Neidio at y cynnwys

S4C

Sion

*

Dyddiad Geni: 20.01.69

Cyfeiriad: Llandegfan, Ynys Môn

Swydd: Pennaeth Ysgol Anghenion Arbennig

Disgrifio ei hun: hwyliog, anturus, boliog

Gwybodaeth Ychwanegol: mae Sion wrth ei fodd efo chwaraeon, adarydda a cherdded. Mae ei wraig yn llysieuwraig ac felly mae e'n coginio llawer o brydau llysieuol. Mae hefyd yn hoff iawn o goginio bwydydd sbeislyd, ac nid yw garlleg, chilli na sinsir byth yn bell o'i gegin. Mae'n credu'n gryf mewn defnyddio cynnyrch lleol ac mae'n hoff o gasglu ffrwythau a pherlysiau sydd o amgylch ei gartref. Ei hoff bryd bwyd fasa Thai pysgod neu gig eidion a'i hoff gogydd ydi Jamie Oliver gyda'i brydau syml ond blasus. Petai'n gorfod dewis un bwyty anelu am Thalai Thai yn Putney, Llundain fasa fo.

Ffarwelio
Sion ar y profiad

Pa brofiad sy'n aros yn y cof fwyaf?

Yr wythnos yn Sbaen; gormod o brofiadau anhygoel i restru ond roedd byw o ddiwrnod i ddiwrnod heb syniad beth oedd o'n blaenau yn ddyddiol yn brofiad newydd a chynhyrfus, er nid yn llesol i iechyd y galon nag iechyd meddwl.

Parodrwydd Dudley a'r tîm cynhyrchu/ffilmio i helpu a sicrhau bod y profiad o gael camera yng ngwyneb rhywun wrth goginio dan straen ddim yn un rhy amhleserus!

Pa sialens oedd y gora ganddo'ch ar gwaetha?

Gorau - sialens o ail-greu pryd wrth edrych ar blât gorffenedig yn unig; mi wnes i fwynhau'r dasg ddadansoddol o ddarganfod pa gynhwysion crai oedd yn y pryd ac yna trio dyfalu sut yr aethpwyd ati i goginio'r gwahanol gydrannau.

Gwaetha - Y sialens gyntaf a'r ola' am wahanol resymau.

Y sialens gynta' gan fod y rhan fwyaf ohonom wedi tangyflawni yn ein tyb ni a phawb yn disgwyl cael y gic allan gyntaf.

Roedd disgwyl am y feirniadaeth a'r penderfyniad o dan haul tanbaid pnawn Sbaen yn artaith!

Y sialens ola' gan nad oeddwn wedi 'perfformio' i'r safon y gwn y gallaf.

Hyn dal i gnoi yng nghefn fy ngheg ar brydiau fel darn o afu gwydn.

Rhy hwyr i godi pais bellach!

Be ti wedi cael o'r profiad?

Hyder wrth goginio gan wybod fy mod wedi coginio i gogyddion â seren Michellin ganddynt ac wedi derbyn clod gan Dudley yn y rownd gyntaf.

Mewn un/ddau air disgrifiwch y profiad?

Rhy anodd ... "Anhygoel a gwefreiddiol" ... unrhyw un sydd a gwir ddiddordeb mewn bwyd a choginio mae'n rhaid mentro y tro nesaf - wnewch chi byth ddifaru.

Sion yn sôn am y gweddill

Aneira hogan glên iawn ac yn licio ambell i ddiferyn gyda'r hwyr, dwi'n siwr mai unai Aneira a Llŷr oedd y rhai oedd yn eu gwlâu ola' pob nos!

Gethin jocar a diddanwr y criw, coblyn o foi iawn - er yn emosiynol ar brydia. Dyn peryg i fod yn ei gwmni!

Hefina un o genod Pen Llyn, 'can dw no rong'.

Cogydd ffantastig - dal i gofio blasu ei thapas yn rownd dau.

Daniel datblygodd Dan a Geth fel dipyn o 'ddybl act'; naill a'r llall am y gorau i dynnu coes.

Parod iawn i fentro ac arbrofi yn y gegin, h.y. wrth goginio!

Llŷr anodd cadw fyny gyda'r hogyn o Ddyffryn Conwy, amlwg mai myfyriwr yn cadwin driw i'r dywediad 'work hard/play hard'.

Sgiliau cyllell gwych yn y gegin ond angen rhywun yn fam iddo i gadw trefn ar ei bethau personol - Passport Llŷr!!!

Huw boi sy'n mwynhau bwyd, siarad am fwyd, mwynhau gwin, siarad am win a mwynhau siarad am chwaraeon; hyn oll yn golygu ei fod yn gwmni gwych.

Treuliais ambell i noson yn edrych ar yr haul yn machlud ar y veranda gyda Huw, yn yfed gwin coch a rhoi'r byd yn ei le wrth barablu a rwdlan am rwbath a phopeth fel dau foi o 'Last of the Summer Wine'!

Wendy hogan 'glam' o dre'.

Dwi'n siwr bod cês Wendy fel tardis Dr Who - roedd ganddi hi 3 'outfit' newydd pob diwrnod a sgenai ddim syniad sut roeddent i gyd yn ffitio i mewn i'w chês!

Roedd cael Wendy a Emma o gwmpas y lle yn bendant yn ychwanegu at harddwch y tirlun!

Bwydlen Sion

PRYD CYNTAF

Tŵr o wylys, tomato a chaws gafr a chawl ffenigl â ffa gwyn.

AIL GWRS

Sofliar gyda cwscws a saws melys.

PWDIN

Churos siocled â mefus mewn saws finag balsamaidd.

Rhaglen 3
Cwestiynau hwyl

Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd o fwyd hefo nhw, pwy fydda fo/hi a pham?

Dwi'm yn trio swnio'n ddiflas nac yn ddiddychymyg ond mi fyswn i'n mwynhau cael pryd gyda Jamie Oliver ar adeg pan oedd ei raglenni teledu yn cychwyn.

Mae'n gogydd sydd yn gwneud i rywun eisiau coginio â brwdfrydedd a doedd o ddim yn ei wneud mewn ffordd nawddoglyd.

Fel cogydd teledu mae wedi chwalu'r ffiniau a'r dirgelwch o greu prydau blasus heb fod angen i rywun cael gradd cemeg neu 6 awr i baratoi prydau tu hwnt o gymhleth!

Os bydda ti'n cael dy roi ar ynys bellennig a dim ond yn cael mynd ac un pryd bwyd hefo chdi, beth fysa fo a pam?

Dwi'm yn siŵr be, jyst mi fuasai'n gorfod fod yn bryd anferth os mai un pryd yn unig y byswn yn cael mynd gyda mi. Mi fuasai'n cynnwys reis, dwi wrth fy modd sut mae'n gallu amsugno blasau sawsiau.

Er mod i wedi priodi llysieuwraig, mi fuaswn yn gorfod cynnwys cig yn y pryd (sori Menna!), unai darn o bysgodyn fel maelgi, penfras, halibwt neu dorbwt mewn saws cyri thai neu gig eidion neu garw wedi ei goginio yn araf mewn gwin coch gyda llysiau.

Argraffiadau cyntaf

Be oedd yn mynd trwy dy feddwl pan ddwedodd Dudley dy fod yn mynd i Sbaen?

Methu coelio mod i drwodd, oni wedi perswadio fy hun nad oeddwn yn mynd i Sbaen ac felly yn paratoi gwneud wyneb oscars a chuddio'r siom.

Yna sioc o glywed Dudley yn dweud fy enw. Dwi'm yn cofio llawer mwy na gorfoledd a chyffro a chofleidio'r saith arall oedd drwodd!

Beth oedd dy argraffiadau o'r gwesty, ysgol goginio a'r ardal?

Ardal tu hwnt o brydferth, roedd y golygfeydd o gefn y gwesty draw am lyn Zahara gyda'r caeau o flodau'r haul yn drawiadol tu hwnt.

Un o'r golygfeydd mwyaf godidog yr wyf wedi ei weld, ac yn gwella gyda'r hwyr pan roedd yr haul yn machlud tu ôl i bentref Zahara gyda gwydriad o win coch yn y llaw - dwi isio bod yna rŵan!

Gwesty del a gerddi prydferth gyda staff cyfeillgar iawn. Roedd gweld sut roedd y tîm wedi trawsnewid stafell fwyta'r gwesty i gegin gystadleuol yn anhygoel, dwi'm yn meddwl bod yr un ohonom yn coelio mai newydd oedd y cyfan yn arbennig i Casa Dudley.

Rhaglen 2
Draenog y môr gyda langwstîn, stwnsh seleriac a saws fanila

4 golwyth draenog môr
6-10 langwstîn yn eu cregyn
Coden fanila
100g sialóts wedi eu torri'n fân
Past tomato wedi ei sychu yn yr haul
60ml brandi
80ml Noilly Prat fermwth
2 seren anis
½ litr stoc pysgodyn
200ml hufen dwbl
400g seleriac
600g tatws
6/10 asbaragws/gwydryn hir
Selsig chorizo wedi ei sychu
Pupur a halen
Halen fanila/Halen Môn

Saws:

  1. Rhoi'r corgimychiaid mewn sosban o ddŵr berwedig gydag ychydig o halen, mud ferwi'r cyfan am 4 munud a'u tynnu allan.
  2. Tynnu'r cig o'r cregyn a'u rhoi i'r naill ochr.
  3. Rhoi'r cregyn mewn popty Marc 3 am 10 munud i'w sychu.

Stwnsh:

  1. Torri'r tatws a'r seleriac yn giwbiau o tua'r un maint a'u rhoi mewn dŵr berwedig gydag ychydig o halen.
  2. Pan yn feddal, eu gwagio i ridyll a'u rhoi yn ôl mewn sosban i sychu ar fan cynnes ar yr hob.
  3. Pasio'r gymysgedd drwy stwnsiwr tatws gan ychwanegu menyn, pupur a halen a'i droi yn drylwyr.
  4. Cadw'r stwnsh yn gynnes ar yr hob a'i droi o dro i dro i nadu'r stwnsh gipio ar y gwaelod.

Asbaragws/Gwydryn Hir

  1. Trimio'r asbaragws / gwydryn hir.
  2. Berwi am 5 munud.
  3. Ail ddeffro'r asbaragws mewn powlen o ddŵr â rhew.

Yn ôl i'r Saws:

  1. Ychwanegu 100g o sialóts i badell ffrio gydag olew olewydd hyd nes eu bod yn troi'n dryloyw. Ychwanegu'r cregyn sydd wedi ei sychu yn y popty i'r badell ffrio a'u ffrio am 5 munud da.
  2. Ychwanegu 1 llwy fwrdd o bast tomato wedi sychu yn yr haul a'i ffrio am funud.
  3. Ychwanegu'r brandi a Noilly Prat ei fflamio a lleihau'r hylif i hanner ei gyfaint.
  4. Ychwanegu'r star anise a'r stoc pysgod a'i leihau eto i hanner ei gyfaint.
  5. Ychwanegu'r hufen dwbl.
  6. Ychwanegu'r hadau a'r goden fanila.
  7. Berwi'r cyfan ac yna ei fud ferwi am 20 munud.
  8. Pasio drwy ridyll macirc;n a'i gadw'n gynnes.

Chorizo:

  1. Paratoi 4 stribed hir a thenau o'r chorizo, a pharatoi ciwbiau bach o chorizo o'r un maint.
  2. Ychwanegu'r chorizo i badell ffrio gydag ychydig o olew olewydd.
  3. Ffrio'r chorizo yn ysgafn i'w carameleiddio ychydig gan ryddhau olew o'r selsig. Cadw'r darnau chorizo yn gynnes.

Paratoi'r Pysgod:

  1. Trimio 4 golwyth draenog y môr i gael siâp taclus.
  2. Gwneud 3 toriad yng nghroen pob golwyth.
  3. Cymysgu ychydig o flawd gyda halen fanila a phupur.
  4. Rhoi ychydig o bupur a halen fanila ar y pysgodyn.
  5. Ychwanegu'r pysgodyn i'r blawd halen fanila ac ysgwyd y gormodedd blawd i ffwrdd.
  6. Cynhesu padell ffrio ac ychwanegu ychydig o olew olewydd a disgwyl hyd nes y mae'n mygu.
  7. Ychwanegu'r pysgodyn (croen i lawr yn gyntaf) a'i goginio am 3 munud.
  8. Troi'r pysgodyn drosodd a'i goginio am 1½ - 2 funud.
  9. Tynnu pysgod o'r badell boeth.

Gweini (2 blât):

  1. Ychwanegu cig y corgimwch i'r saws fanila i gynhesu drwodd.
  2. Ffrio'r gwydryn hir yn ysgafn mewn menyn i'w cynhesu.
  3. Ychwanegu cylch o stwnsh i ganol placirc;t gan roi'r saws fanila o'i amgylch.
  4. Ychwanegu cig y corgimychiaid i'r saws gan ychwanegu ciwbiau bychain o'r chorizo.
  5. Ychwanegu 3 gwydryn hir ar ben y stwnsh ac yna 2 'olwyth o'r pysgodyn ar ei ben.
  6. Gosod dau stribed o'r chorizo wedi eu carameleiddio ar ben y pysgod mewn siâp croes a gweini ychydig o'r olew chorizo dros y pysgod a'i weini'n syth!

Rhaglen 1
Tarten Gaws Gorau Glas a Gellyg gyda Salad o Suran ac Arfog

Ar gyfer y crwst:
85g cnau Ffrengig
150g blawd plaen
125g o fenyn Cadog oer
1 llwy de o siwgr eisin
Pupur a halen

Llenwad:
3 gellygen
200g o gaws Gorau Glas
275g créme fraîche
2 ŵy
3 sialót
Ychydig o fenyn Cadog
Dail teim ffres
Pupur a halen i flasu
300ml gwin coch
100g siwgr caster

Salad:
Llond dŵrn o ddail arfog
Llond dŵrn o ddail suran

Dresin:
3 llwy fwrdd o sudd afal naturiol
2 llwy fwrdd o finegr seidr
8 llwy fwrdd o olew cnau Ffrengig
Pupur a halen

Ar gyfer y toes:

  1. Rhoi'r cnau mewn prosesydd bwyd a'u torri'n eithaf mân. Ychwanegu'r cynhwysion eraill a'u prosesu hyd nes eu bod yn friwsion mân.
  2. Ychwanegu hanner llwy fwrdd o ddŵr hyd nes bod y toes yn ffurfio pelen, ac yna ei orchuddio a'i roi yn yr oergell am hanner awr.
  3. Wedi hanner awr, tynnu'r toes allan a'i adael am 5-10 munud hyd nes y gellir ei drin.
  4. Rholio'r toes allan yn ddigonol i lenwi 4 tun tarten fach neu 1 tun mawr. Gorchuddio gyda phapur gwrthsaim a llenwi gyda ffa pobi a'u rhoi yn yr oergell am hanner awr arall.

Ar gyfer y llenwad:

  1. Tra bod y toes yn yr oergell, torri'r sialóts yn fân a'u ffrio'n ysgafn mewn ychydig o fenyn. Tra mae'r sialóts yn chwysu, rhoi'r gwin coch mewn sosban fechan ac ychwanegu'r siwgr caster a'i gynhesu'n araf nes bod y siwgr wedi toddi'n llwyr.
  2. Tra bod y siwgr yn toddi, plicio croen y gellyg a'u torri trwy osod y gellyg ar eu hochr a'u torri i ddisgiau o 1cm o drwch.
  3. Pan fod y gwin wedi toddi i'r siwgr, ychwanegu'r disgiau gellyg i'r sosban a'u gadael i fudferwi am 5-8 munud cyn eu tynnu allan.
  4. Fel mae'r sialôts yn gorffen chwysu a'u bod yn ffrio'n ysgafn (tua 10 munud), cynyddu'r gwres o dan y badell ffrio ac ychwanegu 2 lwy fwrdd o'r stoc gwin coch, a throi'r sialôts hyd nes eu bod wedi berwi'n sych ac yna diffodd y gwres.
  5. Rhoi'r toes mewn i'r popty (sydd wedi bod yn cynhesu ar dymheredd o 180°C) a'u pobi am 15munud. Ar ôl y 15 munud, tynnu'r toes allan, tynnu'r papur gwrth-wres a rhoi'r toes 'nôl yn y popty am 10 munud arall.
  6. Ar ôl 10 munud, tynnu'r crwst allan o'r popty, torri'r caws yn giwbiau (y maint yn ddibynnol ar faint y tuniau) a gorchuddio'r gwaelod y crwst gyda'r sialôts.
  7. Ychwanegu'r disgiau gellyg i guddio'r sialôts a chwisgo'r wyau gyda'i gilydd yn sydyn ac yna ychwanegu'r crème fraîche a'u cymysgu'n dda. Ychwanegu ychydig o ddail teim ar wyneb y cymysgedd, a'u rhoi yn 'nôl yn y popty am 30-35 munud ar yr un tymheredd.

Ar gyfer y salad a'r dresin:

  1. Tra mae'r darten yn y popty, cymysgu cynhwysion y dresin gyda'i gilydd. Sicrhau bod dail y salad yn lân.
  2. Pan fo'r darten wedi ei choginio (rhoi sgiwer i'w chanol i'w phrofi) tynnu allan a'i gadael i oeri ychydig - 10-15 munud i darten ganolig, 5-10 munud i darten lai.
  3. Tra mae'r darten yn oeri, rhoi'r dail mewn powlen ac ychwanegu'r dresin cyn cymysgu'n dda.
  4. Tynnu'r darten allan o'r tun tra mae dal yn gynnes (torri tafell os yn ganolig/mawr) a'i osod ar blât, creu twmpath go daclus (os yn bosibl!) o'r salad wrth ei hochr a'i bwyta'n syth.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales