Wendy

Dyddiad Geni: 19.11.1967
Cyfeiriad: Llanrug, Caernarfon
Swydd: gweithio i Cartrefi Cymru a hefyd fel Rheolwr Blaen Tŷ yn y Galeri, Caernarfon
Disgrifio ei hun: teithiwr, cymdeithasol
Gwybodaeth Ychwanegol: mae Wendy'n hoff iawn o goginio, teithio, arlunio a garddio. Ei hoff fwyd hi ydi Sticky Toffee Pudding. I'r Ship Inn yn Nhraeth Coch ar Ynys Môn y mae Wendy yn hoffi mynd allan am bryd o fwyd a'r cwmni delfrydol fuasai naill neu'r llall o'i hoff gogyddion, Jamie Oliver a James Martin! Ei ffrindiau oedd wedi awgrymu iddi gystadlu yn Casa Dudley eleni.
Yn fuddugol!
Wendy ar y profiad
Pa brofiad sy'n aros yn y cof fwyaf?
Pob un!
Ond yn enwedig y sialens olaf.
Pa sialens oedd y gora ganddo'ch ar gwaetha?
Y gora - Paëla. Y gwaetha - Tortilla hefo ymennydd mochyn!
Be ti wedi cael o'r profiad?
Ennill mwy o hyder ac wedi dysgu cymaint o dechnegau newydd, hefyd wedi gwneud ffrindiau da, a phrofiad nai byth anghofio.
Mewn un/ddau air disgrifiwch y profiad?
Ffantastig!
Sut deimlad ydi bod yn enillydd Casa Dudley 2008?
Anhygoel!
'Dwi dal mewn breuddwyd - breuddwyd dda!
Wendy yn sôn am y gweddill
Aneira cymdeithasgar a charedig.
Gethin doniol a gwybodus.
Hefina llawn hwyl a chyfeillgar.
Daniel cymeriad.
Llŷr distaw a chyfeillgar
Huw dibynadwy, wedi bod yn bleser gweithio hefo fo! Diolch yn fawr am fy helpu i ennill Huw!
Sion gŵrbonheddig, talentog. Haeddu ennill hefyd!
Bwydlen Wendy
PRYD CYNTAF
Gorgimychiaid 'tempura' gyda mayonnaise saffrwm a lemwn
AIL GWRS
Cig oen gyda cwmin ar wely o gwscws.
PWDIN
Pinafal gyda hufen Cointreau.
Rhaglen 3
Cwestiynau hwyl
Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd o fwyd hefo nhw, pwy fydda fo/hi a pham?
Y cogydd James Martin, mae o, a'i fwyd yn dishy iawn!!!
Os bydda ti'n cael dy roi ar ynys bellennig a dim ond yn cael mynd ac un pryd bwyd hefo chdi, beth fysa fo a pam?
Tiramisu wedi ei wneud gan fy ffrind Sharon.
Argraffiadau cyntaf
Be oedd yn mynd trwy dy feddwl pan ddwedodd Dudley dy fod yn mynd i Sbaen?
Ddim yn disgwyl mynd i Sbaen oherwydd y Mango Salsa! Sioc pan ddywedodd Dudley bod fi'n mynd.
Beth oedd dy argraffiadau o'r gwesty, ysgol goginio a'r ardal?
Roedd y gwesty a'r ardal yn syfrdanol a hyfryd, a'r ysgol goginio yn amazing!
Rhaglen 2
Cledd bysgodyn seriedig gyda salsa mango cynnes, cwscws oren â chnau pîn a salad merllys
1 lemwn, sudd a chroen
1 llwy fwrdd olew olewydd
2 fango aeddfed wedi eu torri'n giwbiau
1 cwpan o sudd oren dwys
1 llwy fwrdd o goriander wedi ei dorri'n fân
28g o fenyn
½ chilli coch wedi ei dorri'n fân
1 llwy de o siwgr brown tywyll
100g o cwscws
130ml o ddŵr berwedig
2 oren, sudd a chroen
2 llwy fwrdd o gnau pîn
2 llwy fwrdd syltanas
1 llwy fwrdd coriander wedi ei dorri'n fân
1 llwy fwrdd mint wedi ei dorri'n fân
Mymryn o bowdr sinamon
28g o fenyn
6 merllys
1 ciwcymbr bach
1 moronen fach
Llond llaw o ddail letys cymysg
sudd 1 lemwn
1 llwy de olew olewydd
Dull:
- Marineiddio'r cledd bysgodyn gyda'r lemwn ac olew am tua 30 munud.
- Rhoi'r cwscws gyda'r dŵr, croen yr oren, a'r menyn mewn powlen neu sosban. Gorchuddio'r cyfan a'i adael i sefyll am 5 munud.
- Yn y cyfamser, stemio'r merllys am tua 1 - 2 funud a'u gadael i oeri.
- Gyda phliciwr tatws, plicio'r ciwcymbr a'r moron ar eu hyd i greu rhubanau a'u gosod mewn powlen. Ychwanegu'r letys cymysg a'u rhoi yn yr oergell hyd nes yn barod i'w weini.
Ar gyfer y salsa mango:
- Rhoi'r mango, sudd oren, menyn, chilli, coriander a'r siwgr mewn sosban a'i gynhesu'n ofalus am 5 munud.
- Troi'r cwscws gyda fforc, ychwanegu sudd y 2 oren a'r perlysiau a'i gynhesu'n ofalus am 1 - 2 funud gan ofalu nad yw'n glynu yng ngwaelod y sosban.
- Cynhesu gradell dros wres canolig hyd nes ei fod yn mygu ychydig bach, yna serio'r cledd bysgodyn am tua 2 funud bob ochr (yn dibynnu ar drwch y pysgodyn).
- Tynnu'r salad allan o'r oergell ac ychwanegu'r olew olewydd, sudd lemwn, halen a phupur.
- Gweini gyda'r salsa mango ar ei ben, â'r cwscws a'r salad bob ochr.
Y Feirniadaeth
Dudley
Edrych yn ffres ac yn lliwgar, ond gormod ar y plât.Llinos
Plât blasus a lliwgar iawn, ond mae gormod. Roedd mango ym mhobman!Bryn:
Y pysgodyn wedi ei goginio'n dda, a'r plât yn lliwgar iawn.Marc ar gyfartaledd: 7/10
Rhaglen 1
Eog Wedi ei Biclo Mewn Lemwn a Leim gyda Salad a Bara Brown gyda Choconyt
2 ffiled o eog wedi eu torri'n giwbiau
1 nionyn coch
1 ewyn garlleg
1 lemon wellt, wedi ei dorri'n fân
Sudd 2 lemwn
Sudd 1 leim
1 pupur chilli coch, wedi ei dorri'n fân
1 llwy de powdr cwmin
Llond dwrn o ddail coriander ffres
Olew blodyn yr haul
Halen
Pupur cymysg
Ar gyfer y Salad:
Letysen 'Lamb'
Tomatos wedi eu torri'n fân, heb groen a heb hadau
Ar gyfer y dresin:
2 lwy de finegr gwin gwyn
1 lwy de olew olewydd
½ llwy de mwstard Dijon
Halen a phupur
Ar gyfer y bara:
3 chwpan o flawd brown
½ cwpan o goconyt wedi sychu
½ cwpan o hufen coconyt
1 llwy de halen
1 llwy fwrdd olew olewydd
2 lwy de siwgr
1 bag bychan o furum sych
½ cwpan o ddŵr cynnes
3 thun ffa pob gwag
I wneud y bara:
- Cyfuno'r holl gynhwysion a thylino'r toes ar fwrdd gyda blawd arno am oddeutu 10 munud.
- Leinio'r tuniau gwag gyda phapur gwrthsaim a rhannu'r toes i 3 rhan cyfartal, siâp selsig 2 fodfedd o led a tua 3 i 4 modfedd o hyd (fel eu bod yn llenwi tua ¾ y tun).
- Gosod clingfilm ar ben y tun a'i adael mewn lle cynnes am o leiaf hanner awr, hyd nes bod y toes wedi codi dros y tun.
- Tynnu'r haenen lynu a'i bobi ar wres canolig am oddeutu 20 munud.
Ar gyfer yr eog:
- Gorchuddio'r eog gyda'r sudd lemwn a leim a'i farineiddio mewn powlen di-fetel am 24 awr.
- Torri'r nionyn yn fân a'i ffrio mewn olew hyd nes ei fod yn dyner, cyn ychwanegu'r garlleg, tsili a'r lemwn wellt a'u ffrio am 2 i 3 munud.
- Ychwanegu'r cwmin a'i ffrio am funud pellach. Gadael iddo oeri ac ychwanegu'r eog wedi ei farineiddio. Ychwanegu'r coriander a'i osod yn yr oergell am awr.
- Leinio dysgl fechan neu ramecin gyda clingfilm a hidlo'r gymysgedd eog hyd nes bod y sudd wedi diflannu. Ychwanegu pupur cymysg a'r halen i flasu.
- Gosod y nionyn coch ar waelod y ramecin, gyda'r eog ar ei ben, ac yna haenen arall o nionyn ac eog ac yn y blaen, hyd nes bod y ddysgl yn llawn. Gwasgu unrhyw sudd sydd yn weddill a rhoi'r cyfan yn yr oergell hyd nes ei fod yn barod i'w weini.
- Gosod y letys wedi ei gymysgu gyda rhywfaint o'r dresin, halen a phupur ar ganol y plât. Gwasgaru'r tomatos o amgylch ochr y plât a rhoi dysgl wyneb i waered ar ben y letys a thynnu'r eog allan yn ofalus, cyn tynnu'r haenen lynu i ffwrdd.
- Gweini gyda'r bara ffres.