Neidio at y cynnwys

S4C

Salvador Lopez

Salvador Lopez

Enw llawn a swydd?

Salvador Lopez, Bwyty a Bar La Rondita.

Pryd wnes di ddechrau coginio a beth oedd yr ysgogiad?

Ers pan oeddwn i'n ifanc iawn rwyf wedi bod ag angerdd at fwyd.

Beth yw dy gyngor i gogyddion ifanc?

Ceisio defnyddio'r cynnyrch gorau posib a choginio ag angerdd.

Hoff rysáit/pryd?

Cyw iâr mewn saws garlleg.

Petai ti'n sbeis/berlysieuyn beth fydda ti?

Rhosmari.

Petai ti'n cael dy roi ar ynys bellennig pwy fasa ti ishe fel cwmni a pa fwyd?

Naomi Campbell a ffiled gyfan o gig eidion.

Jamón Serrano - Ham y Mynydd

Mae'r ham unigryw yma o fochyn gwyn yn cael ei gynhyrchu mewn sawl ardal yn Andalucía, a chaiff ei adnabod fel jamón serrano, neu ham y mynydd (daw'r enw o'r gair sierra sef y gair Sbaeneg am gadwyn o fynyddoedd).

Fe ddaw'r ham gorau o bentref uchaf Sbaen, sef Trevélez, sy'n gorwedd ar lethr ddeheuol y Sierra Nevada, rhyw 5575 troedfedd (1700m) uwchlaw lefel y môr.

Trwy gydol y flwyddyn mae gwyntoedd sych yn chwythu trwy'r ardal yma, ac mae'r aer yn eithriadol o lân a chlir.

Wedi i'r moch gael eu lladd, mae eu coesau'n cael eu halltu gyda halen môr bras, cyn cael eu golchi ac yna eu sychu am 12 mis, rhai am 20 neu 32 mis.

Mae'n bosib gwahaniaethu rhwng ham Serrano o fochyn gwyn, a ham o fochyn du Iberaidd.

Mae ham y mochyn gwyn yn llydan ac yn dew ac wedi ei siapio'n debyg i gitâr, tra bod ham y moch Iberaidd yn deneuach ac yn hirach, ac â siâp V sy'n debycach i siâp ffidil.

Mae pentrefi Cumbres Mayores, Cortegana a Jaburgo yn nhalaith Heulva yn Andalucía hefyd yn enwog am eu cig moch.

Mae'r math gorau (a'r drytaf) o fochyn, sef y Pata Negra (Carn Ddu), yn cael ei fwydo ar fes yn unig, ac fe ddywedir bod hinsawdd y bryniau hyn yn berffaith ar gyfer y coed derw sy'n darparu'r mes i'r moch.

Caiff y cynnyrch gorffenedig ei sleisio'n denau a'i fwyta'n amrwd fel tapas, ac er y dywedir na ddylid defnyddio'r hamiau o'r safon uchaf ar gyfer coginio, mae sawl rysáit blasus iawn ar gael ar gyfer coginio Jamón Serrano.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales