Diego del Rio

Enw llawn a swydd?
Diego del Rio, Restaurante El Lago
Pryd wnes di ddechrau coginio a beth oedd yr ysgogiad?
Wnes i gychwyn tua 12 mlynedd yn ôl oherwydd dwi wastad wedi bod ag angerdd at goginio.
Beth yw dy gyngor i gogyddion ifanc?
I wneud yn sicr bod yr angerdd gennych chi, dyw hi ddim yn swydd hawdd.
Hoff rysáit/pryd?
Cawl ffacbys
Petai ti'n sbeis/berlysieuyn beth fydda ti?
Mint
Petai ti'n cael dy roi ar ynys bellennig pwy fasa ti ishe fel cwmni a pa fwyd?
Fy ffrindiau gorau, coes o ham Pata Negra a chasgen o hen win da.
Rysáit Diego
Colomen fach gyda cwscws, paté a saws fanila ac oren.
1 colomen fach wedi torri'n ddarnau ( brest x 2 a choesau x 2)
100g cwscws - wedi coginio yn ôl cyfarwyddiadau ar y pecyn
50g blodfresych wedi torri'n fân iawn
80g afu'r golomen
80g afu cyw iâr
½ winwnsyn wedi torri'n fân
Ychydig o bort
2 oren, sudd yn unig
Finag balsamig gwyn
1 coden fanila a'r hadau
50g siwgr
Olew olewydd
Halen môr
Blodau bwytadwy
100g cwscws - wedi coginio yn ôl cyfarwyddiadau ar y pecyn
50g blodfresych wedi torri'n fân iawn
80g afu'r golomen
80g afu cyw iâr
½ winwnsyn wedi torri'n fân
Ychydig o bort
2 oren, sudd yn unig
Finag balsamig gwyn
1 coden fanila a'r hadau
50g siwgr
Olew olewydd
Halen môr
Blodau bwytadwy
Y Paté
- Mewn padell ffrio rhoi'r winwnsyn i ffrio mewn ychydig o olew olewydd hyd nes eu bod yn meddalu.
- Ychwanegu'r afu ac ychydig o halen a phupur. Ffrio'r cyfan ac ychwanegu'r port.
- Berwi'r cyfan a choginio'r afu. Tynnu'r badell oddi ar y gwres a rhoi'r cynhwysion mewn hylifwr. Hylifo'r cyfan a'i roi ar blât a'i oeri yn yr oergell.
Y Cwscws
- Coginio'r cwscws yn ôl cyfarwyddyd ar y pecyn.
- Ei sesno.
- Ffrio'r blodfresych a'r cwscws.
Y Saws
- Rhoi'r siwgr mewn sosban ar wres isel a'i adael i doddi a charameleiddio'n araf bach, byddwch yn ofalus i beidio cael gormod o liw ar y caramel neu fe fydd blas chwerw ar y saws.
- Ychwanegu mymryn o'r finag a'i leihau hyd nes yn hanner y cyfaint gwreiddiol.
- Ychwanegu'r sudd oren, hadau fanila a'r goden fanila a lleihau'r saws unwaith yn rhagor hyd nes bod gennych chi saws dwys tebyg i surop.
Y Cig
- Mewn padell ffrio rhoi mymryn o olew olewydd a ffrio'r darnau brest y golomen hyd nes bod y croen yn crino ac yn troi'n lliw euraidd.
- Eu troi a'u coginio'r ochr arall am ryw funud, dylai'r cig fod yn binc y tu mewn. Mae angen i'r coesau goginio am ychydig bach yn hirach ac wedi eu coginio trwyddynt.
Gweini
- Rhoi mymryn o'r pate ar ganol plât a'i wasgaru i un cyfeiriad gyda chefn llwy, rhoi llwyaid o'r cwscws ar ei ben ac yna'r cig, y frest wedi torri'n hanner a'r coesau o bopty.
- Arllwys y saws caramel, oren a fanila o'i gwmpas a'i orffen gyda'r blodau bwytadwy ac ychydig o halen môr.