Neidio at y cynnwys

S4C

Maureen Jones

*

Byw: Trallwng

Swydd: Llyfrgellydd

Mae Maureen yn hoffi bwyd araf (slow movement) bywyd gwyllt a chwrw! Mae'n hoff o ddefnyddio cynnyrch yr ardd ar fferm mewn ffyrdd creadigol ac mae'n mwynhau coginio hefo cynnyrch gwyllt fel madarch, aeron ayyb. Ei hoff gogydd Heston Blumenthal a'i hoff fwyty ydi...adref!!

Hoff rysáit: Risotto madarch porcini.

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Gwyllt, gwledig a iachus.

Rhaglen 2
Salsicca côn lenticchie - selsig gyda ffacbys

Y rysáit, digon i 4
8oz ffacbys Castelluccio
2oz Pancetta
1 winwnsyn bach
2 gewyn garlleg
12 deilen saets
¼ cwpan olew olewydd gwyryf pur
¼ cwpan finegr gwin coch
halen a phupur
8 selsig Luganega neu 1 selsig Cotechino

Dull

  1. Dod â 6 cwpan o ddŵr i'r berw
  2. Ychwanegu 1 llwy de o halen ac yna'r ffacbys, garlleg a saets.
  3. Berwi'r cyfan yn ysgafn am 20 munud hyd yn dyner ond ddim yn feddal.
  4. Rhoi'r selsig yn y popty ar wres 375F am 15-20 munud
  5. Ffrio'r winwnsyn ar pancetta hyd eu bod yn troi'n lliw euraidd
  6. Draenio'r ffacbys ac ychwanegu'r winwnsyn, pancetta, olew a finegr.
  7. Sesno i'w flasu a'i gadw'n gynnes.
  8. Tynnu'r selsig o'r popty a'u gweini ar y gwely o ffacbys gyda roced gwyllt neu egin pys fel garnais.

Rhaglen 1
Sigar selsig sbeislyd

Barn Y Beirniaid

Blas - Gwych a blasus
Edrychiad - dangos creadigrwydd


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales