Marco Bistarelli
Dechreuodd taith gastronomig Marco Bistarelli a'i wraig Barbara yn 1992 tra'n rheoli bwyty oedd ynghlwm a gwesty Titerno in Citta di Castello. Roedd Marco yn gogydd ifanc rhagorol a'i wraig yn feddylgar a gweithgar. Ym 1995 cafodd Marco ei dderbyn fel aelod o'r mudiad mawreddog ac unigryw 'Jeunes Restaurateurs d'Europe' mudiad a gafodd ei greu yn Ffrainc yn 1974. Ar ôl eu llwyddiant yn Titerno, yn 1997 gwireddodd Marco a'i wraig eu breuddwyd pan fu iddyn nhw brynu hen orsaf bost ac agor eu bwyty llwyddiannus Resturant Il Postale.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan : www.ristoranteilpostale.it