Neidio at y cynnwys

S4C

Neil Johnstone

*

Byw: Caernarfon

Swydd: Swyddog Treftadaeth

Mae Neil wrth ei fodd hefo bwyd, gwin, archeoleg a'r Eidal. Ei dalent arbennig ydi siarad yn gyhoeddus. Mae'n mwynhau paratoi bwydydd hefo cynnyrch lleol bwyd yr Eidal. Rick Stein yw ei hoff gogydd a'i hoff fwyty Plas Bodegroes.

Hoff rysáit: Unrhyw pryd o fwyd mae'n paratoi i'w deulu a chinio dydd Sul

Rhaglen 5

Y profiad

Ro'dd cwmni y cystadleuwyr eraill gyda'r nos yn strydoedd Montefalco yn andros o hwyl! Wedi mwynhau y profiad o ddifri. Hefyd ymweldâ Spoletto ac Assissi a bwyta porchetta! Cael cyfnod yn yr Eidal gyda cwmni da - profiad fythgofiadwy!

Rhaglen 3

Hwyl

Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Yr awdur Norman Lewis neu Alan Clarke am yr holl 'indiscretions' neu efallai gwleidydd dylanwadol fel Bill Clinton sydd wedi ail-siapio ein byd.

Os bydda ti'n cael dy roi ar Ynys Bellennig ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Cinio dydd Sul ar trimmings i gyd. Oherwydd yr atgofion melys o'r teulu o gwmpas y bwrdd. Un rheswm da i gael diwylliant bwyd.

Umbria, gwesty a'r ysgol goginio

Ardal fendigedig, golygfeydd anhygoel, y gwesty a'r ysgol goginio'n ffantastig. Cynllunio yn barod i fynd a'r teulu yn ôl yno.

Neil am...

Aled: Un o'r hogia, cwmni arbennig i fyny tan oriau man y bora, mêt newydd.

Kevin: Y noson byth yn darfod! Un da am feddwl yn ddwfn am fwyd. Wedi wir mwynhau ei gwmni.

Huw: Hiwmor arbennig, ddim yn cymryd pethau ormod o ddifri. Storïwr sylweddol.

Kelly: Yr ieuengaf yn y grŵp. Yn ymuno yn yr hwyl weithiau yn swil ond yn gwmni da.

Rolant: Ceffyl tywyll yn deall bwyd yr Eidal. Yn feddylgar ond yn cyfrannu i'r profiad i'r eithaf. Gobeithio trafod ymhellach am fwyd a diwylliant yr Eidal hefo Rolant.

Alwen: JoyHwyliog dros ben ddim mor ddistaw ac yr oedd rhywun yn ei feddwl yn y cychwyn Hogan lyfli!

Alaw: Yn adnabod Alaw cyn mynd i'r Eidal wedi bod yn tynnu ar ein gilydd am y gystadleuaeth o'r cychwyn yn y feithrinfa. Gobeithio na wnaiff hi adael i'r wraig wybod faint o hwyl y cawson fel grwp. Roedd yn galed ar y set - wir yr...!

Rhaglen 2
Cig Mochyn mewn Vin Santo hefo ffenigl, tatws wedi rhostio mewn olew olewydd a'i weini â corbwmpen wedi stwffio

Y rysáit - porc
Digon i 4
300g llwyn o borc
600 ml (1 peint) o Vin Santo neu win gwyn melys arall sy'n weddus
1 moron mawr, wedi'i dorri'n giwbiau
1 nionyn, wedi'i dorri'n fân
2 ffon seleri, wedi'u torri'n giwbiau
600ml (1 peint) o stoc cyw iâr
2 lwy fwrdd o hadau ffenigl cyfan
halen a phupur du ffres wedi'i falu'n fân

Dull - Porc

Sychwch y porc a'i frwsio gydag ychydig o'r Vin Santo. Gadewch i sychu am tua 30 munud ac yna gwnewch hyn eto. Rhowch bupur a halen yn hael dros y cig.

Cynheswch y popty ymlaen llaw i 220°C/425F/Marc nwy. Gosodwch y porc mewn tun rhostio, a'i rhoi yn y popty. Trowch y gwres i lawr i 180°C/350F/Marc Nwy 4 a'i gadael i goginio am 40 munud i awr.

Unwaith fod y porc yn barod gwaredwch y saim a chynhesu tua 1-2 llwy fwrdd ohono mewn padell ffrio.

Ychwanegwch y foronen, y nionyn a'r seleri a'u ffrio nes eu bod yn frau ac wedi'u brownio'n ysgafn. Yna ychwanegwch weddill y Vin Santo, nes ei fod yn berwi, gan ei droi'n drwyadl, yna berwch yn galed nes bod y gwin wedi lleihau'n hanner. Ychwanegwch y stoc a berwch eto nes ei fod wedi ei leihau wrth draean i hanner, gan roi saws cyfoethog, melys, syrypaidd. Yna hidlwch y llysiau allan o'r saws a'i arllwys i badell fechan. Ychwanegwch yr hadau ffenigl a mymryn o halen a phupur a gadewch iddo fudferwi am oddeutu 2 funud. Blaswch ac addaswch y blas gyda'r halen a phupur.

Tatws Rhost Rhosmari
DIGON i 4 - 6
1.3-1.5 kg (3-3¾ lb) tatws cwyraidd ond rhai mawr, e.e. Cara, neu datws newydd ar ddiwedd y tymor
10 ewin garlleg cyfan, heb eu plicio
4 sbrigyn rhosmari da, ffres
6 llwy fwrdd o olew olewydd gwyryf iawn
halen

Dull - Tatws rhost rhosmari

Cynhesu'r popty i 200°C/400°F/Marc Nwy 6. Pliciwch y tatws a'u torri yn ddarnau tua 3cm (1 fodfedd hael) ar draws. Coginiwch nhw mewn dŵr berw wedi'i halltu nes eu bod tri chwarter y ffordd at eu gwneud - 4-5 munud.

Draeniwch yn drwyadl a chrafwch linellau cris-croes dros wynebau pob darn gyda dannedd fforc, fel eu bod yn arw. Rhowch y tatws, y garlleg, y rhosmari a'r halen mewn tun rhostio sy'n ddigon mawr i'w cywasgu yn un haen, ac arllwyswch yr olew olewydd drostynt. Trowch nhw i gyd gyda'i gilydd gyda'ch bysedd, fel bod pob taten wedi'i gorchuddio ag olew. Rhostiwch am 45 - 55 munud, gan droi'r tatws ar ôl y 30 munud cyntaf (nid cyn hynny, neu fe allent lynu wrth y tun), ac yna unwaith neu ddwy eto, nes bod rhannau ohonynt wedi cochi'n grisb. Gweinwch ar unwaith.

Courgettes wedi'u stwffio zucchine ripiene

Y rysáit
Digon i 4
Amser paratoi: 10 munud
Amser coginio: 15 munud
45 ml (3 llwy fwrdd) olew olewydd
1 ewin garlleg, wedi'i falu
1 nionyn Sbaenaidd mawr, wedi'i dorri'n fân
4 corbwmpen (courgette) gwyrdd neu felyn
1 pupur coch, yr hadau wedi'u tynnu ac wedi'i dorri'n fân
1 planhigyn wy bach, wedi'i dorri'n fân
2 domato plwm, yr hadau wedi'u tynnu ac wedi'u torri
5 ml (1 llwy de) oregano ffres wedi'i dorri
100 g (3½ oz) caws ricotta
100 g (3½ oz) caws parmesan, wedi gratio
halen a phupur du newydd ei falu

Saig lysieuol benigamp sydd hefyd yn dda iawn ar ddechrau pryd. Os nad ydych yn llysieuwr, gallwch ychwanegu rywfaint o friwgig neu gig sosej neu hyd yn oed granc; beth bynnag, mae'r llysieuyn hwn yn cynnwys llawer iawn o ddŵr, felly gwnewch yn siwr eich bod yn ysgeintio halen drosto cyn ei goginio gan ei adael am ychydig ac yna ei olchi a'i ddraenio.

  1. Rhagboethwch y popty i 180°C/popty ffan 160°C/Marc Nwy 4.
  2. Mewn padell â gwaelod trwm, cynheswch yr olew olewydd, ychwanegwch y garlleg a'r nionyn, a'u coginio am 3-4 munud, nes eu bod yn feddal ond nid wedi eu lliwio.
  3. Cymerwch y courgettes, eu torri yn eu hanner a thynnu'r canol i greu pantiau, gan adael yr ochrau yn ddigon cadarn i ddal y llenwad pan fyddant wedi coginio.
  4. Cymerwch du mewn y courgettes, ei dorri'n fân a'i ychwanegu at y garlleg a'r nionyn. Yna ychwanegwch y pupur, y planhigyn wy, y tomatos a'r oregano, ac ychwanegu pupur a halen yn ôl y gofyn. Coginiwch am oddeutu 5 munud. Tynnwch oddi ar y gwres a chymysgwch y caws ricotta a hanner y parmesan i mewn.
  5. Rhowch y gymysgedd yn y cregyn courgettes, ysgeintiwch weddill y parmesan drostynt a'u pobi am 5 - 6 munud.

Cwn iar gyda vin santo a ffenigl

Y rysáit
Ar gyfer 4
1 cyw hwyaden, yn pwyso o gwmpas 2.3-2.7 kg (5-6 pwys)
600 ml (1 peint) o Vin Santo neu win gwyn melys arall sy'n weddus
1 foronen fawr, wedi'i thorri'n giwbiau
1 nionyn, wedi'i dorri'n fân
2 ffon seleri, wedi'u torri'n giwbiau
600ml (1 peint) o stoc hwyaden neu gyw iâr
2 lwy fwrdd o hadau ffenigl cyfan
halen a phupur du ffres wedi'i falu'n fân

Sychwch yr hwyaden gyda phapur cegin. Priciwch groen yr hwyaden i gyd gyda sgiwer neu fforc. Yn awr, brwsiwch yr hwyaden i gyd gydag ychydig o'r Vin Santo. Gadewch i sychu am tua 30 munud ac yna gwnewch hyn eto a gadewch i sychu drwyddi am o gwmpas 1 awr, mewn lle oer a sych. Rhowch bupur a halen yn hael drosti.

Cynheswch y popty ymlaen llaw i 220°C/425F/Marc nwy 7. Gosodwch yr hwyaden ar rac, mewn tun rhostio, a'i rhoi yn y popty. Trowch y gwres i lawr i 180°C/350F/Marc Nwy 4 a'i gadael i goginio am 2 awr a hanner. Yn ystod yr amser hwn, y cyfan sydd raid i chi ei wneud, bob hyn a hyn, yw draenio'r saim sy'n casglu yng ngwaelod y tun rhostio. Os oes angen, gorchuddiwch gyda ffoil i atal y croen rhag llosgi, ond cofiwch fod y croen i fod i droi'n lliw mahogani brown cyfoethog. Tynnwch y ffoil i ffwrdd am y 5 munud olaf, fel bod y croen yn cael cyfle i fynd yn grisb eto.

Unwaith yr ydych wedi cywain eich storfa gyntaf o saim, cymrwch 1 llwy fwrdd ohono a'i gynhesu yn y badell ffrio. Ychwanegwch y foronen, y nionyn a'r seleri a'u ffrio nes eu bod yn frau ac wedi'u brownio'n ysgafn. Yna ychwanegwch weddill y Vin Santo, nes ei fod yn berwi, gan ei droi'n drwyadl, yna berwch yn galed nes bod y gwin wedi lleihau'n hanner. Ychwanegwch y stoc a berwch eto nes ei fod wedi ei leihau wrth draean i hanner, gan roi saws cyfoethog, melys, syrypaidd. Yna hidlwch y llysiau allan o'r saws a'i arllwys i badell fechan. Ychwanegwch yr hadau ffenigl a mymryn o halen a phupur a gadewch iddo fudferwi am oddeutu 2 funud. Blaswch ac addaswch y blas gyda'r halen a phupur.

Wedi i'r hwyaden gael ei choginio, diffoddwch y popty, gan adael y drws ar agor. Gadewch i'r hwyaden sefyll fel hyn (neu mewn lle arall cynnes sy'n addas, os ydych angen y popty ar gyfer rhywbeth arall) am tua 15 munud. Gan ddefnyddio cyllell finiog, torrwch yr hwyaden i bedwar darn - gan dorri o'r pen i'r cynffon yn gyntaf, ar hyd asgwrn y fron a thrwy'r asgwrn cefn i roi 2 hanner, ac yna rhannwch y ddau hanner yna'n ddau. Gweinwch yr hwyaden yn sydyn, tra mae dal yn gynnes, gyda'r saws a'i gyfoeth o hadau ffenigl wedi'i ailgynhesu wedi'i arllwys o'i chwmpas.

Mynd i'r Eidal!

"Pan ddwedodd Dudley mod i'n mynd i'r Eidal fy ymateb cyntaf oedd... 'O Na! Mi fydd na helynt adra. Dwi wedi cael un trip i'r Eidal heb y teulu yn barod y flwyddyn yma!' O Wel...!"

Rhaglen 1
Tarten nionyn â risotto saffrwm

Barn Y Beirniaid

Blas - Y darten yn flasus iawn
Edrychiad - Dim digon o liw


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales