Neidio at y cynnwys

S4C

Myfanwy Alexander

*

Byw: Llanfair Caereinion

Swydd: Ysgrifennydd Sgript

Mae Myfanwy yn gallu siarad ychydig o Eidaleg ac yn hoffi gwneud pobl chwerthin. Mae wrth ei bodd yn croesawu ffrindiau am ginio dydd Sul neu coginio gyda'i phlant. Ei chryfderau yw goroesi a chwerthin drwy'i phroblemau! Mae'n mwynhau paratoi pasta, bara, cacennau, cinio dydd Sul a hufen iâ. Nigela Lawson a Jamie Oliver yw ei hoff gogyddion a'i hoff fwyty ydi'r Goat Hotel yn Llanfair Caereinion.

Hoff rysáit: Cacen siocled gyda hufen iâ praline.

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Doniol, siaradus ac egniol!

Rhaglen 2
Cig Moch Meinir Gwilym

Mi ddysgais i roi merywen gyda chig moch gan fy mam ond roedd hi arfer gwneud o gydag afalau. Amser Nadolig, mi wnes i arbrawf gyda ham, sef 'Gin and Tonic Glaze' ac mi hoffais y blas ac felly penderfynais i greu saws pasta efo'r un un blas. Dwi'n wrth fy modd yn wneud pasta: mae'r plant yn disgrifio'r pentwr o flawd fel 'Llosgfynydd'

Y rysáit
1 lb cig moch (beth bynnag sy'n ar gael sy'n flasus, ysgwydd, stêc ayyb) wedi torri i giwb 1/2
3 lemwn
2 llwy bwrdd 'juniper berries' wedi gwasgu mewn pestl a morter
Winwnsyn mawr wedi torri'n fan
Corbwmpen wedi torri'n gylchoedd
Olew olewydd
10 fl oz hufen dwbl
Limoncello, i roi blas

Pasta
1lb 6oz blawd 00
12+ melyn ŵy

Dull - Pasta

  1. Rhoi'r blawd ar y bwrdd mewn siâp mynydd. Gwneud twll yn y copa a rhoi'r wyau yn y twll. Os oes rhaid, defnyddio mwy o wyau tan fod y gymysgedd yn esmwyth ond ddim yn wlyb.
  2. Tylino'r toes hyd ei fod fel sidan tua 15 munud. Ei roi ar un ochr ac yna ei lapio mewn 'cling film'- dros nos os yw'n bosib.
  3. Rholio'r toes allan yn denau a'i dorri'n siapiau fel yr hoffwch chi.

Dull - Saws

  1. Ffrio'r winwnsyn tan ei fod yn feddal. Ychwanegu'r corbwmpen a'i ffrio am 2 munud. Rhoi i un ochr.
  2. Torri 1 lemwn gyfan mewn cwarteri. Ffrio'r lemwn gyda hanner y ferywen, nes fod y blas wedi treiddio i mewn i'r olew. Tynnu'r darnau lemwn allan.
  3. Ffrio'r cig moch yn y badell ffrio gyda'r ferywen dros wres uchel am 3 munud. Troi'r gwres i lawr a'i goginio am 20 munud a'i droi yn aml.
  4. Torri croen un lemwn yn fân a defnyddio sudd y trydydd lemwn i ddad-iro'r badell ffrio.
  5. Yn y cyfamser, rhoi gweddill y ferywen a'r hufen mewn sosban fach a'i gynhesu yn araf iawn hyd ei fod yn cyrraedd pwnt berwi. Tynnu'r sosban oddi ar y gwres a'i roi i un ochr i oeri. Wedyn, rhidyllu'r ferywen allan o'r gymysgedd.
  6. Wedi'r cig fod yn barod, cymysgu'r winwnsyn a'r corbwmpen i mewn. Rhoi hufen dros y cyfan a'i gynhesu yn ofalus am tua 5-7 munud.
  7. Ychydig funudau cyn gweini, cymysgu 1-2 llwy de o limoncello, i'w flasu
  8. Rhoi'r saws dros y pasta, a mwynhewch!

Rhaglen 1
Cacen siocled gyda hufen ia praline

Barn Y Beirniaid

Blas - y praline yn hyfryd yn yr hufen ia
Edrychiad - falle gormod i un person!


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales