Neidio at y cynnwys

S4C

Siwan Angharad John

*

Byw: Caerfyrddin

Swydd: Athrawes

Mae Siwan wrth ei bodd hefo celf a chrefft, nofio, rhedeg, dawnsio a dawnsio gwerin ac edrych ar ôl ei nai bach. Mae'n hoff o arbrofi yn y gegin a chreu rysetiau newydd. Prydau sawrus sy'n mynd a'i phryd fel cinio dydd Sul, cawl a phrydau llysieuol. Ei hoff sieff ydy Ina Garten, Barefoot Contessa a'i hoff bwyty yw'r Riverstone café, UDA.

Hoff rysáit: Boeuf ên croute.

Disgrifio ei hun mewn 3 gair: Brwdfrydig, cymdeithasol a theyrngar.

Rhaglen 2
Porc pîn (porc wedi'i stwffio)

Ingredients
Llwyn o borc (tua 2lb)
Sleisys o ham Caerfyrddin
Dyrnaid o rawnwin
Dyrnaid o fricyll sych
Dyrnaid o gnau pîn
Saets
Sialóts
Ychydig o friwsion bara
Melyn ŵy

Dull

  1. Sleisio'r sialóts a'u ffrio nes yn troi'n lliw euraidd.
  2. Tostio'r cnau pin.
  3. Gosod y bricyll mewn dwr berwedig.
  4. Tynnu'r gewyn oddi ar y porc, ei sleisio'n hanner (dim yr holl ffordd drwyddo) ac agor y porc allan a'i guro'n ysgafn fel ei fod yn fflat.
  5. Malu'r saets yn fan a chymysgu'r bricyll, cnau pîn, grawnwin, briwsion bara ac ychydig o'r melyn wy i'w feindio.
  6. Sesno gyda pupur du
  7. Gosod darnau o gortyn ar ddarn o ffoil a'u hysgeintio ag olew olewydd.
  8. Gosod tafellau o'r ham gan orgyffwrdd, gosod y porc dros yr ham, yna ei stwffio gyda'r stwffin.
  9. Rholio'r holl beth a'i glymu gyda'r cortyn a'i osod yn ffwrn 220 c am tua 10 munud, troi'r ffwrn i lawr i tua 180 c a'i goginio am ryw 10-15 munud eto.
  10. Tynnu'r porc allan i orffwys.
  11. Sleisio'r porc a'i osod ar blât.
Rhaglen 1
Tŵr cranc gyda dresin lemwn

Barn Y Beirniaid

Blas - blasus tu hwnt
Edrychiad - Lliwgar


© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales