Rolant Tomos
Byw: Caerdydd
Swydd: Swyddog datblygu gyda Calon
Mae Rolant wrth ei fodd yn coginio, diddanu, gwylio ffilmiau, gwrando ar gerddoriaeth, canu gitâr a gyrru ei Vespa. Mae o hefyd yn hoff iawn o filidowcars ac mae ganddo fathodyn o un bach hefo fo fel lwc! Mae'n mwynhau coginio cyri, bwyd Eidalaidd, ffrenig, Cymraeg a chymysgedd o bob dim a deud y gwir! Y drychineb fwyaf yn y gegin oedd creu pasta siocled a chig eidion efo chilli a siocled. Ei hoff gogyddion ydi Allegra McAvedy a Elizabeth David. Ei hoff fwyty ydi Hotel du Lac, Eguzon lle gafodd 9 cwrs bryd Calan a lle bwyta Jacky Dalais yn ganol unlle yn Ffrainc hefyd.
Hoff rysáit: Cig oen mewn lafant neu basta ffres â saws tomato.
Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Hoff o filidowcars!
Rhaglen 6
Y Profiad
Y profiad gorau i mi oedd cael blasu'r tartufo ffres. Mae'r profiad yn sicr wedi gwneud i mi ennill hyder yn y gegin ac wedi gwneud i mi drio ryseitiau newydd bob wythnos a chwilio am gynhwysion ffres.
Rhaglen 5
Sialens waethaf
Do'n i ddim yn edrych ymlaen i'r pwdins o gwbwl. Ond mi drodd y tiramisu allan yn iawn a mi oedd y beirniaid wedi mwynhau y saws lafant.
Sialens pasta
Oni wedi edrych ymlaen i'r sialens pasta yn fawr iawn, ond dwi erioed wedi teimlo ffasiwn gywilydd ar ol gweld gwyneb Mama Maria Sptaghetti. Union fel Nain yn deud y drefn ers talwm!
Rhaglen 3
Hwyl
Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi? Y diweddar Douglas Adams
Os bydda ti'n cael dy roi ar Ynys Bellennig ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo? Dwi'n meddwl mai pasta a saws tomato fydda fo. Sw'n i'n gallu gwario blynyddoedd yn perffeithio'r pasta ac arbrofi efo'r saws i neud o'n berffaith.
Umbria, gwesty a'r ysgol goginio
Gwesty - anhygoel mi oedd y Mauro a'r staff yn glen. Y gwesty yn grand ond yn ddigon bach i chi deimlo'n gyfforddus. Ysgol goginio mewn lleoliad gwych - fel Dolgellau ond efo bach mwy o haul. Yr ardal mor brydferth a'r bobl yn gwerthfawrogi'r hyn oedd ganddyn nhw, ac yn falch iawn iawn o'u cynnyrch. Roedden nhw'n cefnogi eu cynnyrch lleol fel da ni yn cefnogi'r timau pêl droed.
Rolant am...
Aled: 'Ladies' man'!
Kevin: Cogydd greddfol cryf, dychymyg da.
Huw: Yn cadw'r ffydd.
Kelly: Digri a greddfol yn ei choginio
Neil: Deallus iawn am fwyd.
Alwen: Greddfol ac anturus.
Alaw: Heb gael y cyfle i ddod i'w hadnabod yn dda iawn yn anffodus
Rhaglen 2
Bol Mochyn (belly pork) wedi ei rostio - gyda Hadau ffenigl, tsilis, garlleg, rhosmari.
- Porc wedi rwbio gyda cymysgiad o hadau ffenigl, chili, pupur du, rhosmari, garlleg a lemwn.
- Wedi ei rostio uwchben lemwn a ffenigl ffres.
- Salsa verde o mint, basil, garlleg a lemwn.
- Spring greens di ffrio mewn menyn ac olew yr olewydd.
- A dyna ni - mor syml a hynny!!
Mynd i'r Eidal!
"Pan glywish i mod i'n mynd i'r Eidal nesh i drio ymlonyddu a deud wrth fi fy hun, mewn sefyllfaoedd o bwysau uchel, fel cyfweliad swydd, maen nhw'n eich cynghori i chi feddwl am y rhai mewn grym yn noeth. Felly o'n i'n trio cael y llun o Dudley mewn sysbendars du allan o'm mhen..."
Rhaglen 1
Pasta ffres gyda saws tomato cartref
Barn Y Beirniaid
Blas - arbennig! Deg allan o ddeg! Edrychiad - glân