Bryn Williams
Fel y disgwyl, mae Bryn wedi bod yn brysur iawn ers ymddangos ar Casa Dudley.
Ynghyd â'i waith llawn amser ym mwyty Odette's yn Primrose Hill, Llundain, ble mae wedi bod yn brif gogydd ers hydref 2006, mae'r gŵr o Ddinbych wedi bod mewn galw mawr, gydag ymddangosiadau ar raglenni megis Saturday Kitchen ar BBC1 a Market Kitchen ar UKTV Food.
Mae'r cogydd poblogaidd hefyd yn gweithio ar y cyd gyda'r darparwyr bwyd organig, Ystâd Rhug o Gorwen, yn ymgynghori ac yn dylunio ryseitiau ar eu cyfer.
Er nad oes gan Bryn lawer o amser i ddychwelyd adref i Ddinbych, mae'r nifer cynyddol o gwsmeriaid Cymraeg yn golygu ei fod yn teimlo'n gartrefol iawn, ac mae dal hefyd yn ymroi ei hun i ddefnyddio'r cynnyrch Cymreig gorau bosib yn ei fwydlenni. Mae cig John Williams o Ddyffryn Clwyd, cig oen Henllan, ynghyd â Chaws Cenarth i gyd ymysg y cynhwysion Cymreig o safon sydd wedi cael eu gweini i giniawyr Primrose Hill yn ystod amser Bryn fel prif gogydd.
Mae Bryn yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar gynnal safonau uchel y bwyty, gan ei fod ers dechrau mis Hydref wedi cymryd y busnes drosodd yn gyfan gwbl a hefyd at groesawu rhagor o Gymry drwy ddrysau Odette's yn y dyfodol agos.