Neidio at y cynnwys

S4C

Llinos Woods

Llinos Woods

Mae'r arbenigwraig crwst Llinos Woods, sy'n hanu'n wreiddiol o Landeilo, wedi bod yn gweithio yn Llundain ers tair blynedd ar ddeg, ac am y pum mlynedd diwethaf fel cogydd crwst ym mwyty Peter Jones yn Sloane Square.

Yn ystod ei hamser yn Llundain mae Llinos wedi gweithio fel cogydd crwst gyda rhai o dalentau mwyaf llewyrchus y diwydiant. Bu am gyfnod gyda Marco Pierre White ym mwyty'r Belvedere, hefyd bu gyda Phillip Howard ym mwyty'r Square yn Mayfair, fel cogydd crwst sous gyda'r Ffrancwr Pierre Koffman, a hefyd yn gweithio yn y gwesty byd enwog Savoy.

Cafodd diddordeb Llinos mewn coginio ei sbarduno pan fu'n helpu ei mam baratoi pob math o ddanteithion yn y gegin i'w gwerthu yn y farchnad leol. Treuliodd ddwy flynedd yng ngholeg arlwyo Pibwrlwyd, Caerfyrddin cyn mynd i deithio'r byd am flwyddyn a chael profiad amhrisiadwy o fwydydd a diwylliannau eraill, profiad sydd wedi dylanwadu ei gyrfa fel cogyddes.

Yn ei hamser sbâr, mae Llinos yn hoff o ddylunio a pharatoi teisennau ar gyfer achlysuron arbennig a'i breuddwyd ydi sefydlu busnes cacennau gyda'i gŵr, sydd hefyd yn gogydd.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales