F/nwy 7.
- Cleisio hanner y dail saets mewn pestl a mortar
- Ychwanegu'r garlleg a'i bowndio.
- Ychwanegu 5 llwy fwrdd o olew, ac yna rhwbiwch y gymysgedd dros y ffiled.
- Rhoi ychydig o bupur a halen, siwgr a sinsir dros y ffiled a gorchuddiwch gyda'r ham.
- Torri'r riwbob yn ddarnau hyd eich bys a gosodwch ar waelod tun pobi.
- Gosod y ffiled ar ben y riwbob.
- Taenu gweddill y dail saets dros y cig a gwasgaru ychydig o olew dros y cyfan.
- Gwlychu darn o bapur 'greaseproof' a'i grychu ac yna ei osod dros gynnwys y tun.
- Coginio am 15 munud, tynnwch y papur ac yna coginio am 15 munud arall.
- Tynnu o'r popty a'i adael i orffwys am 5 munud cyn ei weini.
Mynd i'r Eidal!
"Sioc! Methu credu'r peth, cymerodd amser i sylweddoli ei fod yn wir, ond oeddwn i'n hapus dros ben ac yn edrych ymlaen am y profiad."
Rhaglen 1
Tarten lemwn
Barn Y Beirniaid
Blas - ysgafn a blasus
Edrychiad - glân a syml