Dudley Newbery
Byw: Caerdydd
Swydd: Cyflwynydd
Mae Dudley Newbery yn un o wynebau cyfarwydd ar S4C ac mae e wedi bod ar ein sgrin ers 1994. Mae Dudley wedi cyflwyno a chynhyrchu 13 cyfres o 'Dudley' ac rydyn ni wedi ei weld yn ffilmio mewn lleoliadau egsotig fel Thailand, Jamaica a'r Eidal. 'Dudley' yw'r rhaglen goginio sydd wedi bod ar y sgrin hira ym Mhrydain.
Y Gystadleuaeth:
Cyfres goginio 'realiti' a chreadigol lle mae Dudley a'i feirniaid Bryn Williams, un o gogyddion gorau Cymru a Nerys Howells yn dewis wyth cogydd amateur o Gymru.
"Roedd y safon yn uwch na'r disgwyl" meddai, "a'r safon yn gwella wrth i'r rowndiau fynd ymlaen. Roedd rhai yn amlwg yn cymryd coginio o ddifri ac wedi meddwl am y cynhwysion oedd yn cael eu defnyddio, a rhai yn deall blas a sut i gyfuno blasau yn well na'i gilydd. Roedd hi'n anodd iawn dewis 12 cogydd o'r holl ymgeiswyr, a bydde ni falle wedi hoffi gweld mwy yn y 'cook off' oherwydd roedd y safon mor dda! Roedd bron pob pryd wedi ein plesio ac mi o'n ni'n fwy na hapus i balu mewn i bob plât, heb law am y rhai gyda chaws gafr!! Rhaid dweud nad oedd gen i un ffefryn, o ni'n meddwl bod yr wyth yn ffantastig ac wedi bod yn broffesiynol iawn wrth dderbyn popeth dafles i atyn nhw."
Mae Dudley yn ddyn prysur iawn
Mae'n datblygu prydau parod gan ddefnyddio cynnyrch Cymraeg ar gyfer Cig Calon Cymru sydd wedi eu lleoli yn Cross Hands.
Mae'n arddangos ei sgiliau coginio a'i rysetiau ar hyd a lled Cymru ac mae ganddo arddangosfa Nadoligaidd mis Rhagfyr yng Nghelli Aur. Roedd e hefyd ynghlwm â'r bws goginio wnaeth ymddangos yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Roedd e'n feirniad gyda Great Taste Awards yn Llundain ac ar banel beirniadu Gwir Flas Cymru 2007/2008.
Hwyl a sbri
Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd bwyd hefo nhw pwy fasa fo/hi?
Ateb: James Taylor. Dwi wedi bod yn ffan o James Taylor ers pan yn yr ysgol. Mae'n gerddor a chanwr sydd ddim angen 'effects peirianyddol' a wedi cael bywyd diddorol a chyffrous.
Os bydda ti'n cael dy roi ar ynys bell ac yn cael mynd a dim ond un pryd bwyd hefo chdi be fasa fo?
Ateb: Stecen o gig eidion duon Cymreig gyda saws au poivre a sglodion cartre'.