Neidio at y cynnwys

S4C

Nerys Howell

Nerys Howell

Byw: Caerdydd
Swydd: Perchennog Cwmni Ymgynghoriaeth Bwyd Howell

Mae gan Nerys brofiad helaeth ym maes bwyd, arlwyo a lletygarwch. Mae hi wedi gwneud gwaith rheoli mewn nifer o wahanol sefydliadau ac wedi teithio'n helaeth yn hybu bwydydd a diodydd o Gymru.

Mae Nerys yn datblygu syniadau newydd ar gyfer marchnata bwyd, hyrwyddo cynnyrch, profi rysetiau, datblygu bwydlenni ymysg nifer o bethau eraill.

Bu'n flwyddyn brysur i Nerys a'i chwmni ers y gyfres ddiwethaf gydag amryw o brosiectau ar y gweill. Fis Mai, teithiodd i Hong Kong i hyrwyddo cwmnïoedd bwyd a diod o Gymru yn un o sioeau bwyd mwya'r dwyrain pell - Hofex. Dychwelodd i'r gorllewin i gadw llygad ar Caffi Mistar Urdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin. Cig Oen Cymru oedd ar y fwydlen fis Mehefin wrth i'r cwmni drefnu taith arall o gwmpas Cymru gyfan. Nôl dros y ffin wedyn i Lundain, lle trefnwyd arddangosfa o gynnyrch y Gwir Flas yn un o sioeau 'foodie' mwyaf poblogaidd y ddinas - The Taste of London. Tra yn y ddinas fawr - ni chollwyd ar y cyfle i wledda yn Odettes - ty bwyta un o'i cyd-feirniaid Bryn Williams! Mae tymor yr haf o hyd yn gyfnod prysur gyda Blas (ty bwyta symudol Y Gwir Flas) yn ymweld â 'Arddio RHS, Gŵyl y Gelli a'r Eisteddfod Genedlaethol heb anghofio'r Sioe Frenhinol - lle buodd yn beirniadu cystadleuaeth fwyd y Clwb Ffermwyr Ifanc.

Trwy gydol y flwyddyn mae'n bosib gweld Nerys yn coginio ar raglen Wedi 3 ar b'nawn ddydd Mawrth. Mae wrthi ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer sioe arall yn Llundain, gweithio ar brosiect newydd gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a datblygu ryseitiau newydd ac yn ymchwilio i batrymau bwyta teuluoedd y Glowyr ddechrau'r ganrif ddiwethaf ar gyfer rhaglen deledu newydd fis Hydref.

www.howelfood.co.uk

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales