Helen Jones

Helen Jones fu'n gweithio ar gyfres Casa Dudley fel ein cyfieithydd
Enw llawn a pham wyt ti'n byw yn Sbaen?
Helen Jones, yn wreiddiol o Bontarddulais ond wedi bod yn dod nôl a mlaen i Sbaen ers 1998.
Nes i astudio Sbaeneg yn y brifysgol a wedyn treulio amser yn astudio llenyddiaeth Gwlad y Basg a gweithio fel athrawes Saesneg. Yn ystod un o'm cyfnodau yn byw yma, cwrddais ag Eduardo, sydd nawr yn wr i mi.
Des i i Madrid yn 2004 er mwyn bod gydag ef gan weithio ym myd cyhoeddusrwydd tan Hydref 2007 - bellach rwy'n gweithio i mi fy hun fel cyfieithydd, awdur a golygydd.
Sud brofiad oedd Casa Dudley?
Gwych! Gwaith caled iawn, wythnos ddwys yn llawn profiadau arbennig. Bu gweld y cystadleuwyr yn datblygu yn ystod yr wythnos yn arbennig a chael cyfle i weld cogyddion sêr Michelin yn coginio yn fraint.
Roedd bod yn rhan o griw Casa Dudley yn sbort a wnes i ddysgu lot fawr am faint o waith sydd yn mynd mewn i gynhyrchu cyfres teledu!
Sut mae dy goginio? Hoff fwyd a hoff fywty.
Dwi'n dwli ar goginio ac yn gwneud lot fan hyn yn Sbaen, er dwi'n gwrthod gwneud paella na tortilla gan mai dyna yw sêr repertoire fy mam yng nghyfraith sy'n paratoi bwydydd traddodiadol Sbaeneg gwych!
Fy hoff fwyd - brecwast Sbaeneg - bara ffresh, olew olewydden, tomato a jamón. Hoff fwyty - yng Nghymru, Le Gallois, Caerdydd, yn Sbaen - Lúa, c/Zurbano, 85, Madrid - mae'r chef yn ffrind ac yn creu un pryd 5 cwrs bob dydd. Creadigol, modern a blasus iawn.
Dwi'n mynd i El Bulli ym mis Mai 2009, felly cawn weld os bydd y dewis yn newid ar ol hynny!
Petaet yn cael dy roi ar ynys bellenig pa fwyd fasa ti isho hefo chdi a pwy yn gwmni?
Mmmmh, jamón, jamón a mwy o jamón. Cwmni - fy ngwr (os o'n i eisiau bach o ramant) neu Nelson Mandela (gelen i andros o sgwrs hir).